P'un a eich bod chi eisiau antur adfywiol mewn mannau agored eang, gweithgareddau anarferol neu ddiwrnodau allan sy'n bywiocáu. Mae’r diwrnodau allan llawn antur hyn yn ddelfrydol i greu atgofion a chsylltiadau newydd, a byddan nhw’n cadw eich ffrwd Instagram yn brysur a'ch ymennydd yn llawn atgofion.

Pen y Fan

O Gaerdydd: 40 milltir / 1 awr mewn car

Mae dechrau'r diwrnod yn gwylio'r haul yn gwawrio ar ben y mynydd uchaf yn ne Prydain yn yn hollol hudolus. Saif y mynydd ar uchder o 886 metr, ac mae ei agosrwydd at Gaerdydd ac ystod y llwybrau yn gwneud hwn yn waith apelgar. Mae'r golygfeydd ar y ffordd i'r copa’n ysblennydd, cewch fwynhau golygfeydd godidog o Gronfa Ddŵr Neuadd ac ar ddiwrnod clir iawn, Bryniau Malvern a hyd yn oed Cader Idris ac Eryri. Mae teithio gyda thywysydd priofiadol yn rhoi cyfle i chi brofi llwybrau eraill ymhell o'r torfeydd a dod i adnabod copaon gan gynnwys Fan-y-Big, Craig Cwm Sere a Chefn Cwm Llwch.

Golygfa o fynyddoedd ac awyr las.

Pen y Fan, Bannau Brycheiniog

Byddwch yn fugail: gofalwch am alpaca

O Gaerdydd: 30 milltir / 45 munud mewn car (Abertawe) a 46 milltir / 1 awr 15 munud mewn car (Earlswood)

Efallai nad yw alpacas yn dod i’r meddwl yn syth wrth gynllunio'ch anturiaethau yng Nghymru. Ond gyda phorfeydd gwyrdd a mannau agored, mae Cymru’n lle delfrydol i warchodfeydd anifeiliaid ffynnu. Gall pobl sy’n ymweld â Welsh Valley Alpacas yn Felindre, Abertawe ac Amazing Alpacas ger Earlswood, Sir Fynwy dreulio'r diwrnod yn perffeithio’u sgiliau bugeilio, gan ddysgu popeth am sut i ofalu am alpacas ac wrth gwrs, bwydo'r haid. Efallai y bydd y rhai mwy serchog yn eu plith hyd yn oed awydd cwtsh.

Syrffio ben bore

Os ydych chi'n teimlo'n ddelicet ar ôl bywyd nos Caerdydd yna gallai dadflino gyda thro bach yn y môr fod yn berffaith. Dafliad carreg o gyffro’r ddinas, mae digon o gyfleoedd i brofi môr bywiog Cymru, gyda dosbarthiadau grŵp a gwersi syrffio 1:1. Mae tref lan môr gyfagos Porthcawl mewn lleoliad delfrydol ar gyfer syrffio, yn wynebu’r gorllewin ac yn llwybr chwyddiadau Môr Iwerydd arfordir Cymru. Mae baeau a childraethau Traeth Coney, Bae Trecco, Drenewydd yn Notais a Rest Bay hefyd mewn lleoliad perffaith ar gyfer digon o ddiodydd a danteithion ôl-syrffio ar hyd yr esplanade, glan y môr a glan yr harbwr.

Children body boarding on a beach.

Traeth Rest Bay, Porthcawl

Halen y ddaear: bwytewch Fara Lawr

O Gaerdydd: 25 milltir / 45 munud mewn car

Mae lafwr, sef gwymon mân sy’n cael ei gasglu ar hyd arfordir Cymru, yn bendant yn fwyd ar gyfer y rhai sydd â chwaeth anturus. Does gan fara lawr ddim byd i’w wneud â bara mewn gwirionedd; mae'n debycach i purée. Mae’n ymddangos ar fwydlenni traddodiadol / o ansawdd da yng Nghymru, ond i’w wir werthfawrogi ac efallai hyd yn oed fwynhau ei flas, beth am roi cynnig ar ei goginio? Am brofiad yn y fan a'r lle, beth am goginio'ch gwledd eich hun ar draeth sy'n croesawu barbeciws yn Nghymru. Mae bae garw Dwnrhefn yn ddiwrnod bach gwych allan o Gaerdydd. 

Llun o berson gyda'u cefn at y camera, yn wynebu'r traeth a'r môr, gyda bwrdd syrffio dan eu cesail
Llun o deulu'n rhedeg ar y traeth

Bae Dwnrhefn

Dewch o hyd i'ch môr-forwyn fewnol: nofio gwyllt

O Gaerdydd: 60 milltir / 1 awr mewn car (Aberhonddu), 27 milltir, 37 munud mewn car (Blaenafon), 30 milltir / 40 munud mewn car (Brynbuga)

Mae nofio mewn dŵr agored yn wahanol iawn i nofio mewn pwll. Mae ceryntau na allwch eu gweld, dŵr oer a thonnau’n gwneud nofio gwyllt yn llawer mwy heriol. Ymunwch â chlwb lleol neu dysgwch gan arbenigwyr cyn mentro – rydym ni bob amser yn argymell defnyddio tywysydd neu nofio gyda chlwb mewn dŵr agored. Darllenwch ragor o awgrymiadau ar sut i nofio’n ddiogel.

Nid y Sgandinafiaid yw'r unig rai sy’n hoff o nofio bywiocaol yn yr awyr agored. Yng Nghymru, mae digon o byllau naturiol a mannau sy'n boblogaidd gyda nofwyr gwyllt. Mae Llyn y Fan Fach yn Aberhonddu, Keeper’s Pond ym Mlaenafon, Y Bryn yn Afon Wysg a Phont Bredwardine ym Mrynbuga’n llecynnau delfrydol y mae’r nofiwr gwyllt ac awdur ‘Wild Guide to Wales’ Daniel Start yn eu ffafrio. A chofiwch - rydym bob amser yn argymell eich bod chi'n nofio gyda thywysydd, byth ar ben eich hun.

Creigiau campus: cerdded ceunentydd

O Gaerdydd: 30 milltir / 40 munud mewn car

Mae tirweddau ffrwythlon Bannau Brycheiniog yn baradwys ar gyfer jyncis adrenalin, yn wledd o antur ac yn llawn dop o afonydd, ceunentydd, sarnau, rhaeadrau a phyllau. Mae digon o gwmnïau sy’n rhoi cyfle i chi gerdded ceunentydd, felly cewch sboncio rhwng clogfeini, sgrialu mewn sgydau, croesi a neidio oddi ar raeadrau anturus drwy’r dydd.

Teulu’n edrych ar raeadr gyda choed o’u gwmpas
Rhaeadrau wedi’u hamgylchynu â choed
Rhaeadr wedi’i amgylchynu â choed gyda phobl yn cerdded ar lan yr afon

Bannau Brycheiniog

Byddwch yn grefftwr: gwnewch, crëwch a dysgwch

O Gaerdydd: 40 milltir / 55 munud mewn car

Dydy pob antur ddim yn llawn cyffro. Rhai o'r diwrnodau allan gorau yw'r rhai y gallwn ni eu gwneud yn arafach. Mae Humble by Nature yn Sir Fynwy yn baradwys i unrhyw un sy’n gwerthfawrogi pethau syml bywyd: bwyd da, bod yn hunangynhaliol a byw oddi ar y tir. Mae'r fferm (a sefydlwyd gan gyflwynydd BBC Springwatch, Kate Humble) yn cynnig cyrsiau ar gadw geifr, cadw gwenyn, gwneud seidr, halltu cig a hyd yn oed adeiladu'ch popty pizza eich hun, felly pan fydd eich diwrnod allan yn dod i ben, gall eich cymwysterau crefftus fyw am byth.

 

Kate Humble gyda dau asyn mewn cau
Pobl yn casglu sudd afal o wasgwr

Humble by Nature

Mwd mawreddog: cwrs rhwystrau

O Gaerdydd: 28 milltir / 45 munud mewn car

Dim ond ugain munud o Gaerdydd, y cwrs rhwystrau mwdlyd hwn yw'r lle i chi a'ch ffrindiau ddod i fwynhau. Mae’n ddelfrydol ar gyfer datblygu timau ac anturiaethau grŵp, ac yn antur egnïol sy'n siŵr o ddod â'ch Rhyfelwr Ninja i'r wyneb gyda Rhwystr Teiars, Bariau Mwnci, Rhwystrau Cropian Mwdlyd a Waliau Fertigol i'ch cadw'n brysur. Hyd yn oed os nad ydych chi'n hyfforddi ar gyfer ras, bydd yr antur fwdlyd hon yn rhoi eich cyfeillgarwch ar brawf wrth i chi ddatrys problemau, sgrialu, llithro a syrthio. Wedi hynny i gyd, mae Porthcawl gerllaw i ymolchi ac ymdrochi yn y môr.

Oedolion a phlant yn rhedeg trwy fwd
Dyn yn dringo dros far ar gwrs mwdlyd
Menyw’n dringo trwy deiars ar gwrs mwdlyd

Canolfan Weithgareddau Adventures

Byddwch yn chwilotwr gwyllt: gwledda a chwilota

O Gaerdydd: 40 milltir / 55 munud mewn car

Yn gynyddol boblogaidd wrth i chwaeth a thueddiadau bwyd dyfu, mae'r antur chwilota hon ger Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr yn gwneud y gorau o'r danteithion gwyllt sydd i'w cael yng gwrychoedd, coetiroedd a llecynnau gwyllt Cymru. Yn berffaith ar gyfer diwrnod allan heddychlon a hamddenol gyda ffrindiau, bydd arweinydd y cwrs yn eich dysgu sut i adnabod a blasu planhigion, perlysiau a ffyngau yn gynaliadwy a diogel cyn mwynhau pryd gwirioneddol wyllt.

Gyrru trên: Rheilffordd Gwili

O Gaerdydd: 70 milltir / 1 awr 40 munud mewn car

Bydd gan unrhyw un a fu erioed yn gwylio neu'n darllen am anturiaethau Tomos y Tanc, The Railway Children neu hyd yn oed Harry Potter feddwl mawr o drenau stêm a rheilffyrdd. Felly bydd yr atgofion sentimental hyn o bicnics, gwerthwyr tocynnau trenau a chyrn trên stêm yn canu yn y pellter wrth eich bodd wrth i chi ddod yn yrrwr trên stêm am y dydd gyda Rheilffordd Gwili. Mae pecynnau blasu a phecynnau diwrnod ar gael a fydd yn eich galluogi i gymryd rheolaeth ar reilffordd locomotif treftadaeth ac arogli'r glo sy'n llosgi wrth i chi ymlwybro i fyny’r lein (mae amser am de a brechdanau, wrth gwrs).

Trên coch a du mewn gorsaf

Rheilffordd Gwili

AdventureSmart: parchwch y dŵr

Mae nofio mewn dŵr agored yn wahanol iawn i nofio mewn pwll, felly mae'n syniad da nofio mewn lleoliad swyddogol lle bydd criw diogelwch i roi arweiniad i chi.

Ein prif gynghorion ar gyfer bod yn ddiogel wrth nofio mewn dŵr agored yw:

  • Gwisgwch het lachar (gwyrdd llachar neu oren llachar yw'r gorau) a defnyddiwch fflôt tynnu fel y gall defnyddwyr dŵr eraill eich gweld.
  • Ewch i mewn i'r dŵr yn araf gan roi amser i'ch corff ddod i arfer â'r oerfel.
  • Gwiriwch amseroedd y llanw cyn nofio yn y môr neu mewn aberoedd.
  • Os ydych mewn anhawster yn y dŵr peidiwch â chynhyrfu, arhoswch yn ddigynnwrf; denwch sylw trwy godi'ch llaw a gweiddi am help.

Ewch i AdventureSmart.UK i gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i helpu i wneud eich antur yng Nghymru yn ddiogel ac yn hwyl!

Straeon cysylltiedig