Yn 2020, bydd Cymru yn cychwyn dathliad dwy flynedd o'r awyr agored. Rydym am eich annog i archwilio ein parciau cenedlaethol, mynyddoedd, arfordir a Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae ein gwlad ni yn wlad sy'n gorlifo â rhyfeddod, ac rydyn ni am i bawb yng Nghymru ddathlu.
Dyma ble y gallwch chwarae eich rhan. Rydyn ni am i chi ddweud wrthym pam rydych yn caru Cymru. O’r lleoedd arbennig sydd wedi newid eich bywyd – fel y mynydd y gwnaethoch ddyweddïo arno i’r traeth ble yr aeth eich plant i’r môr am y tro cyntaf – i’r hoff leoedd rydych yn eu gweld bob dydd. Dywedwch wrthym am y maes gwersylla anhygoel gyda'i olygfa arfordirol anhygoel rydych chi'n cael gwyliau ynddo bob blwyddyn, y daith gerdded cŵn epig rydych chi'n ei gwneud trwy goedwigoedd gwyrdd tywyll, neu'ch hoff dafarn gyda gardd i fwynhau cwrw bach i ymlacio ynddi.
Mae’n hawdd bod yn rhan o hyn. Rhannwch eich stori ar Instagram neu Pinterest gyda’r hashnod #FyNghymru a tagio @croesocymru. Rhowch eich stori y tu ôl i’r llun inni – rydyn ni am i bawb weld eich Cymru chi, a darganfod lleoedd a phrofiadau newydd yn ein gwlad. Termau ac amodau yn berthnasol.
Beth am i bawb ddathlu ein Cymru ni.
Cydnabod delwedd @dantheskateboardman Coed Llanwono, De Gymru