Drwy rannu eich delweddau ar Instagram a thagio @croesocymru a #FyNghymru rydych yn cytuno i'r delweddau hynny ac unrhyw destun gael eu defnyddio gan Croeso Cymru ar y wefan ac mewn cyfryngau marchnata.

Os yw Croeso Cymru am ddefnyddio eich cynnwys, byddwn yn cysylltu â chi ymlaen llaw ac yn rhoi cydnabyddiaeth lawn ichi bob tro mae eich delwedd yn cael ei defnyddio, gan ddangos eich enw defnyddiwr Instagram bob tro mae eich delwedd yn cael ei chyhoeddi.

Rydyn ni'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Ewch i'r dudalen i ddysgu mwy am argaeledd a rheolau tŷ.

Ar ein holl sianeli cymdeithasol isod, peidiwch â phostio unrhyw ddeunydd amheus neu unrhyw beth nad oes gennych yr hawlfraint ar ei gyfer, a pheidiwch â cheisio busnes yn uniongyrchol neu sbamio'r dudalen.

Hoffwch ni ar Facebook. Postiwch rywbeth ar ein wal trwy #FyNghymru a gallwn ni ei ail-rannu o'r fan honno.

Dilynwch ni ar Twitter. Wedyn anfonwch @ neges aton ni neu defnyddiwch yr hashnod #FyNghymru. Byddwn yn aildrydar y pethau da.

Dilynwch ni ar Instagram. Tagiwch gynnwys gwych o Gymru â #FyNghymru a byddwn ni'n rhannu'r pethau gorau.

Dilynwch ni ar Pinterest. Piniwch gynnwys gwych o Gymru, gan sicrhau’ch bod yn cynnwys #FyNghymru a ‘Croeso Cymru’ yn nheitlau’ch piniau a byddwn ni'n rhannu'r pethau gorau ar ein byrddau.

Straeon cysylltiedig