Diwrnod 1 – Gafael yn yr arfordir

Bore: Arfordira yng Ngheibwr

Sir Benfro yw man geni arfordira, ac mae ein hoff weithgaredd dŵr wedi lledu'r holl ffordd o amgylch arfordir Cymru. Does dim un gwyliau teuluol yn gyflawn heb rannu antur (wyth oed yw’r isafswm oedran fel arfer): cymysgedd o sgramblo ar y glannau, cael eich cludo gan y tonnau, gwylio byd natur ac, os ydych yn ddewr, neidio oddi ar glogwyni. Mae Adventure Beyond yn mynd allan o amrywiol leoedd, gan gynnwys Ceibwr - cildraeth bychan, annwyl iawn i smyglwyr, yn y darn gwylltaf a lleiaf prysur o forlin Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Yn ogystal â hyn, mae ogof fôr enfawr sydd wedi cwympo, Pwll y Wrach, ychydig i lawr yr arfordir ar droed.

Prynhawn: Cerdded Llwybr yr Arfordir

Enwyd Llwybr Arfordir Sir Benfro gan National Geographic ymhlith teithiau cerdded pellter gorau’r byd, ond hawdd yw rhannu ei 186 milltir (300km) yn ddarnau llai. Mae’r darn rhwng Abereiddi a Phorthgain yn enghraifft dda: yn y naill ben mae’r Shinc, sef hen chwarel lechi sydd wedi’i llenwi’n drawiadol gan y môr; ac yn y llall mae harbwr del gyda bwyty pysgod a sglodion hollol epic, The Shed. Yn y canol, mae grisiau serth yn mynd i lawr i’r traeth hyfryd o flaen y clogwyni, sef Traeth Llyfn.

Group coasteering through rocks near St David's
Byrddau gyda chadachau bwrdd wedi'u gwirio coch a gwyn, nenfwd gwyn gyda thrawstiau pren

Arfordira a The Shed

Diwrnod 2 – Mynd ar y tywod a'r tonnau

Bore: Marchogaeth ar y traeth

Mae marchogaeth drwy’r tonnau yn un o’r profiadau hynny sydd ar restr pawb, ac mae traeth helaeth Druidston Haven yn agos at fod y lle perffaith i gyflawni’r gamp. Mae Nolton Stables yn cynnal teithiau pan mae'r llanw'n isel, sy’n addas i bob gallu. I farchogion profiadol, mae’n brofiad llawn cyffro adeg distyll – mae digonedd o le, a’r ceffylau felly’n fwy hyderus i fynd amdani. I ddechreuwyr, mae mynd ar y traeth yn wledd i’r synhwyrau, gyda’r mannau agored helaeth ac awyr iach y môr.

Prynhawn: Padlfyrddio

Traeth helaeth a graean bras yn gefn iddo yw Niwgwl, ym mhen pellaf Bae Sain Ffraid, lle mae Big Blue yn cynnal pob math o wersi ac yn llogi cyfarpar chwaraeon dŵr. Gallwch ddewis beth sydd orau ar y dydd. Os oes tonnau da, ewch i syrffio. Os na, rhowch gynnig ar badlfyrddio. Ac os yw’r dŵr yn llyfn a’r gwynt yn chwythu, rhowch gynnig ar syrffio barcud. Hefyd, mae gwersi padlfyrddio ar gael i ddechreuwyr yn y dyfroedd mewndirol tawelach, sy’n ffordd hyfryd o archwilio corneli troellog yr afonydd.

Llun agos o ddyn yn barcudfyrddio yn y môr gyda dŵr yn tasgu ym mhob man
Person ar fwrdd y môr yn rhoi cynnig ar syrffio barcud
Dau berson yn cerdded ar draws traeth tywodlyd yn dal byrddau syrffio

Chwaraeon dŵr, Traeth Niwgwl

Diwrnod 3 – Diwrnod ar y môr

Bore: O gwmpas Ynys Sgomer

Gorwedd ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn syth oddi ar flaen deheuol Bae Sain Ffraid, a gyda’i gilydd maent ymhlith safleoedd pwysicaf y byd ar gyfer adar môr. Gallwch weld llawer o’r cyffro drwy gerdded o gwmpas y Parc Ceirw ar y pentir, a chael cip hefyd ar drydedd ynys, sef Ynys Gwales, yn pelydru ar y gorwel (baw mulfrain gwynion yw’r ‘pelydr’ gwyn, mewn gwirionedd). Ond er mwyn mynd yn agosach, y dewis gorau yw taith ar gwch o Martin’s Haven. Yn ystod y tymor palod (mis Mai i fis Gorffennaf) y mae’r daith ar ei phrysuraf, ond mae hefyd modd gweld morloi, dolffiniaid, llamhidyddion a heulgwn.

PrynhawnPysgota yn Ninbych-y-pysgod

Mae’r pysgotwyr a ddaw am y teithiau pysgota môr mawr o Aberdaugleddau a Phenfro yn diystyru mecryll fel chwarae plant. Yn union. Er bod llinyn crancod yn yr harbwr pert yn dipyn o hwyl i’r teulu, gwell byth yw mynd ar drip pysgota o Ddinbych-y-pysgod – does dim angen i chi gadw lle, na gallu meistroli gwialen. Bydd pysgotwyr yn hwylio bob dydd yn yr haf ac yn darparu llinynnau i’w hongian yn y bae tawel oddi ar Ynys Bŷr. Dim offer i’w brynu, felly, nac abwyd brwnt i’w fachu (mae pysgota mecryll yn digwydd gyda llithiwr), dim ond siawns aruthrol o ddal pysgodyn arian-las. Os yw’n apelio, efallai hefyd y bydd pysgod ar y barbeciw i ginio. Iym.

Pâl yr Iwerydd gyda glaswellt yn ei big

Ynys Sgomer

Straeon cysylltiedig