Mae ein harfordir yn hardd o ddramatig. Ond mae’r wlad gyfan wedi’i chroesi blith draphlith ag afonydd a dyfrffyrdd, ac wedi’i brychu gan lynnoedd - oll yn cynnig profiadau fel rafftio dŵr gwyn ac i wlychu bodiau'r traed yn yr haul. Dyma gyflwyniad i rai o'n hafonydd, ein camlesi a'n llynnoedd - a'r anturiaethau sydd i'w canfod ar eu glannau, arnynt… ac o dan eu dyfroedd.
1. Afon Gwy
Enillodd Afon Gwy bleidlais a gynhaliwyd i ddod o hyd i hoff afon Prydain, ac mae hynny oherwydd ei bod hi'n cynnig golygfeydd godidog, gwledd o fywyd gwyllt a bob math o anturiaethau. Fel y bydd Sefydliad Gwy ac Wysg yn dweud, mae’r afon ar gyfer ‘rhwyfwyr, canŵ-wyr, pysgotwyr, cerddwyr, pawb sy’n caru natur ac unrhyw un sy’n hoffi harddwch tirwedd’. Tipyn o bawb, felly!
Gallwch amsugno’r cyfan ar daith heddychlon mewn canŵ neu gaiac gyda Wye Valley Canoes. Llogwch ganŵ Canada neu gaiac sengl neu ddwbl am ychydig oriau - neu am sawl diwrnod.
Bydd angen hanner diwrnod arnoch i fynd i’r Gelli Gandryll, prifddinas llyfrau ail-law'r byd, a lle gwych i grwydro o’i gwmpas am y pnawn. Neu mentrwch i dref hardd Trefynwy, ble gallwch aros dros nos.
![Golygfa o adeilad Wye Valley Canoes ar lannau'r Afon Gwy, Sir Fynwy](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_small__16_9_1x/public/media-library/2019-01/SVW-C45-1617-0027.jpg-small.jpg?h=e5aec6c8&itok=2eVBgdHs)
2. Yr Afon Tywi
Yn 75 milltir o hyd, Afon Tywi yw afon hiraf Cymru, a gwelir rhai o atyniadau mwyaf gogoneddus y wlad ar hyd ei glannau.
Mae’n ymdroelli drwy Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gerddi Aberglasne bendigedig, a Pharc Dinefwr, ble gallwch gyfuno ymweliad ag olion castell Tywysogion Cymru o’r 12fed ganrif, â gweld y crëyr glas yn pysgota ar lan yr afon. O’r fan hon, mae’r afon yn troi tua’r gogledd a thrwy Warchodfa Natur RSPB Gwenffrwd-Dinas.
O ddilyn llwybr deniadol tair milltir o hyd ar lan yr afon, fe ddewch i’r ogofeydd serth ble'r arferai Twm Siôn Cati guddio rhag ei arch-elyn, Siryf Caerfyrddin, Ewch yno tua diwedd y gwanwyn neu ddechrau’r haf, pan fydd carped o glychau’r gog yn gorchuddio llethrau’r goedwig.
Yn y cyfamser, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ychydig filltiroedd i’r de o Ddinefwr, tafarn y Cennen Arms yw man cychwyn dau lwybr cerdded sy’n cynnwys croesi Afon Cennen. Gwyliwch y barcud coch yn hongian ar yr awel uwch eich pen wrth i chi ryfeddu ar Gastell Carreg Cennen, sy’n glynu wrth graig uwchlaw’r dyffryn.
![Golygfa fewnol o'r Tŷ Gwydr Mawr, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__1_1x/public/media-library/2020-05/SVW-C55-1920-0024-small.jpg?h=72e0457b&itok=IiV7KNxf)
![Afon sy'n llifo gyda chreigiau wedi'i hamgylchynu gan goed](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__1_1x/public/media-library/2020-10/SVW-D04-2021-0013.jpg?h=70a44266&itok=L1nKBk5f)
3. Yr Afon Teifi
Prin ddwy filltir yn fyrrach nag Afon Tywi, mae Afon Teifi, 73 milltir o hyd, yn un o afonydd hiraf y wlad, a hi sy’n nodi’r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ar hyd y rhan helaethaf o’i chwrs, a ffin Ceredigion a Sir Benfro ar hyd y tair milltir olaf tua’r môr.
Mae afon Teifi’n odidog o hardd a hir, ydy, ond mae hefyd yn faes chwarae llawn antur sy’n cynnig caiacio, canŵio, arfordira a nofio. Mae Llandysul Paddlers yn cynnig yr holl weithgareddau hyn, ynghyd â gŵyl afon flynyddol yn yr haf a’r ‘Teifi Tour’ – penwythnos o rwyfo a dathlu – yn yr hydref.
Afon Teifi yw lleoliad un o wir ryfeddodau byd natur y flwyddyn hefyd: naid yr eogiaid. Ewch i Raeadr Cenarth i weld y wyrth. Galwch heibio i Ganolfan Genedlaethol y Cwrwgl yr un pryd i ddysgu am draddodiad hudolus pysgota â chwrwgl: mynd allan mewn cwch bach crwn ynghanol nos (ar ôl i saith seren ymddangos) i bysgota am eog a sewin lleol.
![Gwydraid o gwrw ar lan yr Afon Teifi](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2019-01/160703-Visit-Wales-003-print-small.jpg?h=76db1143&itok=1yoo3FQ6)
![Cwch ar Afon Teifi, Aberteifi](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2019-01/160703-Visit-Wales-006-print-small.jpg?h=06f6671c&itok=T-ivfYZt)
4. Traphont Ddŵr Pontcysyllte ac Afon Dyfrdwy
Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn gallu hawlio sawl peth: dyma'r draphont ddŵr hynaf a hiraf y gellir mynd arni mewn cwch ym Mhrydain, y draphont ddŵr uchaf yn y byd, mae'n adeilad rhestredig Gradd I, ac yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae hefyd yn atyniad rhagorol i ymwelwyr. Cafodd y strwythur 18 bwa ei gynllunio a’i adeiladu gan Thomas Telford a William Jessop i gario Camlas Llangollen dros Afon Dyfrdwy, ac mae’n un o orchestion mwyaf y chwyldro diwydiannol.
Gallwch gerdded ar draws y draphont, er na fyddem ni’n argymell hynny os nad ydych chi’n hoffi uchder! Efallai y byddai taith drosti mewn cwch yn well - a gallwch hyd yn oed logi eich cwch eich hun. I gael profiad arbennig arall ar y gamlas, ewch i Lanfa Llangollen ac ewch ar daith mewn bad a dynnir gan geffyl ar hyd cangen o’r brif gamlas.
Os yw hyn i gyd yn swnio’n rhy hamddenol i chi, rhowch gynnig ar brofiad rafftio dŵr gwyn i lawr Afon Dyfrdwy. Mae Whitewater Active yn un o nifer o gwmnïau sy’n trefnu dyddiau allan cyffrous ar rafftiau, ble byddwch chi’n tasgu dros ddŵr garw Gradd 2/3, gan gynnwys uchafbwyntiau fel ‘Cynffon y Sarff’.
![Llun o'r draphont oddi tanodd gyda choed ac afon](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_small__16_9_1x/public/media-library/2021-01/NVW-C41-1617-0002-small_0.jpg?h=f90d83d1&itok=_TPW7JHO)
5. Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu
Un o’r darnau mwyaf heddychlon o ddŵr yng Nghymru yw Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu – neu ‘Mon and Brec’ fel y'i gelwir yn lleol – dyfrffordd ddiarffordd sy’n igam-ogamu drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gamlas, sy’n dilyn Dyffryn Wysg, yn hafan i fywyd gwyllt, ac fe allwch chi weld bwncath, barcud coch, crëyr glas a gwas y neidr yn trywanu drwy’r awyr lonydd yma. Ewch ar feic neu fad ar hyd y gamlas o Aberhonddu, neu gallwch gerdded ar hyd y llwybr a chael seibiant yn un o’r tafarndai niferus a geir ar lan y gamlas ar hyd y ffordd.
Mae’r ddyfrffordd yn pasio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon – sy’n cynnwys Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru – ynghyd â threfi marchnad hyfryd Crughywel a’r Fenni. Mae’r Fenni yn gartref i un o wyliau bwyd gorau’r byd yn ystod yr hydref, ac mae’n lle delfrydol i brynu picnic.
![Golygfa o gwch cul yn agosáu at bont.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2020-02/SVW-C102-1920-0015_cropped-small.jpg?h=184ba7ff&itok=yMoWAPbc)
![Cychod ar y gamlas wedi'i hangori o dan goeden gyda phont yn y cefndir.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/SVW-C102-1920-0040-small.jpg?h=e5aec6c8&itok=o53igEDp)
6. Llyn Tegid
Llyn Tegid ger y Bala yw’r llun naturiol mwyaf yng Nghymru. Mae’n mesur dros dair milltir a hanner o un pen i’r llall, mae’n dri chwarter milltir o led, ac mae’n cyrraedd dyfnderoedd o 140 troedfedd mewn mannau - efallai mai yn y dyfnderoedd hyn y mae Tegi yn cuddio…?
Tegi yw ateb Cymru i Fwystfil Loch Ness, creadur dirgel sydd wedi cael ei ‘weld’ ers y 1920au. Er mai chwedl, fwy na thebyg, yw Tegi, mae Llyn Tegid yn gartref i greadur cynhanesyddol arall: pysgodyn o’r enw’r Gwyniad, sydd wedi goroesi yma ers Oes yr Iâ. Dim ond dros fisoedd y gaeaf y gwelir y pysgod prin hyn yn agos at wyneb y dŵr, pan fyddan nhw’n dodwy wyau.
Heddiw mae Llyn Tegid yn boblogaidd gan hwylwyr, canŵ-wyr a hyd yn oed syrffwyr gwynt. Mae Bala Watersports yn cynnal dewis o weithgareddau yma ac yn llogi offer. Mae'r ardal hon hefyd yn cynnig sawl peth arall o ddiddordeb i ddŵr-garwyr, gan gynnwys Pistyll Rhaeadr, rhaeadr uchaf Cymru; Llyn Efyrnwy (gweler isod); ac Afon Tryweryn, cartref Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol Cymru - ble rheolir y dŵr gan argae, er mwyn sicrhau fod dŵr garw yma ym mhob tymor.
![Llyn Tegid yn adlewyrchiadau arian.](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_small__16_9_1x/public/media-library/2018-12/MVW-C47-1011-0063.jpg?h=e5aec6c8&itok=ngJNLQTZ)
7. Llyn Efyrnwy
Cronfa ddŵr yw Llyn Efyrnwy mewn gwirionedd, a adeiladwyd yn yr 1880au i ddarparu cyflenwad o ddŵr croyw i Lerpwl. Bu’n rhaid boddi pentref bach Llanwddyn i greu’r llyn, a symud y bobl oddi yno i gartrefi newydd. Wrth i chi edrych allan dros lonyddwch digyffro’r dŵr, mae’n anodd dychmygu’r tai, y swyddfa bost a’r eglwys sy’n dal i orwedd o dan yr wyneb. Mae hi hefyd yn anodd credu mai gwaith dyn yw’r llecyn hwn o harddwch byd natur.
Amgylchynir y llyn pum milltir o hyd gan olygfeydd mynyddig godidog sy’n gartref i gyfoeth o fyd natur – rheolir y llyn a’r ystâd ar y cyd gan yr RSPB a chwmni dŵr Severn Trent. Bydd gwylwyr adar a phobl sy’n caru byd natur yn heidio yma, a gellir mwynhau seiclo’r 12 milltir o gwmpas y dŵr ynghyd â dilyn sawl llwybr cerdded deniadol.
Mae’r lleoliad hefyd yn denu pobl sydd eisiau dianc i foethusrwydd Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy. Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu aros, archebwch fwrdd â golygfa ysgubol ym Mwyty’r Tŵr, a mwynhewch bryd rhagorol o fwyd wrth i chi syllu ar y gogoniannau drwy’r ffenest.
![Edrych i lawr ar Lyn Efyrnwy, y coed a'r bryniau](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_medium__4_3_1x/public/media-library/2019-01/MVW-C60-1617-0039-small.jpg?h=5b42a7d4&itok=70hFxOxC)
8. Llyn y Fan Fach
Efallai fod yr heol i fyny at Lyn y Fan Fach yn arw, a’r llwybr i ben y gefnen yn eithaf serth, ond mae’r cyfan yn werth yr ymdrech er mwyn mwynhau’r golygfeydd syfrdanol a gewch chi dros y dŵr dirgel a chwedlonol hwn o gopa Picws Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a’r Mynydd Du’n bwrw’i gysgod drosoch.
Mae’r llyn wir yn chwedlonol, oherwydd dywedir yn y Mabinogion fod un o’r tylwyth teg wedi codi o’r llyn i briodi â ffermwr lleol, ond bod y briodas wedi mynd i’r gwellt oherwydd camddealltwriaeth a hudoliaeth. Dihangodd y forwyn yn ôl i’r llyn, a bu’n rhaid i’r ffermwr fagu’u meibion ar ei ben ei hun; aeth y tri mab ymlaen i fod yn feddygon rhagorol, a gofir hyd heddiw fel Meddygon Myddfai.
Mwynhewch bicnic ar lan Llyn y Fan Fach neu gallwch hyd yn oed fentro i nofio yn y dŵr, gan gadw llygad am y ferch sy’n dal i fyw dan y tonnau, wrth gwrs…
![Llyn y Fan Fach o'r awyr, gyda'r bryniau ar y dde](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_small__4_3_1x/public/media-library/2019-01/SVW-C44-1718-0120-small.jpg?h=3638cbd2&itok=y2_zTjpD)
9. Llyn Ogwen
Os ydych chi eisoes wedi dringo copaon Eryri ac yn ystyried fod angen gorffwyso cyhyrau’r coesau, ewch am dro cylchynol o gwmpas Llyn Ogwen, sy’n cynnig golygfeydd rhagorol o fynyddoedd Tryfan a’r Glyderau – heb orfod dringo’r un allt!
Mae’r llyn hwn fel rhuban ac yn filltir o hyd, ond dim ond tri metr o ddyfnder ydyw, felly dylai fod yn ddigon hawdd i’r anturiaethwr chwedlau leoli Caledfwlch ynddo, sef cleddyf enwog y Brenin Arthur, am fod sawl un yn honni mai Llyn Ogwen yw’r man ble taflwyd yr arf chwedlonol gan Bedwyr, yn drist a distaw, wrth iddo ffarwelio am y tro olaf â’i frenin…
10. Llyn Llydaw
…Neu ydy Caledfwlch ar waelod Llyn Llydaw?! Nid nepell o Ogwen ac ar lethrau isaf yr Wyddfa, mae gan Lyn Llydaw achos da hefyd i fod yn gartref dyfriog i’r arf enwog. Mae Llwybr y Mwynwyr i ben yr Wyddfa yn mynd heibio i’r llyn, gan gynnig golygfeydd ysgubol wrth i chi ddringo.
![Cerddwr yng nghanol copaon o eira yn Eryri - ar lan Llyn Llydaw yn y gaeaf.](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_fullbleed__thin_1x/public/media-library/2018-12/NVW-C65-1112-0432.jpg?h=62c27c7e&itok=e9yFcaQa)