Cartref criced yng Nghymru

Parcdir deiliog mawr yng nghanol Caerdydd yw Gerddi Sophia, nid nepell o’r afon. Mae’n lle braf i fynd am dro yn yr haul, ond mae hefyd yn gyrchfan pererindod i gefnogwyr criced yng Nghymru, oherwydd dyma gartref Clwb Criced Morgannwg.

Mae’r arena hon o safon fyd-eang ac mae’n gallu dal bron i 16,000 o wylwyr, felly mae timau sy’n ymweld â Gerddi Sophia yn gwybod o’r gorau am yr awyrgylch trydanol a gaiff ei greu pan fydd y seddi’n llawn a phan fydd cefnogwyr y tîm cartref yn bloeddio’u bonllef.

Mae Gerddi Sophia yn hygyrch i bob ymwelydd, ond byddai’n syniad da ichi gysylltu ymlaen llaw os oes gennych gwestiynau neu anghenion penodol. Mae gan nifer o’r mynedfeydd fynediad gwastad, a cheir mannau gwylio ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd, yn cynnwys llwyfan uwch y gellir ei gyrraedd mewn lifft. Ymhellach, mae’r cyfleusterau arlwyo a’r toiledau yn hygyrch ac estynnir croeso cynnes i gŵn cymorth.

Stadiwm criced ar lan afon oddi uchod.

Stadiwm Griced Gerddi Sophia, Caerdydd

Gwylio criced yng Nghaerdydd

Criced rhyngwladol

Mae Gerddi Sophia yn cynnal gemau criced rhyngwladol yn rheolaidd. Yn wir, mae yna lu o wahanol fathau o griced i ddewis o’u plith.

Y Cant

Mae’r gêm ‘100 pêl’ newydd yn gyflym ac yn llawn cyffro. Ceir wyth o dimau sy’n cynnwys chwaraewyr rhanbarthol o gyfuniad o wledydd. Fel arfer, caiff gemau’r dynion a’r menywod eu cynnal ar yr un diwrnod, felly cewch gyfle i weld y ddwy. Cynhelir pedair gêm yng Ngerddi Sophia, ac yn ddi-os byddant yn ddiwrnod allan gwych i’r holl deulu, gydag adloniant o fath arall wedi’i drefnu hefyd. Caiff timau’r De Orllewin eu galw’n ‘Dân Cymru’.

 

Mae batiwr yn paratoi i gymryd streic mewn gêm griced.
Bowliwr yn dathlu cipio wiced mewn gêm griced.

Batiwr a bowliwr Morgannwg ar waith, Gerddi Sophia, Caerdydd

Criced undydd – y Royal London Cup

Mae gemau cwpan undydd yn cynnwys 50 pelawd, felly maen nhw’n para dipyn yn hirach na gemau’r Cant. 

Cricedwr gwrywaidd yn arwyddo llofnodion.

Un o gricedwyr Morgannwg yn rhoi llofnodion, Gerdd Sophia, Caerdydd

Criced Pencampwriaeth y Siroedd

Os yw’n well gennych fformat traddodiadol y gêm, bydd Morgannwg yn cynnal nifer o gemau cartref. Bydd dwy o gemau pencampwriaeth y siroedd yn cael eu cynnal yma ym mis Medi. Fel arfer, caiff y rhain eu cynnal dros bedwar diwrnod ac mae’n hawdd cael tocynnau ar eu cyfer. Felly, os ydych awydd diwrnod yn yr haul yn gwylio rhywfaint o griced, go brin y cewch eich siomi.

I gael rhagor o wybodaeth ac i brynu tocynnau ar gyfer yr holl gemau, ewch ar wefan Criced Morgannwg.

Darllen mwy: Crwydro Caerdydd mewn 24 awr

Gwylio criced yng Nghastell-nedd

Er bod y mwyafrif o gemau criced proffesiynol Cymru yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia, caiff ambell gêm ei chwarae mewn mannau eraill. Yn 2022, mae XI cyntaf y dynion yn chwarae dwy o gemau’r Royal London Cup yn y Gnol, Castell-nedd - y tro cyntaf i’r tîm chwarae yma ers 1994.

Ymhellach, mae gan Fae Colwyn, St Helens a Chasnewydd feysydd criced sydd wedi cynnal gemau criced tîm cyntaf yn y gorffennol a’r uchelgais yw cynnal gemau ar rai o’r meysydd hyn drachefn yn y dyfodol.

Tyrfa o bobl mewn stadiwm criced ar ddiwrnod heulog.

Tyrfa o bobl yn mwynhau criced yng Ngerddi Sophia, Caerdydd

Ymweld ag Amgueddfa Criced Cymru

Hyd yn oed os na lwyddwch chi i gael tocynnau i weld gêm griced yng Nghymru, gallwch deimlo rhywfaint o’r naws trwy ymweld ag Amgueddfa Criced Cymru CC4. Mae’r amgueddfa hon yn cynnwys casgliad helaeth o eitemau cofiadwy o’r byd criced dros y degawdau – rhai’n dyddio i’r ddeunawfed ganrif.

Tlysau, gwobrau, batiau wedi’u llofnodi, hen ffotograffau, cardiau cadw sgôr a mwy. Yng Ngerddi Sophia y lleolir yr amgueddfa hon hefyd. Bydd ar agor ar ddiwrnodau’r gemau. Gallwch ymweld â’r amgueddfa ar ddiwrnodau eraill hefyd trwy drefnu ymlaen llaw – rhowch wybod iddyn nhw dri diwrnod gwaith ymlaen llaw eich bod yn bwriadu ymweld (museum@glamorgancricket.co.uk). Hefyd, gallwch fynd ar daith o amgylch y stadiwm a defnyddio codau QR i ddarllen paneli gwybodaeth ar eich ffôn.

Darllen mwy: Darganfyddwch ein saith amgueddfa genedlaethol

Memorabilia criced y tu mewn i gabinet arddangos
Ystlum criced y tu mewn i gabinet arddangos.

Eitemau cofiadwy o’r byd criced yn cael eu harddangos yng Ngerddi Sophia, Caerdydd

Gwylio criced ar lefel clybiau yng Nghymru

Caiff criced ar lefel clybiau ei chwarae ar feysydd ledled Cymru. Os hoffech wylio ambell belawd, gan fwynhau peint neu baned o de ar yr un pryd, yna beth am edrych ar wefan play-cricket.com i weld ble yn union y caiff gemau criced o’r fath eu cynnal.

Straeon cysylltiedig