Anaml y bydd adeiladau â chynifer o elfennau â Chanolfan Gelfyddydau Chapter, ond bu Caerdydd yn eithaf lwcus pan agorodd ei drysau. Nid yw'r lleoliad celfyddydau amrywiol byth yn methu ag ysbrydoli creadigrwydd, cyffroi a diddanu.

Fe’i hagorwyd gyntaf ym 1971, gan roi bywyd newydd i adeilad ysgol uwchradd Edwardaidd segur. Dros y hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae wedi tyfu'n aruthrol o ran enw da a phoblogrwydd, ac mae bellach yn croesawu tua 800,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Felly, beth sy’n cyffroi pawb am Chapter? Dyma rai o'i brif atyniadau.

Dyn yn archebu wrth y bar yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, gyda menyw yn ei weini
Tu allan i Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd gydag awyr las a chymylau gwyn tu cefn
Y tu mewn i Ganolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd gyda llawer o bobl yn ardal y caffi

Ardaloedd y bar a’r caffi yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, ac arwydd Chapter

Yr oriel

Yn swatio yng nghefn y caffi, mae'r oriel yn cynnal arddangosfeydd celf rhad ac am ddim. Trwy gomisiynu, cynhyrchu a chyflwyno prosiectau celf gweledol byw cyfoes, mae Chapter yn sicrhau bod rhaglen uchelgeisiol ac amrywiol o weithiau i'w gweld gan artistiaid o bell ac agos. Ymhlith yr artistiaid adnabyddus sydd wedi arddangos gwaith yno mae Rose Wiley, Gary Hume, Ai Weiwei ac Antony Gormley. Ynghyd â'r oriel, mae'r gofod 'Celf yn y Bar' (wal gefn y caffi) a'r blwch golau ym mlaen Chapter hefyd yn cael eu defnyddio i arddangos celf.

Gwaith celf ar y wal a’r llawr
Grwp o bobl yn eistedd mewn dosbarth argraffu

Gwaith celf a dosbarth yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter

Y sinemâu

Mae dwy sinema y Chapter: un sgrin fawr gyda lle i gynulleidfaoedd mawr a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â ffilm ac un sgrin glyd ar gyfer cynulleidfaoedd llai (mae ganddi sêr yn goleuo yn y nenfwd er mwyn ychwanegu at yr hud). Er nad yw'r amserlenni’n anwybyddu ffilmiau mawr, mae Chapter yn fwy adnabyddus am ddangos ffilmiau arbenigol ac annibynnol, gwyliau ffilm ar raddfa fach a digwyddiadau sinematig.

Y caffi

Yn cysylltu holl elfennau adeilad Chapter mae'r caffi bar sydd ar agor drwy'r dydd. Mae’n llawn golau naturiol (ynghyd â goleuadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd), sy'n golygu ei fod yn lle hyfryd i fwyta ac yfed gyda ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd, gwneud rhywfaint o waith ar eich gliniadur, cynnal cyfarfodydd achlysurol neu ymlacio cyn neu ar ôl digwyddiad yn Chapter. Mae'r fwydlen dymhorol yn cynnig rhywbeth i bawb, o fwydydd syml i brydau sylweddol. Daw’r coffi gan rostwyr gwych Hard Lines (sydd i lawr y ffordd o Chapter). Mae'n paru’n berffaith gyda chacen neu fisged o'r cabinet danteithion melys.

 

pryd ar blat
pryd ar blat
pryd o fyrger a sglodion ar blat

Rhai o’r prydau yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter

Y gofodau perfformio

Mae dau ofod theatr yn Chapter. Y prif ofod yw Theatr Seligman, sy'n dal tua 120 o bobl. Yn yr iard flaen mewn adeilad ar wahân, mae'r ail ofod theatr, ychydig yn llai: Stiwdio Seligman. Defnyddir y ddwy theatr ar gyfer perfformiadau byw cyhoeddus a phreifat gan gynnwys drama, comedi a cherddoriaeth.

Menyw’n siarad yn y swyddfa docynnau yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd

Y swyddfa docynnau yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter

Cyfleoedd eraill

Fel gofod cymunedol, mae Chapter yn cynnal rhaglen eang o weithdai, digwyddiadau arbennig a dosbarthiadau rheolaidd. Mae'r amserlen wythnosol arferol yn cynnwys pethau fel dosbarthiadau crefft, gwersi dawnsio tap, sesiynau côr a gweithdai actorion. Mae'n newid yn rheolaidd, felly cadwch lygad am ychwanegiadau newydd a digwyddiadau unigryw fel yr Art Car Bootique (arwerthiant cist car cŵl iawn) a micro-wyliau thematig. Mae gardd gymunedol y tu allan i du blaen yr adeilad hefyd, y mae ysgolion, grwpiau a gwirfoddolwyr lleol yn gofalu amdani.

 

llun o ardal brysur y tu mewn gyda phobl yn eistedd wrth fyrddau
pobl yn eistedd wrth fyrddau tu allan gyda choed yn y cefndir

Mae Canolfan Gelfyddydau Chapter yn lle gwych i bobl ymgynnull

Rhagor o wybodaeth

Awydd mynd draw i Ganolfan Gelfyddydau Chapter? Edrychwch ar wefan Chapter, dilynwch nhw ar Instagram neu casglwch lyfryn o’r cyntedd y tro nesaf rydych chi yn yr ardal.
 

Straeon cysylltiedig