Mae Penrhyn Gŵyr yn denu cannoedd o filoedd o dwristiaid bob blwyddyn yn ystod misoedd yr haf, ond dw i'n ddigon ffodus i gael galw'r llecyn bach yma o harddwch naturiol eithriadol yn gartref i mi. 

Mae gan Benrhyn Gŵyr lu o drysorau naturiol sy'n apelio at y rhai sydd am ddianc o brysurdeb y byd ac ymgolli ym myd natur. Mae'r cyfan yma – arfordir dramatig, traethau arobryn, cefn gwlad godidog a phentrefi hardd – heb sôn am dafarndai a bwytai gwych, felly nid yw'n fawr o syndod bod Bro Gŵyr yn gyrchfan gwyliau mor boblogaidd, yn enwedig pan ddaw prydferthwch tymhorol misoedd y gwanwyn a’r haf i fywiogi’r ardal.

Fodd bynnag, pan fydd yr haf yn ildio i'r hydref, a'r gaeaf yn agosáu, a bwrlwm bywyd Bro Gŵyr yn arafu, nid yw'r lle yn llai trawiadol nag yn anterth tymor yr haf, yn fy marn i. Mae'n fath gwahanol o ysblander.

Llun o ddyn a chi yn edrych allan dros Fae Pwlldu.

Llun o Rob Morgan, perchennog Gower Fresh Christmas Trees, a'i gi, Dave, yn edrych allan dros Fae Pwlldu

Dw i wastad wedi teimlo mai yn yr hydref a'r gaeaf mae Bro Gŵyr yn dod yn wirioneddol fyw - mae'r tonnau gwyllt, y pentiroedd garw a'r awyr oriog, ynghyd â llai o oriau o olau dydd, yn rhoi gwedd a chymeriad newydd i'r dirwedd.

Weithiau, mi fyddaf yn eistedd ar y traeth a gwrando ar y tonnau'n torri ar y lan. Rydych chi'n teimlo'n agos iawn at natur yma. A phan fydd yr oerfel yn dechrau brathu, beth well na chlwydo yng nghynhesrwydd y dafarn leol? Mae croeso’r tân coed, arogl y cols, a'r awyrgylch clyd yn gwneud i chi deimlo fel eich bod yn perthyn. Mae rhywbeth am Fro Gŵyr sy'n atseinio'n ddwfn tu mewn i fi. Mae'n le arbennig.

Pan oedd fy nhad a fy nhaid yn rhedeg y fferm, roedd gennym ni ddefaid, ceffylau, a gwartheg - ond mae cymaint wedi newid ym myd amaethyddiaeth a ffermio dros y 30 mlynedd diwethaf. Pan ddaeth yr amser i mi gymryd yr awenau, roedd rhaid ailfeddwl am fentrau newydd i gynnal y fferm. O hynny, fe dyfodd fy fferm i ddod yn gartref i hanner miliwn o goed Nadolig, 36 o geirw a chanolfan Ŵyl y Gaeaf dan do, i fod y fferm sy’n cael ei hadnabod heddiw fel Gower Fresh Christmas Trees.

Dyn yn sefyll mewn cae gyda choeden Nadolig
Carw gwrywaidd ar fferm

Rob Morgan, perchennog cwmni Gower Fresh Christmas Trees, gydag un o'i goed Nadolig a charw

Yn amlwg, nid fferm draddodiadol yw hi erbyn hyn, ond dw i'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni yma. Mae gen i 40 math gwahanol o goed Nadolig ac mae pob un yn cymryd 12 mlynedd i dyfu i'r taldra perffaith. Mae'n broses hir na allwch chi ei brysio. Yn amgylcheddol, mae'r coed yn wych i Fro Gŵyr, nid yn unig maen nhw'n creu ocsigen ac yn amsugno carbon deuocsid, ond rydyn ni hefyd yn ailgylchu'r hen goed yn domwellt i ffrwythloni'r cnwd newydd o goed. Mae'r hen goed yn cynhyrchu'r coed newydd – mae'n gylch llawn yma ar y fferm, ac mae hynny'n bwysig iawn er mwyn cynnal cynaliadwyedd.

Ar ôl troi'r hen siediau wyna yn ganolfan Gŵyl y Gaeaf, es i gam ymhellach a phrynu ychydig o geirw hefyd. Fe ddechreuais i gyda dau garw, ac erbyn hyn rydyn ni wedi datblygu i fod yn un o'r buchesi mwyaf o geirw ym Mhrydain. Dw i wrth fy modd yn gwylio ymateb pobl pan maen nhw'n eu gweld nhw. Gyda'r holl geirw, y coed Nadolig a chanolfan Gŵyl y Gaeaf, mae'n teimlo fel y Nadolig drwy gydol y flwyddyn bron.

Mae treulio gymaint o amser yng nghanol y coed yn golygu bod angen lle i ddianc arna i weithiau. Felly, dw i'n mynd i'r traeth bob diwrnod o'r flwyddyn, ac yn nofio ar bron pob un o'r diwrnodau hynny. Mae'r dŵr yn rhoi egni i mi ar ôl prysurdeb a straen y dydd, yn enwedig pan ddaw tymor y Nadolig.

Golygfa Nadoligaidd gyda phump Siôn Corn bychan

Golygfa Nadoligaidd tu fewn i ganolfan Gŵyl y Gaeaf ar fferm Gower Fresh Christmas Trees

Mae'n anhygoel teimlo'r tonnau o'ch cwmpas chi - y llonyddwch yn y storm. Un o fy hoff draethau ym Mro Gŵyr i nofio yw Bae Pwlldu. Mae wedi'i leoli rhwng Bae Caswell a Bae’r Tri Chlogwyn, ac er y bydd y rhan fwyaf o bobl wedi clywed am y traethau eiconig hynny, mae Bae Pwlldu yn drysor cudd go iawn. Mae wedi'i guddio i lawr llwybr creigiog nad oes llawer iawn o bobl yn gwybod amdano. Mae pobl sy'n dod yma ar wyliau yn dewis y traethau ysblennydd, fel Bae Rhosili, sy'n golygu bod Pwlldu bob amser yn dawel.

Efallai na fydd nofio yn y môr ym mis Rhagfyr yn apelio at bawb, ond mae mwy i Bwlldu na'r dŵr. Mae'n le gwych i ymestyn eich coesau wrth fynd am dro gyda'r ci, neu redeg, neu hyd yn oed i wneud rhywfaint o ioga.

 

Llun o ddyn yn cerdded ar y traeth tuag at y môr ym Mae Pwll Du

Rob Morgan yn cerdded ar y traeth ym Mae Pwlldu

Ar ôl taith gerdded hir ar hyd yr arfordir, neu ddiwrnod yn archwilio gweddill Bro Gŵyr, nid oes prinder llefydd gwych i gynhesu yn yr ardal – fy ffefryn yw'r Britannia Inn. Mae wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin y penrhyn, ac mae'r bwyd yn anhygoel. Ac ar ben hynny, mae llawer o'r seigiau, yn enwedig y bwyd môr, wedi dechrau eu taith o fewn pedair milltir i'r dafarn. Mae'n wych gweld busnesau'n cefnogi cynhyrchwyr a ffermwyr lleol, gan gadw'r economi leol ym Mro Gŵyr i ffynnu. Pan fyddwch yn mynd i dafarn y Britannia Inn, ewch i gefn y dafarn, lle gallwch edrych allan dros yr aber tuag at Borth Tywyn a gwylio'r llanw'n dod i mewn.

Ochr allanol tafarn y Britannia Inn yn Llanmadog, Bro Gŵyr
Llun o du mewn i fwyty tafarn y Britannia Inn.

Y Britannia Inn yn Llanmadog, Bro Gŵyr

Does dim rhaid i chi fod wedi byw ym Mro Gŵyr er mwyn sylweddoli pa mor hudolus yw'r lle. Mae pawb sy'n dod yma yn cael yr union deimlad dw i'n ei gael – ymdeimlad o lonyddwch a bodlonrwydd.

Mae rhywbeth gwahanol a chyffrous i'w weld ym mhob cyfeiriad. Mae tirwedd Bro Gŵyr yn rhoi egni i fi bob dydd.

    Byddwch yn ddiogel!

    Mae nofio yn y môr yn llawer o hwyl, ond mae'n bwysig bod yn ddiogel. Darllenwch am y peryglon a chofiwch baratoi.

    Mae cyngor diogelwch ar sut i aros yn ddiogel ar yr arfordir ar gael ar ein gwefan.

    Ewch i AdventureSmart.uk i gael gwybodaeth am sut i aros yn ddiogel wrth archwilio Cymru.

    Rhagor o wybodaeth am Gower Fresh Christmas Trees:

    Straeon cysylltiedig