Mae gan De Cymru amrywiaeth helaeth o atyniadau a gweithgareddau hygyrch i rai sydd ag anhawster symud ac i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae cymaint i’w wneud a’i weld yn yr ardal, gan gynnwys safleoedd hanesyddol difyr sy’n mynd â chi’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, caeau gwyrdd hyfryd sy’n orlawn o fywyd gwyllt, a thraethau hardd sy’n hawdd i bob math o ymwelwyr gyrraedd atynt. Daliwch ati i ddarllen i wybod rhagor a dilynwch y dolenni isod er mwyn cael gwybodaeth am weithgareddau hygyrch mewn rhannau eraill o Gymru.

Atyniadau hygyrch yng Ngogledd Cymru

Atyniadau hygyrch yng Ngorllewin Cymru

Atyniadau hygyrch yng Nghanolbarth Cymru

Amgueddfeydd ac orielau hygyrch

Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig

Stryd Fawr, Caerllion, Casnewydd NP18 1AH

  • Hwylus i bobl mewn cadair olwyn a phobl sy’n cael anhawster symud
  • Casglu ymwelwyr sydd â nam ar eu golwg drwy wneud cais
  • Deunyddiau ysgrifenedig safonol i bobl sy’n drwm eu clyw
  • Croeso i gŵn cymorth

Cymru oedd canolfan fwyaf gorllewinol yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn OC 75, adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion a fyddai’n gwarchod yr ardal am fwy na 200 mlynedd. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rufeinig yn un o dri safle Rhufeinig yng Nghaerllion ac ar y wefan mae Canllawiau Mynediad cynhwysfawr, gyda gwybodaeth am barcio a mynedfa i gadeiriau olwyn, yn ogystal ag arweiniad i bobl â nam ar eu golwg neu sy’n drwm eu clyw, a phobl ag anawsterau dysgu.

Gardd â gwelyau gyda gwrychoedd sgwâr yn llawn planhigion, a llwybrau cerrig llydan.
Dyn mewn gwisg milwr Rhufeinig yn rhoi helmed Rufeinig ar fenyw.

Gardd yn arddull cyfnod y Rhufeiniaid a rhoi tro ar wisgo arfwisg Rufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Parc Cyfarthfa, Ffordd Aberhonddu, Merthyr Tudful CF47 8RE

  • Mynediad cadair olwyn i bob oriel, siop yr amgueddfa a’r ystafelloedd te
  • Parcio hwylus am ddim i bobl â Bathodyn Glas
  • Toiledau hwylus wrth y dderbynfa
  • Deunydd ysgrifenedig safonol am yr arddangosfeydd i bobl trwm eu clyw
  • Croeso i gŵn cymorth

Plasty crand o’r 19eg ganrif a adeiladwyd ar gyfer y perchennog gwaith haearn cyfoethog William Crawshay yw Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, sydd heddiw’n adrodd stori’r chwyldro diwydiannol yn yr ardal. Mae’r fynedfa i ddefnyddwyr cadair olwyn drwy’r cwrt canolog; gellir gofyn am gymorth drwy’r peiriant ‘intercom’. Os oes gennych Fathodyn Glas gallwch barcio o fewn y cwrt blaen neu o flaen yr adeilad. 

 

Adeilad ar ffurf castell gyda thyrau a llawer o ffenestri.
Dyn mewn cadair olwyn yn defnyddio ramp i gael mynediad i adeilad.
Gwraig yn edrych ar arddangosfa ddigidol.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Merthyr Tudful

Taith natur i ddefnyddwyr cadair olwyn yn Ne Cymru

Taith Cas-gwent gyda Mynediad Rhwydd

Maes parcio Castle Dell, Stryd y Bont, Cas-gwent NP16 5GA

  • Taith gerdded rwydd ar lwybrau a phalmentydd

Cas-gwent yw man cychwyn Taith Gerdded Dyffryn Gwy, sef llwybr hardd 136 milltir o hyd sy’n dilyn afon Gwy ar draws De a Chanolbarth Cymru. Mae’r daith drwy Castle Dell yng Nghas-gwent, y dref a glan yr afon, yn un o 24 o safleoedd a llwybrau â mynediad rhwydd ar hyd afon Gwy a Thaith Gerdded Dyffryn Gwy. Cewch wybod rhagor wrth lawrlwytho'r Canllaw Hygyrchedd o wefan Taith Gerdded Dyffryn Gwy.

Golygfa o’r awyr o Gastell Cas-gwent
Llwybr wyneb caled trwy gae gyda choed.
Dyn yn defnyddio cadair olwyn a dynes mewn stryd gul.

Cas-gwent a rhannau o Lwybr Tref Cas-gwent

Tŷ a Gerddi’r Dyffryn

Sain Nicolas, Bro Morgannwg CF5 6SU

  • Mae’r rhan fwyaf o’r gerddi’n addas i gadeiriau olwyn
  • Toiledau hygyrch
  • Cadair olwyn ar gael drwy drefnu ymlaen llaw

Saif Tŷ a Gerddi’r Dyffryn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yng nghanol yr hyn a ystyrir yn erddi Edwardaidd gwychaf Cymru. Ceir dros 55 erw o dir a chyfle i grwydro cyfres o ystafelloedd gardd, gan gynnwys y Cwrt Palmantog, y Pwll Adlewyrchu a Gardd Môr y Canoldir – a’r rhan fwyaf yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. 

Parc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston

Heol Larnog, Penarth, Bro Morgannwg, CF64 5UY

  • Maes parcio, caffi a thoiledau hygyrch
  • Llwybrau estyllod sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn
  • Cadair olwyn ar gael ar gais

Crëwyd Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston pan foddwyd dwy hen chwarel a heddiw, y bywyd gwyllt sy’n denu pobl i’r ardal. Ceir mynediad rhwydd i'r caffi a llwybrau estyllod o amgylch y llynnoedd sy’n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn. Hefyd, mae taith glywedol ar gael sy'n adrodd stori’r llyn a’i fywyd gwyllt. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llynnoedd Cosmeston.

Gwas neidr glas ar goesyn.
Y tu allan i adeiladau to gwellt ym Mhentref Cosmeston, gyda phobl yn crwydro.

Gwas neidr Yr Ymerawdwr yn Llynnoedd Cosmeston, a Phentref Canoloesol Cosmeston, Bro Morgannwg

Canolfan Ymwelwyr Coedwig Garwnant

Cwm-taf, Merthyr Tudful, CF48 2HU

  • Toiled ‘Changing Places’
  • Dolen glywed yn y caffi, ystafell gyfarfod a chanolfan wybodaeth
  • Mynedfa cadair olwyn i’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi
  • Byrddau picnic addas i gadeiriau olwyn a bygis trydan
  • Llwybr hygyrch

Mwynhewch yr awyr agored yng Nghanolfan Ymwelwyr Coedwig Garwnant, ychydig oddi ar yr A470 a lle perffaith i stopio os ydych chi’n teithio ar hyd Ffordd y Cambrian. Mae’n llawn llwybrau drwy’r coed, cyrsiau beicio mynydd a mannau chwarae. Mae gan y caffi seddi awyr agored a golygfeydd hyfryd dros gefn gwlad. Mae Taith y Coed Helyg 1km (1/2 milltir) yn llwybr troed hamddenol, addas i ymwelwyr â chadeiriau olwyn, bygis trydan a choetsys. Darganfyddwch fwy ar wefan Canolfan Ymwelwyr Coedwig Garwnant.

 

Dyn yn cerdded ar lwybr coetir.
Gwraig a chi ar lwybr coetir.

Coedwig a Chanolfan Ymwelwyr Garwnant ger Merthyr Tudful

Atyniadau hanesyddol hygyrch yn Ne Cymru

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Stryd Fawr, Caerllion, Casnewydd NP18 1AE

  • Maes parcio hygyrch a golygfan
  • Cyfleusterau i ymwelwyr trwm eu clyw

Mae caer fawr Isca, a adeiladwyd yn AD 75 yng Nghaerllion, yn un o dair caer barhaol y Brydain Rufeinig. Mae Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion yn safle treftadaeth amlsynhwyraidd hygyrch gyda maes parcio tarmac gwastad yn union y tu allan i’r fynedfa, sydd â mynedfa lefel, ac mae rhan o’r olygfan ar lwybr estyllod pren uchel. Gofynnir i ymwelwyr fynd i wefan Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion neu gysylltu â’r ganolfan i drafod unrhyw ofynion penodol. Mae gwaith adnewyddu ar y gweill ar hyn o bryd.

Gweddillion caer Rufeinig mewn adeilad amddiffynnol.
Pwll dan do gyda goleuadau a waliau cerrig

Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion

Tref Rufeinig Caer-went

Caer-went, Cil-y-coed NP26 5BA

  • Parcio hygyrch a thoiledau i’r anabl

Mae Caer-went, Venta Silurum y Rhufeiniaid, yn baradwys i archaeolegwyr. Cafodd ei sefydlu tua OC 75-80 a bu’n anheddiad i’r Silwriaid, llwyth Brythonaidd brodorol a drodd yn Rhufeinig yn dilyn goresgyn Prydain. Ewch i wefan Caer-went i gael rhagor o wybodaeth.

Adfeilion anheddiad Rhufeinig.

Gweddillion tref Rufeinig Caer-went

Traethau hygyrch De Cymru

Traeth Rest Bay, Porthcawl

Porthcawl CF36 3UP

  • Cadeiriau olwyn traeth ar gael i’w llogi

Mae Traeth Rest Bay yn boblogaidd gyda syrffwyr, padlfyrddwyr a phobl sy’n mwynhau chwaraeon môr oherwydd y ganolfan chwaraeon dŵr o’r radd flaenaf sydd yno. Mae digon o dywod meddal ar gyfer gweithgareddau traeth mwy hamddenol hefyd, gyda chadeiriau olwyn traeth ar gael i'w llogi. Ewch i wefan Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay i gael rhagor o wybodaeth.

Traeth Bae Whitmore, Ynys y Barri

Ynys y Barri, Bro Morgannwg CF62 5TJ

  • Cadeiriau olwyn traeth ar gael i'w llogi

Mae ymweld â Thraeth Bae Whitmore Ynys y Barri yn brofiad glan môr clasurol. Ceir cytiau traeth lliwgar, tywod euraidd, caffis a ffair. Mae'n hygyrch i bawb, diolch i’r cadeiriau olwyn traeth ag olwynion mawr y gellir eu llogi.

Tri pherson yn gwthio cadeiriau olwyn traeth i lawr y llethr tuag at draeth tywodlyd
Tri pherson yn defnyddio cadeiriau olwyn traeth ar y traeth.

Traeth Bae Whitmore, Ynys y Barri

Dolenni Defnyddiol

Open Britain – Cyfeiriadur llety a theithio hygyrch mwyaf y DU

Accessible Countryside For Everyone – Adnodd gwych er mwyn cael mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU

Information Now – Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i’r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i’r anabl a’r rhai sy’n rhan o’r Cynllun Allwedd RADAR/Cenedlaethol

Tourism for All – Gwybodaeth i deithwyr rheilffordd anabl sy’n teithio i Gymru

Gallwch chwilio am lety, gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau hygyrch yng Nghymru ar ein gwefan.

Straeon cysylltiedig