Mae tirwedd Cymru’n frith o gannoedd o lynnoedd hardd, dwsinau o gronfeydd dŵr ac afonydd a nentydd lu sy’n byrlymu dros ein creigiau, heb sôn am ein harfordir trawiadol a milltiroedd o draethau perffaith. Mae’r cyfan yn gwneud Cymru’n baradwys i bysgotwr - yn ddihangfa berffaith o straen bywyd bob dydd. Ond gyda chymaint o ddewis, ble ddylech chi ddechrau ar eich antur bysgota? Dyma rai awgrymiadau.

Llynnoedd Gamallt, Eryri

Mae Cymru’n gartref i sawl llyn mynyddig trawiadol, ac mae’r rheini a geir yn Eryri’n rhoi cyfle i bysgota yng nghanol golygfeydd ysgubol i’r pysgotwr anturus.

Mae dau lyn Gamallt (24 a 5 erw) wedi’u lleoli yn rhan orllewinol Mynyddoedd Migneint, a gellir eu cyrraedd drwy gerdded am ryw 25 munud go hawdd dros rostir gwastad o’r maes parcio. Ystyrir y llynnoedd fel pysgodfeydd brithyll gwyllt gorau Cymru, gyda brithyll dros 1 pwys a fagwyd yn wyllt yn cael eu dal yn rheolaidd gan ddefnyddio llinellau sy’n arnofio a phlu gwlyb traddodiadol.

Rheolir y pysgota gan Gymdeithas Bysgota Cambria. Gellir prynu tocynnau ar-lein gyda’r Pasbort Pysgota. Mae’r tymor yn para o 20 Mawrth i 17 Hydref.

Dyn â gwialen bysgota ger llyn.
Dyn yn pysgota plu mewn llyn.

Llynnoedd Gamallt pellennig, ger Blaenau Ffestiniog, Eryri

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Wedi’u lleoli mewn dyffrynnoedd serth a orchuddir â lliwiau brown a gwyrdd, mae cronfeydd dŵr eang Cwm Elan yn cynnig profiad pysgota gwirioneddol hardd. Mae’r argaeau gosgeiddig a Baróc o Oes Fictoria, gyda’u gwaith maen crefftus a’u tyrrau pwysau dŵr addurnedig yn harddu’r ardal ddeniadol hyd yn oed yn fwy, wrth i farcutiaid coch droelli uwchlaw, gan beri fod Cwm Elan yn lle bendigedig i fwrw gwialen.

Mae pob un o’r cronfeydd yn gartref i gyfoeth o frithyll gwyllt, y gellir pysgota amdanynt gan ddefnyddio dulliau pysgota plu. Mae’r mynediad yn hawdd, gyda heolydd a mannau parcio ar hyd ardal eang o’r glannau.

Mae angen tocyn dydd i bysgota yn y cronfeydd, a gellir eu prynu yn nhref gyfagos Rhaeadr oddi wrth Daisy Powell Newsagents neu Hafod Hardware. Mae’r tymor pysgota’n para o 20 Mawrth i 17 Hydref.

Dyn yn pysgota ger cronfa ddŵr fawr.
Dyn yn pysgota ger argae.

Pysgota yn heddwch Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Penmaen Dewi, Sir Benfro

Mae arfordir garw Sir Benfro’n cynnig rhai o’r mannau gorau i bysgota yn y môr yn y DU. Penmaen Dewi yw un o’r mannau pysgota o greigiau gorau i roi cynnig arni wrth fwynhau’r golygfeydd ac awel y môr. Tir garw gyda môr-wiail ydyw yn bennaf, felly rhaid disgwyl colli rhywfaint o offer wrth fynd ati. Ond mae’n werth yr ymdrech – mae llysywod môr enfawr yn llechu yn y dyfnderoedd gan gymryd abwyd môr-lawes, fel y bydd morgwn mawr a morleisiaid.

Bydd gwrachod y môr amrywiol yn llyncu abwyd cranc neu frennig yn agos at y lan yn aml. Gellir dal digonedd o fecryll haf ar offer pysgota sy’n arnofio; pan ddôn nhw’n agos i’r lan, weithiau bydd siarcod yn dilyn! Gallwch ddisgwyl digonedd o forgwn tua diwedd yr haf ac yn yr hydref.

O Dyddewi, ewch ar y B4583 i Draeth Porth Mawr, ble mae maes parcio. Cerddwch i’r gogledd ar hyd llwybr yr arfordir. Misoedd yr haf yw’r gorau ar gyfer pysgota.

Dau berson â gwialennau pysgota yn cerdded ar glogwyn.

Golygfeydd o Benmaen Dewi, Sir Benfro

Ffynnon Lloer, Eryri

Beth am gerdded i’r llyn uchaf y gellir pysgota ynddo yng Nghymru? Mae Ffynnon Lloer yn llyn chwe erw o faint yn y Carneddau, yng ngogledd Cymru. Lleolir y llyn pysgota plu hwn 673 metr uwchlaw lefel y môr, ac mae modd mynd iddo o’r A5 ger Llyn Ogwen. Mae’n awr serth o ddringo i gyrraedd y llyn, ond eich gwobr fydd digon o frithyll gwyllt a golygfeydd bythgofiadwy.

Gellir prynu tocyn pysgota gan Gymdeithas Bysgota Dyffryn Ogwen. Mae’r tymor pysgota’n para o 20 Mawrth i 17 Hydref.

Llyn rhewlifol islaw mynyddoedd gwyllt.
Llyn wrth droed mynydd.

Ffynnon Lloer, yn uchelderau Eryri

Afon Wysg, Sir Fynwy

Rhaid mai afon Wysg, un o afonydd eiconig Cymru, yw afon frithyll orau Cymru, neu hyd yn oed Brydain gyfan. Mae’n gallu cynhyrchu pysgod sy’n pwyso hyd at 5 pwys – a phwysau cyfartalog y pysgod yw tua phwys.

Mae’r afon yn tarddu ar lethrau gogleddol y Mynydd Du, fry uwch cronfa ddŵr Wysg, ac wedyn mae’n llifo’n ddirwystr drwy olygfeydd godidog drwy galon Cymru am 80 milltir i’r môr.

Mae Afon Wysg yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae’n gartref i bysgod sy’n wirioneddol wyllt. Mae gan bob pwll a rhedfa boblogaeth o bysgod i’w edmygu, mae nifer y brithyll yn enfawr, ac mae niferoedd y pysgod fesul milltir yn gallu cystadlu ag afonydd gorau’r byd.

Mae gan afon Wysg sawl darn y gellir pysgota gyda thocyn diwrnod, a gellir cael manylion ar wefan Pysgota yng Nghymru. Mae’r tymor pysgota’n para o 3 Mawrth tan 30 Medi.

Dyn yn pysgota â phlu mewn afon.

Pysgota ar Afon Wysg, Sir Fynwy

Cronfeydd dŵr Phontsticill a Dolygaer, Bannau Brycheiniog

Lleolir cronfeydd dŵr Dolygaer a Pontsticill yng ngogoniant dramatig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng Nghanolbarth Cymru. Mae gan y ddwy gronfa bysgota bras gwych, yn enwedig ar gyfer merfogiaid lluosog a phenhwyaid enfawr. Ceir draenogiaid, carpiaid a rhywogaethau o bysgod arian yn eu niferoedd yn y cronfeydd hefyd.

Mae’r cronfeydd yn agos i dref Merthyr Tudful ac mae’n hawdd cael mynediad, gyda heolydd wrth ochr y rhan fwyaf o’r dŵr. Gellir cael tocynnau gan Gymdeithas Bysgota Merthyr Tudful. Gellir pysgota pysgod bras yn y llynnoedd drwy gydol y flwyddyn.

Cronfa ddŵr wedi’i hamgylchynu â choed.

Cronfeydd Pontsticill a Dolygaer, Bannau Brycheiniog

Straeon cysylltiedig