Y sîn

Mae gan Gaerdydd sîn hoyw fywiog, a’r holl brif fannau cyfarfod o fewn pellter cerdded i’w gilydd. Mae’r sîn yn dal i ddatblygu gyda busnesau’n cynnig llu o gyfleoedd i'r gymuned LHDTC+.

Lleoedd sydd wedi hen sefydlu fel y Golden Cross, Mary’s a’r Eagle yw asgwrn cefn y gymuned. Ystyrir y rheolwyr, fel Gordon yn Mary’s, yn rai o arwyr y sîn. Heddiw mae pobl newydd yn ymuno â nhw gan ddod â rhywbeth newydd i'r ddinas, fel Queer Emporium a Glory Stores. 

Mae Out and Proud yn ap defnyddiol iawn sy’n cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am gigiau’r wythnos. Mae’r gwasanaeth newydd hwn sy’n rhad ac am ddim yn eich helpu i wybod beth sy’n digwydd, pryd a ble, felly, mae’n werth ei lawrlwytho. 

Lleoedd i fwyta, yfed a mwynhau

The Golden Cross

Ble: 238 Hayes Bridge Road

Beth: Bar LHDTC+ poblogaidd gydag adloniant byw chwe noson yr wythnos.
Amdano: Adloniant drag a’r DJs gorau yw conglfaen y dafarn hanesyddol hon. Fel nifer o leoedd eraill yn y sîn, mae’r gynulleidfa’n mwynhau karaoke.

Eagle Bar

Ble:39 Heol Siarl

Beth: Bar tanddaearol sy’n dod yn far i aelodau preifat ar ôl 11pm ar nos Wener a nos Sadwrn
Amdano: Cynulleidfa o ddynion y bennaf sydd yn y bar annibynnol hwn, sy’n rhan o rwydwaith byd-eang, Mae’n trefnu nifer o nosweithiau thema.

 

The Kings

Ble: 10 Heol Churchill

Beth: Bar LHDTC+ poblogaidd lle mae karaoke yn boblogaidd
Amdano: Mae yna gynulleidfa gymysg bob amser, sy’n barod am barti. Mae'r clwb PULSE, ar draws y ffordd.

Mary’s

Ble: 89 Heol Eglwys Fair

Beth: Bar cabaret hoyw bywiog ar agor saith noson yr wythnos
Amdano: Mae Mary’s yn adnabyddus am ei awyrgylch gyfeillgar. Gallwch ymlacio yma yn gwylio’r byd a’i bethau, yn yfed coctel neu’n mynd ar y meic am noson karaoke.

 

The Queer Emporium

Ble: 2 Royal Arcade

Beth: 18 o wahanol fusnesau o fewn un farchnad, yn gwerthu llenyddiaeth, dillad a chelf. Yma hefyd mae caffi lle gallwch fwynhau coffi iâ a the.
Amdano: Mae’r ychwanegiad newydd hwn at y sîn wedi dod yn gyrchfan fywiog gyda rhaglen o ddigwyddiadau sy’n cynnwys nosweithiau comedi a ffilmiau gwobr Iris.

Glory Stores

Ble: 1 Upper Kincraig St, Rhath

Beth: Y caffi a'r siop yma yw cartref parhaol Gays Who Wine, sydd wedi bod yn cynnig digwyddiadau blasu gwin misol ar gyfer cymuned LHDTC+ Caerdydd a'u ffrindiau ers 2019.
Amdano: Os ewch allan o ganol y ddinas, cewch goffi gwych tra byddwch yn penderfynu beth i’w fwynhau o’r fwydlen o fwyd artisan blasus sy’n newid o hyd. Gallwch brynu bwydydd arbennig a nwyddau moethus i fynd adre gyda chi.

Ble i aros

Gwesty Clayton

Ble: Heol Eglwys Fair

Mae’r gwesty 4 seren hwn o fewn pellter cerdded i Orsaf Ganolog Caerdydd a phrif ganolfannau’r sîn. Mae’n noddi Pride Cymru a’r Wobr Iris ac yn darparu swper blynyddol Santes Dwynwen ar gyfer y Wobr Iris ym mis Ionawr.

Yn ystod y dydd

Mae digon i’w wneud yng Nghaerdydd, a chan fod y ddinas yn gefnogol iawn i’r gymuned LHDTC+ byddwch yn teimlo’n ddiogel ac yn cael croeso wrth ymweld â’r mannau poblogaidd.

P’un a fyddwch yn mynd i’r siopau, yn cael bwyd yn un o fannau bwyta annibynnol Caerdydd, neu'n ymlacio gyda ffilm neu sioe yn Chapter, canolfan gelfyddydau amlbwrpas, mae gennym rywbeth ar eich cyfer.

Os ydych yn hoff iawn o deledu neu ffilm, gallwch anelu am Fae Caerdydd. Yn ogystal â bod yn gartref i Ganolfan Mileniwm Cymru, cafodd y lle ei ddefnyddio gan Russell T Davies (y Cymro y tu ôl i Queer As Folk, Years & Years ac It’s A Sin) fel lleoliad i ffilmio Doctor Who a Torchwood - dwy sioe a gafodd eu canmol am eu portreadau cadarnhaol o gymeriadau LHDT+ a’u perthynas.

Adeilad brics brown wedi'i amgylchynu gan goed
pobl yn eistedd wrth fyrddau tu allan gyda choed yn y cefndir

Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd

LHDTC+ dyddiadau i’ch dyddiadur

Pride Cymru

Pryd: 17-18 Mehefin 2023

Pride Cymru yw’r digwyddiad LHDTC+ mwyaf yng Nghymru, dathliad swnllyd a balch sy’n cynnwys gorymdaith, cerddoriaeth, ffair, marchnad, llawer iawn o wisg ffansi a digon o hwyl.

 

Gwobr Iris LHDT+ a Gŵyl Ffilmiau

Pryd: Hydref

Dyma ddewis hoyw Caerdydd yn lle Cannes. Yn ystod yr ŵyl sy’n para wythnos, mae ffilmiau rhyngwladol, sesiynau panel a phartïon, a bydd 50 o ffilmiau byr gan neu am bobl hoyw, lesbaidd, deurywiol neu drawsrywiol yn cystadlu am y brif wobr sy’n werth £30,000.

Balŵns lliwgar a baner yn sillafu allan Pride ar yr orymdaith Pride
Stondinau marchnad o dan bebyll gasebo, gyda baneri balchder enfys yn hedfan uwchben a phobl yn melino o gwmpas, yn pori'r stondinau

Pride Cymru, Caerdydd

Straeon cysylltiedig