Llwybr Brunel – Drwy warchodfa natur i farina hanesyddol Neyland

Y llwybr: Yn addas i deuluoedd – taith 8 milltir i gyd – a’r llwybr yn wastad ar y cyfan

Gan ddechrau ger tref sirol Hwlffordd, mae Llwybr Brunel yn dilyn hen lwybr rheilffordd y Great Western i Neyland. Ar y cyfan, mae hwn yn llwybr tarmac gwastad, heb draffig. Does ond angen croesi ambell ffordd dawel.

Beiciwr ar lwybr gyda llystyfiant a llwyni ar bob ochr, ar ddiwrnod heulog.

Llwybr Brunel, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Y man cychwyn: Maes parcio parc Greenhall yn Johnston (o Hwlffordd, trowch i’r chwith oddi ar y brif ffordd gan ddilyn yr arwyddion i Rosemarket, gan droi i’r dde ar ôl y bont, ac wedyn i’r dde eto).

Cychwynnwch ar hyd y llwybr ym mhen draw’r maes parcio. Fydd dim gwaith pedlo fan hyn – mae’n rhiw braf i lawr. Cyn hir fe fyddwch chi wedi gadael y pentref, a’r caeau’n ymestyn o boptu’r llwybr coediog. Cadwch olwg am dri man lle byddwch chi’n croesi ffyrdd tawel – mae gatiau grisiog yno.

Tuag at ddiwedd y llwybr, byddwch chi’n reidio’n hamddenol heibio i byllau llanw Gwarchodfa Natur Westfield Pill, lle mae modd stopio am bicnic neu fynd yn eich blaen i’r marina am hufen iâ a choffi. Ar ôl taith o amgylch y marina hanesyddol, ewch yn ôl ar hyd yr un llwybr.

Ymestyn y daith: Dechreuwch yn Neuadd y Sir Hwlffordd (mae modd i ddefnyddwyr y llwybr barcio yno am ddim ar benwythnosau), neu yn y meysydd parcio talu ac arddangos cyfagos. O’r fan honno, dilynwch y llwybr beics sy’n rhedeg ar hyd heol brysur Freemens Way am Bont Fadlen. Croeswch y gylchfan gan ddilyn yr arwyddion am lwybr beicio 4 i Neyland. Byddwch chi wedyn yn ymuno â llwybr ceffylau i Johnston, sy’n ychwanegu tua 10 milltir at y daith ac yn rhoi golygfeydd gwych o gefn gwlad ar ôl dringfa raddol.

Cerflun o ddyn.
Llwybr beicio gyda phont a marina.
Marina gyda chychod ar ddiwrnod heulog.

Llwybr Brunel, Marina Neyland, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Llwybr Cwm Gwaun – Ffyrdd gwledig tawel gyda saib mewn bragdy lleol

Y llwybr: Yn addas i blant hŷn – taith 11 milltir i gyd – llwybr gwastad ar y cyfan, ond gydag ambell fryn

Mae Cwm Gwaun, yn rhan ogleddol y sir, yn un o ardaloedd tawelach Sir Benfro. Yn yr haf, bydd y perthi’n gyforiog o fysedd y cŵn a gwyddfid, a’r ‘traffig’ trymaf rydych chi’n debygol o’i weld fydd gyrr o wartheg yn mynd linc-di-lonc gerllaw.

Llwybr, giât agored a llwyni gyda bryn yn y pellter.
Nant a chefn gwlad ar ddiwrnod heulog.

Llwybr Cwm Gwaun, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Y man cychwyn: Lle picnic a maes parcio Allt Clun, sy’n rhad ac am ddim, ym mhen gorllewinol y cwm.

Trowch i’r dde o’r maes parcio, croesi’r bont fechan, a dilyn y ffordd ar hyd llawr y dyffryn. Mae Llwybr Cwm Gwaun yn dirwyn yn raddol drwy goedwigoedd a chaeau, wrth i’r afon sisial yn dawel gerllaw.

Ym mhen draw’r cwm, mae’r llwybr yn dechrau dringo, a’r ffordd yn fforchio i’r chwith, lle mae arwydd at fragdy Bluestone. Fan hyn, fe allwch chi fwynhau peint bach, a chithau wedi cyrraedd hanner ffordd.

Dychwelwch wedyn y ffordd y daethoch chi, neu dilynwch y ffordd uchel dros y cwm i gael golygfeydd o feini hirion, mynyddoedd y Preseli, a’r cwm coediog islaw.

Ymestyn y daith: Dewis arall yw dilyn y llwybr (cylchol) i Feddrod Siambr Pentre Ifan cyn dychwelyd ar hyd y naill lwybr neu’r llall i faes parcio’r cwm.

Gyrr o wartheg yn cerdded ar lwybr.
Planhigion ac arwydd 'Bluestone Brewery'
Maen hir ar laswellt.

Llwybr Cwm Gwaun, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Llwybr y DramfforddLlwybr hamddenol drwy gwm coediog i’r môr

Y llwybr: Yn addas i’r teulu – 4 milltir – y llwybr i gyd yn wastad, a’r rhan fwyaf oddi ar y ffordd

Y man cychwyn: Maes parcio’r gwaith haearn yn Stepaside.

Cyn dechrau dilyn Llwybr y Dramffordd, ewch i gael cipolwg ar hen adeiladau’r gwaith haearn. Wrth adael y maes parcio, trowch i’r dde ar hyd llwybr beicio graean. Byddwch chi’n rhannu’r llwybr coediog hwn drwy gwm braf gyda beicwyr eraill, rhedwr a phobl sy’n cerdded eu cŵn.

Beiciwr ar lwybr gyda choed yn ei amgylchynu.
Beic ger coeden gyda nant a phont.

Llwybr y Dramffordd, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Ar ôl tua milltir, byddwch chi’n cyrraedd yr arfordir yn Wiseman's Bridge, yn croesi ffordd y traeth, ac yn parhau i ddilyn y llwybr sy’n rhoi golygfeydd dros y bae at Ddinbych-y-pysgod, a hyd yn oed draw i Benrhyn Gŵyr ar ddiwrnod clir. Dilynwch y llwybr drwy dri thwnnel byr (gan ddod oddi ar eich beics) cyn cyrraedd harbwr Saundersfoot. Dychwelwch yr un ffordd ag y daethoch chi.

Mae’r rhan hwn o’r arfordir yn llawn traethau tywodlyd braf, felly paciwch eich dillad glan môr i fwynhau diwrnod llawn yno. Mae digonedd o lefydd bwyta ar y ffordd, gan gynnwys y Wiseman’s Bridge Inn ger y traeth, y Kiosk Café yn Coppet Hall, a digonedd o bysgod a sglodion a hufen iâ yn Saundersfoot.

Ymestyn y daith: Yn Wiseman’s Bridge, trowch i’r chwith ar hyd glan y môr a dilyn yr heol ar hyd y clogwyn i’r dde yn syth ar ôl y dafarn. Ar y top, mae llwybr tarmac yn eich tywys ar hyd y clogwyn gan ymuno â’r ffordd yn y traeth nesaf, Amroth. O’r fan honno, mae modd troi i’r chwith yn yr Amroth Arms a dilyn y llwybr oddi ar y ffordd i Ardd Goedwig Colby, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Naill ai dychwelwch ar hyd yr un ffordd, neu dilynwch y ffyrdd gwledig tawel yn ôl i Stepaside (mae rhai bryniau ar y llwybr hwn).

Llwybr arfordirol gyda rheiliau a môr ar ddiwrnod heulog.
Beiciwr yn gwisgo helmed ar lwybr ger twnnel.

Llwybr y Dramffordd, Wiseman's Bridge, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Llwybr Coed Canaston – Llwybrau drwy’r coed i dref hardd Arberth

Y llwybr: 6 milltir – llwybrau tarmac a beicio ar y ffordd – rhai bryniau

Y man cychwyn: Maes parcio Coed Canaston, sy’n rhad ac am ddim.

I ddilyn Llwybr Coed Canaston, trowch i’r chwith o’r maes parcio ar hyd y llwybr llydan drwy’r coed. Daliwch i ddilyn y llwybr, gan ddod allan yr ochr arall i’r goedwig gerllaw fferm a nant fechan sy’n llifo dros y llwybr.

O’r fan honno, byddwch chi’n dringo’n raddol ar ffordd wledig dawel, gan droi i’r chwith yn y top. Reidiwch ar hyd y ffordd braf i Fryn Arberth, croeswch yr heol brysur, a dilyn y llwybr dros y nant i’ch chwith. Byddwch chi’n cyrraedd heol bengaead dawel, sy’n arwain at balmant gerllaw’r briffordd. Gallwch chi wthio’ch beic yn ddiogel fan hyn i fyny’r rhiw, heibio i’r castell ac i mewn i’r dref.

Treuliwch beth amser yn crwydro siopau a chaffis Arberth (dewch â basgedi ar eich beic rhag ofn y byddwch chi awydd prynu rhywbeth!). Mae caffi a bar Stopio yn lle gwych i gael llymaid neu damaid i’w fwyta. Ar ôl gorffen, ewch yn ôl yr un ffordd, neu mae modd dilyn llwybr fymryn hirach.

Llwybr drwy’r coed gydag arwyddion beicio, a choed a ffens bren ar bob ochr, ar ddiwrnod heulog.
Dau’n marchogaeth ceffylau ar lwybr cul, cysgodol, gyda gwyrddni a blodau gwyllt o’u hamgylch, ac un yn gwisgo fest felen.
Y tu allan i gaffi gyda beic wedi’i hongian a basged grogi.

Llwybr Coed Canaston a chaiff a bar Stopio, Arberth, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Ymestyn y daith: Mae llwybr gwahanol yn ôl yn gadael y dref ar hyd Cox Hill. Byddwch chi’n croesi cylchfan ac yn dringo i mewn i bentref bychan Robeston Wathen. Ar ôl gadael y pentref, fymryn cyn cyrraedd y gylchfan nesaf, trowch i’r dde ac wedyn i’r chwith i mewn i faes parcio gerllaw’r briffordd.

O’r fan hyn, ymunwch â llwybr oddi ar y ffordd drwy danffordd a chadw i’r chwith tuag at Black Pool Mill. Croeswch yr afon fan hyn, troi i’r chwith ar hyd y ffordd dawel, a bron yn syth wedyn ewch i’r dde ar hyd llwybr oddi ar y ffordd drwy’r coed ac yn ôl i faes parcio Coed Canaston. Mae’r rhan olaf yn addas iawn i blant ifanc, a byddai modd beicio ar hwn yn hytrach na dilyn y llwybr llawn.

Y tu allan i adeilad gwyn gyda nant.
Ystafell fwyta mewn bwyty.
Byrger a sglodion ar blât gyda saws mewn potyn.

Bwyty Black Pool Mill, Arberth, Sir Benfro, Gorllewin Cymru

Straeon cysylltiedig