Yn blentyn, roeddwn i’n hynod o ffodus bod fy nheulu’n hoff o fynd ar wyliau i bob cwr o Gymru. A finnau’n fachgen bach, roedd y cestyll mawr, y mynyddoedd di-ben-draw a’r traethau godidog i gyd yn denu, ond pysgota oedd y peth mawr.
Fe alla’ i weld o hyd y cerpyn euraidd hwnnw a ddaliais mewn pwll ar fferm yn Ynys Môn, a’r rhwyd yn llawn penfreision a ddaliodd fy nhad a minnau ger Aber-bach (a ddaeth yn bastai bysgod anferth maes o law!). Roeddwn i wrth fy modd â brithyllod bach nentydd Eryri hefyd (rwy’n cofio dotio at eu lliwiau a meddwl y gallen nhw’n hawdd fyw mewn riff cwrel trofannol). Byddai fy chwaer a minnau’n treulio oriau dirifedi yn casglu pilcod, gwrachod barfog a phennau lletwad yn ein rhwydi.
Diolch i ddyfroedd toreithiog Cymru, des i’n hynod o hoff o bysgod a physgota, a byddai’r hobi hwn yn para oes. Ac wrth fagu fy nheulu yma yn y de, mae pysgota’n dal i fod yn un o’n hoff bethau ni i’w gwneud ar bob gwyliau.


Mae gwyliau pysgota yng Nghymru yn ffordd wych o dreulio amser gwerth chweil yng nghwmni ffrindiau, teulu neu gymar. Does dim gwahaniaeth pa mor brofiadol ydych chi, beth fo’ch anghenion hygyrchedd, pa rywogaethau sy’n mynd â’ch bryd, na sut byddwch chi’n hoffi pysgota. Mae wastad ddigonedd o gyfleoedd addas pan fyddwch chi ar wyliau pysgota yng Nghymru.
Isod, dyma droi cannoedd o gyfleoedd pysgota gwych yn llond llaw o ddewisiadau ar gyfer ‘gwyliau’ ym mhob ardal, gan adlewyrchu’r amrywiaeth o opsiynau pysgota yn ein gwlad. Mae yma hefyd ddetholiad o lefydd lle gallai pysgota fod yn brif weithgarwch yr wythnos, neu’n rhywbeth i’w wneud am ychydig oriau hamddenol yn ystod eich gwyliau.
I gael rhestr lawnach o’r holl lefydd pysgota ledled y wlad, cymerwch olwg ar y gronfa ddata benigamp ar wefan Pysgota yng Nghymru.
Gwyliau pysgota yn y de
Mae gan y de afonydd ardderchog, llefydd pysgota gwych yn y môr o amgylch aber afon Hafren, a sawl llyn penigamp i bysgota am gerpynnod a genweirio er pleser. Yn wir, ar wyliau pysgota yn y de, fe allech chi ddal dros ddwsin o rywogaethau o bysgod, mewn dŵr hallt a dŵr croyw, a hynny yr un diwrnod!
A’r rheini i’w canfod rhwng Casnewydd a Chaerdydd, mae gan lynnoedd Cefn Mabli amrywiaeth o gabanau i barau a bythynnod i grwpiau mwy. Mae rhai o’r rhain yn addas i gŵn, ac mae gan rai ohonyn nhw dybiau twym sy’n rhoi golygfeydd o’r llynnoedd i chi. Mae’r stoc yn helaeth ym mhob un o’r wyth llyn, gyda siawns dda iawn o ddal cerpyn dros 20 pwys a physgod dros 40 pwys yn y prif lyn sbesimen. I ddifyrru’r plant, mae Parc Fferm Cefn Mabli dafliad carreg i ffwrdd.


Mae’n werth pacio gwialen yn eich bag wrth ymweld â’n prifddinas hefyd. Mae’r cyfleoedd pysgota trefol yn afon Taf, sy’n llifo drwy ganol Caerdydd, ymhlith y gorau ym Mhrydain – mae modd dal penllwydion, barfogion, tybiau’r dail a brithyllod wrth i’r afon wneud ei thaith am Fae Caerdydd. Mae tocynnau dydd ar gael yn siop bysgota Garry Evans.

Gwyliau pysgota yn y canolbarth
Nid pawb sy’n gwybod am yr ardaloedd ardderchog yn y canolbarth, lle mae’r opsiynau pysgota’n cynnwys afonydd gwyllt a nentydd diarffordd, yn ogystal â rhai llynnoedd penigamp yn y mynyddoedd, a chithau’n debygol o gael yr holl le i chi’ch hun.
Y gaeaf diwethaf, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael ymweld â’r llyn 30 acer naturiol, Llyn Ebyr, gyda diolch i Pysgota yng Nghymru. Ces fy syfrdanu gan botensial y genweirio a harddwch hynod y lle. A hwnnw bellach yng ngofal rheolwyr newydd, mae nifer o lwyfannau pysgota a chychod ar gael i ddal draenogiaid a phenhwyaid, sy’n doreithiog yma, ac mae digonedd o lefydd aros yn ardal Llanidloes hefyd.

Mae afon Gwy yn enwog fel afon fwyaf poblogaidd Prydain. Fel rhan o fy nghyfres i’r BBC, teithiais o’i tharddiad i’r môr, ac rwyf wedi dal sawl rhywogaeth yma, o benhwyaid anferth i’r barfogion enwog, o frithyllod i dybiau’r dail. Ond yn y rhannau o’r afon sydd yn y canolbarth, does dim gormod o bysgota’n cael ei wneud, ac maen nhw’n llefydd hardd tu hwnt. Gyda chyfleoedd i fwynhau cronfeydd dŵr Cwm Elan gerllaw, rhowch gynnig ar ardal The Rectory, ar ôl prynu tocyn dydd ar gyfer pysgota bras drwy’r Fishing Passport. Neu beth am bysgota â phlu yn un o’r nentydd yn nalgylch afon Gwy sy’n llawn brithyllod, fel afon hyfryd Edw?


Gwyliau pysgota yn y gorllewin
Mae’r gorllewin yn Afallon i enweirwyr. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae arfordir toreithiog Sir Benfro; traethau tywodlyd Gŵyr; a’r cyfle i ddal pysgod helwriaeth a brithyllod ar afonydd enwog Teifi a Thywi.
Ym mhysgodfa White Springs ger Abertawe mae sawl math o lety ar gael, gan gynnwys cabanau pren Sgandinafaidd, fflatiau a charafanau ar lan y llyn. Mae’n ddewis heb ei ail ar gyfer teuluoedd a chriwiau o ffrindiau sydd eisiau pysgota. Mae tocynnau dydd yn cael eu gwerthu ar y safle, ac mae yno siop bysgota werth chweil hefyd. Yn y llynnoedd pleser ar gyfer pysgota cymysg, byddwch chi’n aml yn llwyddo i ddal pysgod y tro cyntaf y byddwch chi’n bwrw’ch gwialen i’r dŵr. Mae opsiynau hefyd i geisio dal cerpynnod hyd at 45 pwys yn y llyn sbesimen. I roi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae’r llynnoedd hyn hefyd yn gartref i ddraenogiaid sydd gyda’r mwyaf a welwyd yng Nghymru erioed!


Allwn i byth fod wedi gadael Aber-bach oddi ar fy rhestr ar ôl treulio cymaint o amser yno ar fy ngwyliau’n blentyn. Mae Aber-bach yr un mor hardd ag erioed, tra bo’r trwyn ar ochr dde’r bae yn rhoi cyfle i ddal mecryll, draenogiaid a llithwyr, yn ogystal â physgod fflat a rhywogaethau mwy o faint. Mae modd defnyddio llinynnau pwysau yma hefyd. Gerllaw, mae gan Aberdaugleddau opsiynau i logi cychod, gan gynnwys y cyfle i bysgota am forgwn glas yn nyfnderoedd y Môr Celtaidd.

Sefydlwyd yr Ian Heaps Fishing Resort gan Ian Heaps, y genweiriwr tra enwog o Gymru. Mae’r bysgodfa hon ger Arberth, sydd yng ngofal y teulu, yn cynnig llety gwely a brecwast am y noson. Mae yma hefyd fflatiau hunanarlwyo sy’n addas i deuluoedd, i barau neu i griwiau o ffrindiau sy’n dymuno aros am gyfnod hwy. Mae gan y bysgodfa hygyrch dri llyn sy’n llawn cerpynnod, ysgretanod a rhywogaethau cymysg, ac mae modd pysgota hefyd ar ran filltir o hyd o afon Cleddau Ddu, lle ceir sewin sy’n pwyso ffigurau dwbl.
Gyda nifer o opsiynau llety ar gael, o feysydd gwersylla i fythynnod, mae’r darn o arfordir Gŵyr ger Llangynydd / Bae Rhosili yn wir odidog. Bydd cyfle i chi bysgota fan hyn am ddraenogiaid yn yr haf ac i ddal amrywiaeth o rywogaethau’r môr, a’r cyfan â dim mwy na llinyn pwysau, bachyn, ac abwyd melys amrywiol. Yn well byth, bydd y bae tywodlyd braf yn sicr o roi oriau o ddifyrrwch i bawb arall, gyda phopeth yma o lwybrau cerdded arfordirol i gyfleoedd i syrffio a chodi cestyll tywod!
Gwyliau pysgota yn y gogledd
Fel rhan o fy nghyfres i BBC Cymru, ‘Go Fish!’ , roeddwn i’n ddigon ffodus i gael neidio ar gwch llogi yng Nghaergybi gyda chapten lleol hynod o brofiadol. Mae nifer o gychod llogi ardderchog ar gael yn y gogledd. Gan amlaf, mae modd trefnu’r teithiau’n arbennig i gyd-fynd â’ch anghenion a’ch gallu chi.
Fymryn y tu hwnt i Lyn Garth ar Ynys Môn mae Llyn y Gors, un o bysgodfeydd bras gorau’r gogledd gyfan. Mae yno bum llyn ynghyd â safle carafanau a bythynnod gwyliau. Mae’r llyn i ddechreuwyr yn orlawn o bysgod bach i gadw pobl ifanc yn brysur, ond am rywbeth i greu gwir argraff, ewch i lyn sbesimen y cerpynnod a’r morfleiddiaid.
Mae llawer mwy na mynyddoedd i Barc Cenedlaethol Eryri – mae’i lynnoedd bychain a’i nentydd yn cynnig cyfleoedd hynod o anturus i bysgota brithyllod. Yn Llyn Trawsfynydd wedyn, yng nghysgod yr orsaf bŵer niwclear sydd wedi’i dad-gomisiynu, mae’r dŵr helaeth yn llawn brithyllod sbesimen a phenhwyaid gwir anferthol.

Felly, mwynhewch eich gwyliau a mwynhewch bysgota yng Nghymru. Byddwch yn ddiogel, holwch am yr holl reolau lleol a’r tymhorau pysgota, a chofiwch y bydd angen trwydded i bysgota â gwialen arnoch chi er mwyn pysgota mewn dŵr croyw os ydych chi dros 16 oed. Mae modd i blant rhwng 13 ac 16 oed gofrestru am ddim, a does dim angen trwydded ar neb o dan 13 oed.