Cerdded Llwybr yr Arfordir

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n rhedeg ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin o Lan-rhath i Lanelli, am bellter o ryw 27 milltir (43km). Ceir yma gynefinoedd o bob math gan gynnwys twyni, morfa, fforestydd pinwydd a thraethau. I fynd am dro â golygfeydd gwych, mae’r llwybr o Lan-rhath i Bentywyn yn cynnwys clogwyni uchel a Thraeth Pentywyn enwog ble gosodwyd sawl record cyflymder ar dir. Mae’r darn drwy Barc Gwledig Pen-bre a’i goedwig fythwyrdd yn eich arwain i lawr i dwyni tywod traeth Cefn Sidan.

Rhwng Porth Tywyn a Llanelli, byddwch yn ymuno â Llwybr Arfordir y Mileniwm, sy’n llydan a gwastad, yn berffaith ar gyfer bygis, cadeiriau olwynion a beics. Mae’n arwain drwy Barc Arfordirol y Mileniwm ar hyd aber Llwchwr, gyda thraethau tywodlyd o boptu a gwarchodfa natur fywiog yn gefndir. Mae digonedd o le i barcio ac mae’n hawdd cael mynediad i’r llwybr.

Darllen mwy: Llwybr Arfordir Cymru

Golygfeydd allan dros y môr a thywod o ben clogwyni ar Lwybr Arfordir Cymru
Golwg o’r awyr o lwybr arfordirol ac arfordir

Golygfeydd ysgubol rhwng Llan-rhath a Phentywyn ac ar Lwybr Arfordir y Mileniwm

Gweld bywyd gwyllt

Mae cefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn gartref i bob math o adar, bywyd gwyllt a phlanhigion prin. Gall botanegwyr ar eu prifiant gadw llygad am sawl math o degeirian yn y dolydd llawn blodau o gwmpas Cwm-du. Mae’n debygol y gwelwch lu o ieir bach yr haf yma yn yr haf hefyd gan gynnwys yr iâr fach fodrwyog brin. Gallwch ddilyn sawl llwybr sy’n amrywio o ran pellter o lai na milltir i ychydig llai na phum milltir (7km).

Hafan arall i fyd natur yw Canolfan Gwlyptir WWT Llanelli. Ymysg y 450 erw ceir llwybrau hawdd i’ch galluogi i ddod yn agos at yr adar, y trychfilod a’r blodau. Mae sawl un yn hygyrch i gadair olwyn a bygi. Ar yr adeg gywir o’r flwyddyn, gallech weld glas y dorlan, crëyr bach copog a chnocell y coed, ynghyd â gwas y neidr, ieir bach yr haf, llygod pengrwn y dŵr a blodau gwyllt.

Barcud coch yn hedfan

Mae’n gynyddol hawdd gweld barcud coch yn Sir Gaerfyrddin

Er iddynt fod ar ddibyn difodiant unwaith, mae’n dod yn fwyfwy hawdd gweld y barcud coch yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn – stori lwyddiant i gadwraeth heb os. Mae’r daith gerdded 4.6 milltir (7.4km) o gwmpas Cil-y-cwm yn cynnig cyfle da i’w gweld yn nofio fry ar yr awel uwchlaw golygfeydd pell o gefn gwlad a rhaeadr lifeiriol. Mae’n debygol y gwelwch chi sawl gwybedwr a thelor yn ystod yr haf hefyd.

Mae’n bur debygol y gwelwch chi’r barcud coch yng ngwarchodfa natur RSPB Gwenffrwd-Dinas hefyd, ynghyd â phob math arall o adar gan gynnwys sigl-i-gwt a bronwen y dŵr. Mae llwybr hawdd o filltir neu ddwy yma’n mynd â chi drwy goedwig hynafol ac ar hyd glan yr afon heddychlon.

Yn syth i Galon Cymru

Mae lein reilffordd Calon Cymru’n ymlwybro o Abertawe ar draws y wlad i Amwythig, ac mae llwybr cerdded sy’n cysylltu â sawl un o’r gorsafoedd. Gallwch gerdded i un cyfeiriad ac yna dal y trên yn ôl. Mae darn Sir Gaerfyrddin yn rhedeg am ryw 70 milltir (100km) o Lanelli ar yr arfordir i Gynghordy yng nghwm Afon Bran, gan gynnwys cefn gwlad wyllt, traphontydd i ddwyn eich gwynt a chestyll creigiog.

Os hoffech gerdded am ddiwrnod da, mae’r adran rhwng Pontarddulais a Rhydaman yn cynnig golygfeydd pellgyrhaeddol o Aber Llwchwr a Phenrhyn Gŵyr. Neu beth am roi cynnig ar y darn o Landeilo i Langadog, a gweld adfeilion castell Carreg Cennen a bryngaer Oes Haearn Carn Goch ar ben eu bryniau. Mae’r ddwy daith gerdded yn rhyw 10 milltir (15km) o hyd. Cofiwch wirio amserlenni’r trên am nad yw’r gwasanaeth mor gyson â hynny, yn enwedig ar y penwythnos.

Darllen mwy: Pethau i’w gwneud yn Sir Gaerfyrddin

Amlinell traphont enfawr yn croesi cwm gyda chaeau yn y blaendir
Rhes o dai wedi’u paentio â lliwiau llachar

Traphont Cynghordy yn Llanfair-ar-y-bryn a Llandeilo

Mwynhau llecynnau gwyllt ar lan y dŵr

Mae digonedd o lynnoedd a llecynnau dyfriog i’w darganfod yn Sir Gâr. Yr enwocaf yw llwybrau’r Bannau sy’n cynnwys golygfeydd epig Bannau Brycheiniog ar hyd ymylon llynnoedd mynyddig uchel Llyn y Fan Fach a Llyn y Fan Fawr. Dyma waith cerdded o ddifri, gyda darnau serth a golygfeydd eang o dirwedd a luniwyd gan rewlifoedd enfawr. Ond gall fod yn brysur weithiau.

Yng Ngwarchodfa Natur Coedwig Carmel, sy’n dawelach bob amser, dim ond yn ystod yr hydref a’r gaeaf y gwelwch chi’r llyn – Pant y Llyn. Dyma’r unig lyn tymhorol, neu turlough, ym Mhrydain. Mae’r llwybr yn mynd â chi drwy goedwig dawel i ben yr hen chwarel galchfaen.

Golygfeydd o goed pinwydd a glaswelltir mawnog gyda llyn yn y blaendir

Dŵr llonydd Llyn Llech Owain

Mae parc gwledig Llyn Llech Owain yn cynnwys llyn o ddŵr grisial a chynefin o dir mawnog unigryw. Ceir yma nifer o lwybrau ac mae sawl un yn hygyrch i gadeiriau olwyn a bygis. Neu beth am lwybr i weld rhaeadrau? Fel yr awgryma’r enw, dyma gewch chi yng Nghwm Rhaeadr. Fe gewch gip ar y dŵr yn taranu wrth i chi nesâu drwy’r coed. Mae’r llwybr byrrach yma’n hygyrch i bawb gan basio heibio i ddau bwll tawel ar y ffordd.

Darllen Mwy: Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Cipio castell

O gofio mai yng Nghymru ydym ni, mae cestyll ymhobman! Mae lleoliad Carreg Cennen yn ddramatig iawn ar gopa creigiog. Gallwch ddewis dilyn llwybr byr 1.6 milltir (2.5km) neu daith hirach 3.7 milltir (6km) o’i gwmpas, gan archwilio coedwigoedd hynafol, nentydd llafar a darn o Ffordd y Bannau. Cadwyd Castell Cydweli’n rhyfeddol o dda, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer gadael i’r plant anturio. Mae mwy o lwybrau o gwmpas Cydweli ar gyfer pob lefel, gan gynnwys traciau gwastad sy’n berffaith ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, gan gynnwys camlas hynaf Cymru a Mynyddygarreg.

Pâr yn cerdded ger adfeilion castell yn yr hydref
Dau blentyn yn rhedeg ar draws pompren yn syth at y camera
Pâr hŷn, y wraig yn defnyddio cadair olwyn a’r dyn yn mwynhau golygfa allan dros y môr

Gweld rhyfeddodau yng nghestyll Carreg Cennen a Chydweli

Gall unrhyw un sy’n hoffi diwylliant grwydro o gwmpas Talacharn. Ynghyd ag adfeilion rhamantus y castell, dyma leoliad y Boat House ble cyfansoddodd y llenor Dylan Thomas lawer o’i waith. Mae llwybr Ffordd Dylan (3 milltir, 5km, arwyddbyst) yn cynnig golygfeydd eang o’r aber.

Ac efallai mai’r lleoliad gorau oll yw adfeilion atmosfferig castell Llansteffan, ar benrhyn fry uwchlaw Aber Tywi a Bae Caerfyrddin. Mae yma lwybrau cerdded hyfryd sy’n cynnig golygfeydd o ben clogwyni, lonydd cefn gwledig a childraethau cudd.

 

Mynd am dro yn y tywyllwch

Am rywbeth hollol wahanol, ewch am dro ar ôl iddi nosi! Mae Sir Gâr yn cynnig awyr gyda’r tywyllaf yn y DU gyda’r nos, sy’n ddelfrydol ar gyfer syllu ar y sêr ar noson glir.

Mae cerdded o gwmpas cronfa ddŵr ddofn, wydraidd Llyn Brianne ym Mlaenau Dyffryn Tywi yn ffordd berffaith o fwynhau’r eangderau serog a adlewyrchir yn y dŵr. Mae Mynydd Llanllwni’n warchodfa awyr dywyll arall gan gynnig golygfeydd pellgyrhaeddol o awyr eang. Mae’r ddau leoliad yn llecynnau gwych i roi cynnig ar wneud ffotograffiaeth awyr dywyll hefyd.

Mae’n bwysig mynd â’r offer cywir gyda chi a sicrhau eich bod wedi ymchwilio eich llwybr yn dda. Gorau oll, ewch ar daith dywys gydag arbenigwr a all ddangos y cytserau i chi a rhoi cynghorion am dynnu lluniau.

Darllen mwy: Pump o hoff ardaloedd astroffotograffeg Alyn Wallace.

Llun o olion y sêr yn yr awyr, uwchben y llyn gyda mynyddoedd yn y cefndir

Yr awyr serog uwchlaw Sir Gaerfyrddin

Straeon cysylltiedig