Dw i wedi byw'r rhan fwyaf o 'mywyd ym Methesda ac eto, pan dw i'n meddwl mod i'n gwybod popeth am y dref a'r ardaloedd cyfagos, dw i bob amser yn darganfod mwy. Pan dw i allan yn cerdded efo fy nghi ac yn mwynhau'r tirlun bendigedig, dw i'n dod o hyd i nentydd neu lechi gwasgaredig neu goed derw enfawr sy'n dwyn fy anadl yn llwyr.

Nid cyd-ddigwyddiad ydy bod cymaint o artistiaid, beirdd, llenorion a cherddorion yn dod o Fethesda. Sut allwch chi beidio cael eich ysbrydoli gan hanes a phrydferthwch y lle yma?

Mae 'na gymaint o lefydd ym Methesda sy'n teimlo'n eiconig i fi, er enghraifft Pont Ogwen lle dw i'n hoffi nofio, neu gerdded i lefydd hollol dawel heblaw sŵn yr awel yn y brwyn a bref achlysurol gan ambell ddafad. Mae'r holl lefydd yma'n fy symud mewn ffyrdd gwahanol a dw i byth yn blino arnyn nhw.

Fyswn i'n mynd mor bell â dweud mai Cwm Idwal, efo'r llyn godidog a'r mynyddoedd o'i gwmpas, ydy fy hoff le yn y byd. Beth sy'n ei wneud yn lle mor wych, ar wahân i'r ffordd mae'n newid efo'r tymhorau, y blodau prin (Lili'r Wyddfa), y planhigion cigysol a'r holl fathau gwahanol o bryfed welwch chi yma, ydy'r llwybrau cerdded cris croes sy'n cynnig rhywbeth ar gyfer pobl o bob gallu. Mae modd i deuluoedd sydd â phlant bach fwynhau'r llecyn yn ogystal â cherddwyr mwy profiadol. Mae 'na fynyddoedd o'ch cwmpas chi i bob cyfeiriad – Tryfan ar y chwith, y Garn ar y dde a Phen yr Ola Wen y tu ôl i chi – fyddwch chi ddim yn gwybod pa ffordd i edrych. Cwm Idwal ydy gwreiddiau fy holl greadigrwydd ac mae'n gwneud i fi fod eisiau canu am fy nghartref.

Pan fydda i oddi cartref, dw i'n gallu cario darn o Gwm Idwal o gwmpas efo fi mewn mwclis pwrpasol sy'n cynnwys ffosil sy'n 450 miliwn o flynyddoedd oed o ben y Garn, a gafodd ei wneud gan y dylunydd gemwaith o Fethesda, Hannah Coates. Ffosil o fracipod ydy o, sef anifail oedd yn byw filiynau o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y darn yma o dir yn hemisffer y de ac o dan y môr!

Lisa Jên yn mynd â'i chi am dro dros bont ar lwybr cerdded Cwm Idwal

Llun o dirwedd godidog Cwm Idwal, sef cadwyn o fynyddoedd yn Eryri

Mae Caffi Blas Lôn Las yn drysor o gaffi ar Lôn Las Ogwen, llwybr beicio sy'n cysylltu Bethesda â Bangor a gweddill Cymru. Dw i a fy nheulu'n beicio ar hyd y trac yma'n rheolaidd o Fethesda yr holl ffordd i'r Pier ym Mangor. Y wefr gyntaf ydy beicio drwy Tynal Tywyll, rhan o'r trac sy'n mynd drwy dwnnel tywyll efo dim ond ychydig o oleuadau. Ac ar ôl torri chwys ar hyd y llwybr beiciau, fe gewch chi baned haeddiannol wedi'i gwneud efo dail ffres, cacennau cartref (efo dewisiadau o gacennau fegan a heb glwten) a chroeso cynnes gan Carol a'i thîm yng Nghaffi Blas Lôn Las. Cofiwch ddod â sach gefn efo chi gan fod cymaint o gynnyrch i ddewis ohonyn nhw.  Efo caws anhygoel Brefu Bach a iogwrt Cosyn Cymru ar gael, fydd hi'n anodd i chi adael yn waglaw. Mae'r caffi'n cefnogi busnesau bach a chynhyrchwyr lleol ac mae'n un o fy hoff lefydd i gael teimlo'n rhan o gymuned.

Tu mewn i Gaffi Blas Lôn Las ym Methesda sy'n gwerthu cynnyrch lleol a chacennau cartref
Cyntedd Neuadd Ogwen gyda llun wedi'i ddarlunio o'r cynhyrchydd

Caffi Blas Lôn Las  a Neuadd Ogwen

Mae Neuadd Ogwen, sydd ar Stryd Fawr Bethesda, yn neuadd gyngerdd yn ogystal â llawer o bethau eraill, gan gynnwys bod yn gartref i ddosbarthiadau Pilates a ioga, grwpiau drama a digwyddiadau cymunedol i gyd o dan yr un to. Dw i wedi perfformio ar y llwyfan fel plentyn mewn dramâu ysgol ac fel oedolyn efo fy mand, 9Bach. Mae rhai o fandiau gorau'r byd yn pasio drwy Fethesda ac yn perfformio yn Neuadd Ogwen, gan gynnwys Jeremy Dutcher,

Wolastoqiyik o Genedl Gyntaf y Tobique yn New Brunswick, Canada. Yn aml dw i'n cael fy hun mewn torf yma ac yn rhyfeddu at y gerddoriaeth. Dw i'n falch o Neuadd Ogwen am fod yma i ni ym Methesda bob amser, ond hefyd am esblygu'n gyson.

 

Bethesda Ysbrydol

Dw i'n berson ysbrydol iawn yn fy ffordd fy hun, ac mae byw ym Methesda, efo fy nheulu i gyd, yn eich gwneud chi'n eithaf sentimental ar brydiau. Mae traddodiad wedi'i wreiddio ynoch chi. Dw i'n meddwl am fy nghyndadau – roedden nhw'n dod i'r capel erioed. Dw i wrth fy modd efo emynau a chanu cynulleidfaol, ond yr egni ysbrydol yma yng Nghapel Jerusalem sy’n fy syfrdanu fwyaf - dyna pam bo fi'n caru dod yma. Mae aroglau'r llyfr emynau a'r pren, a'r lliwiau yma – mae o mor... Bethesda.

Dw i'n mwynhau dod yma ar fy mhen fy hun, i gyfansoddi caneuon ar y piano yn y Festri sydd ychydig allan o diwn. Dw i wedi cael adegau anhygoel pan fydd hi wedi bod yn bwrw eira, a'n bod ni wedi colli'r trydan, dw i wedi cerdded i lawr yma yn y tywyllwch a mynd i mewn i'r capel, yn dal yn fy nghôt Parker efo'r hwd i fyny. Dw i wedi eistedd wrth y piano ac wedi cyfansoddi rhai o fy hoff ganeuon yma, fel Llwybrau a Ffarwel. Hefyd, mae 'na harmoniwm i fyny'r grisiau dw i'n ei hoffi.

Mae'r egni dw i'n ei deimlo yma, gan holl bobl y pentref sydd wedi bod yn dod yma dros y canrifoedd, yn bwerus iawn i fi, felly dw i'n tueddu i sianelu hynny yn fy nghreadigrwydd.

Yr organ y tu mewn i Gapel Jerusalem ym Methesda, a adeiladwyd yn 1841
Y gantores Lisa Jên yn eistedd o flaen y piano yng Nghapel Jerusalem ym Methesda

Capel Jerusalem ym Methesda, a adeiladwyd yn 1841

Does dim rhaid i chi deithio'n bell i ddod o hyd i dirnod arall ym Methesda sy'n gyforiog o hanes. Mae adfeilion Ysbyty Chwarel y Penrhyn, sydd ar gyrion y chwarel sy'n dal ar agor, yn ein cludo ni'n ôl i'r 1800au pan fyddai chwarelwyr yn cael eu cludo i'r ysbyty i gael trin eu clwyfau, oedd weithiau'n ddifrifol, wrth weithio mewn amodau anodd a pheryglus. Roedd yr ysbyty yn dal i dderbyn cleifion ar ddechrau'r tridegau nes iddo gau yn ystod y chwedegau.

Mi allwch chi gyrraedd yr ysbyty o lwybr beiciau Lôn Las Ogwen, ac er bod y lle'n teimlo fel rhywle hollol ddiarffordd, mae'n hawdd ei gyrraedd o'r llwybr beiciau. Dw i'n dod yma'n aml i gael seibiant ac i anadlu'r cyfan i mewn fel arwydd o barch tuag at y dynion fu'n gweithio yma yn y gorffennol a'u caledi. Mae Ysbyty Chwarel y Penrhyn ar Lwybr Llechi Eryri, sef llwybr 83 milltir sy'n mynd â chi ar daith yn ôl mewn amser pan oedd Eryri yn ganolbwynt i'r diwydiant llechi.

Mae Bethesda wedi mapio pwy ydw i. Mae 'na berlau cudd yma ac mae yna fannau adnabyddus, ond maen nhw i gyd yr un mor bwysig ac yn gwneud Bethesda yn lle gwych i'w archwilio. Fel un o'r trigolion lleol, mae'r mynyddoedd fel magnet ac yn eich tynnu chi'n ôl bob amser. Dyma fy Nghymru.

Enillodd albwm 9Bach, Tincian, wobr BBC Radio 2 am Albwm Werin y Flwyddyn yn 2015.

https://www.9bach.com/

Twitter: @lisajenbrown / @9bach

Instagram: @lisajenbrown / @9bach

Pam ydych chi’n caru Cymru? Rhannwch eich stori gyda ni gyda’r hashnod #FyNghymru ar Instagram am y cyfle i ymddangos mewn un o’n hysbysebion. 

Am delerau ac amodau llawn gwelwch yma. 

Llun o'r dyffryn a'r mynyddoedd o'i amgylch ym Methesda

Llun o dirwedd godidog Y Carneddau, sef cadwyn o fynyddoedd yn Eryri

Straeon cysylltiedig