Mae’r tir wedi bod yn ffynhonnell gyson o gynhaliaeth i genedlaethau o Gymry ers y dechrau’n deg, a heddiw mae menywod ar hyd a lled y wlad yn gwneud bywoliaeth drwy ymgymryd â'r gwaith caled o'i gynnal a'i gadw. Yn geidwaid diwylliannol ac amgylcheddol, mae’r menywod hyn yn gwneud y gwaith caib a rhaw o gynnal a chadw tirluniau arbennig Cymru, a gwarchod y llefydd arbennig hyn i bawb gael eu mwynhau,
Drwy warchod y tir a’r amgylchedd, mae’r merched yn gweithio i sicrhau nad ydy ymwelwyr a chymunedau’n gadael mwy nag ôl troed wrth ymweld. O gynnal gwarchodfeydd natur i warchod ynys gyfan, maen nhw’n anelu at ddiogelu ambell fan arbennig dros y wlad er budd y blaned a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae hi'n werth ymweld â sawl un o’r safleoedd hynny hefyd, boed hynny er dysg neu hamdden.
Awyr Dywyll, Parc Cenedlaethol Eryri
Teg ydy dweud bod y sêr a’r cytserau wedi cyfrannu tuag at siapio Cymru fel cenedl, boed hynny drwy roi help llaw i ffermwyr gadw trefn ar eu gwaith drwy gydol y flwyddyn neu wrth arwain llongwyr dros y moroedd.
Mae Parc Cenedlaethol Eryri’n un o ddeunaw Gwarchodfa Awyr Dywyll yn y byd, ac mae’r diffyg llygredd aer yn yr ardal yn golygu bod yr awyr yn arbennig o glir. O Ben Llŷn i Fryniau Clwyd, ac o Ynys Llanddwyn i’r Migneint, mae’n bosib gweld miloedd o sêr, yn arbennig felly rhwng Medi ac Ebrill.
Does dim amheuaeth bod gweld seren wib am y tro cyntaf neu allu adnabod ambell blaned yn ddigon i roi gwefr i rywun, ond mae profi’r awyr dywyll yn dod â llu o fuddion iechyd a llesiant i bobol a bywyd gwyllt. Mae 98% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn byw dan lygredd golau, a phrin yn gallu gweld y sêr, os o gwbl. Wrth ei gwaith fel Swyddog Awyr Dywyll gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, mae Danielle Robertson, serydd amatur o Ynys Môn, yn gwarchod yr awyr dywyll ac yn ceisio lleihau effaith llygredd aer.
'Mae profi’r awyr dywyll yn eithriadol o bwysig i iechyd pobol, ac mae’n rhan fawr o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru. Rydyn ni’n lwcus iawn yng Nghymru bod yna gymaint o lefydd y gallwn ni fynd a gweld miloedd o sêr,' medd Danielle.
Rhan arall o’i swydd yw teithio i fannau anghysbell yng Nghymru mewn fan Arsyllfa Symudol â nifer o delesgopau. Mae hi hefyd yn mynd â phobol sydd ddim fel arfer yn gweld y tywyllwch allan i arsylwi’r awyr dywyll a’u helpu i weld sêr.
'Mae hi’n bwysig bod pobol yn gallu profi tywyllwch fel eu bod nhw’n rhoi egwyl i’w hymennydd rhag golau artiffisial. Mae e fel edrych yn ôl i’n cartref ehangach, rhywbeth nad ydy nifer o bobol yn gallu’i brofi mwyach.'
Darllen mwy: Y cyrchfannau awyr dywyll gorau yng Nghymru
Llys-y-Frân, Sir Benfro
Ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro, mae cronfa ddŵr Llys-y-Frân yn hafan i fywyd gwyllt ac yn barod eu croeso i unrhyw un sy’n chwilio am antur. Mae’r safle, sy’n cael ei redeg gan Dŵr Cymru, yn cynnig bob math o gyfleoedd, o chwaraeon dŵr i grwydro o amgylch y parc gwledig ar droed neu feic. Mae’r llwybr sy’n amgylchynu’r parc yn 6.5 milltir, gan basio trwy goedwig dlos, a thros fryniau ac afon hardd Syfni.
Gall pysgotwyr geisio’u lwc yn dal brithyll seithliw neu frithyll llwyd yng nghronfa Llys-y-Frân hefyd. Mae Millie Wilson yn gweithio fel ceidwad ar y safle, ac un o brif heriau’r swydd ydy cydbwyso’r gwaith o amddiffyn bywyd gwyllt yr ardal a chynnal atyniad twristiaeth. O blannu coed i drwsio beics, mae Millie yn gwneud gwaith caib a rhaw er mwyn sicrhau bod y safle’n gweithio er budd pobol a natur.
'Ein prif orchwyl yw sicrhau bod y safle’n edrych yn dda a’i fod yn ddiogel i bawb, a gall hynny olygu unrhyw waith o strimio i dorri coed â chainsaw,' eglura Millie.
'Mae’n lle reit arbennig, mae’n ddiarffordd iawn. Mae’n lle braf i adael popeth a chael llonydd, rydyn ni’n gwneud ein gorau i’w gadw mor dawel â phosib.'
Mae nifer o Anturiaethau Dŵr Cymru eraill i’w cael ar draws y wlad. Yng nghefndir prydferth Dyffryn Wysg ar y ffin rhwng Sir Fynwy a Thorfaen, mae Llyn Llandegfedd. Mae'r ganolfan chwaraeon dŵr modern yn cynnig chwaraeon rhwyfo a hwylio i bobl o bob oedran a gallu ynghyd â sesiynau nofio dŵr agored.
Mae canolfan Llyn Brenig ar safle 2,500 erw o goedwigoedd, rhostiroedd a llynnoedd bendigedig. Mae canolfan ymwelwyr, caffi, arddangosfeydd gweilch, cyfleusterau llogi beics a sesiynau hwylio a physgota o safon ryngwladol i’w darganfod.
Yn ôl ar y tir mawr, gwnewch yn siŵr eich bod yn treulio amser yn crwydro pentre' bach Aberdaron. Galwch draw i ganolfan ddehongli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth y Swnt, i ddysgu mwy am dreftadaeth arbennig Llŷn.
Mae Caffi Siop Plas a'i fwydlen leol dymhorol yn le braf am ginio. Mae’r caffi yn rhan o brosiect cymunedol i adfer ac adfywio capel a siop y pentref gan greu canolbwynt diwylliannol cynaliadwy i'r ardal. Becws Islyn yw’r lle am baned a chacen prynhawn, ac ar gyfer swper, ni allwch guro’r olygfa o fwyty a gwesty Tŷ Newydd.
Darllen mwy: Grym eithriadol Enlli
Cadw Cymru'n Daclus
Gwaith y cyflwynydd radio a’r artist Aleighcia Scott fel llysgennad ieuenctid i Cadwch Gymru’n Daclus ydi annog pobol ifanc i ddefnyddio eu lleisiau er mwyn gwneud gwahaniaeth. Elusen sy’n gweithio ledled Cymru i warchod yr amgylchedd ydi Cadwch Gymru’n Daclus, a sefydlwyd yn 1972, ac ers dros hanner cam mlynedd eu nod yw sicrhau bod pawb yn cydweithio i ofalu – a mwynhau – Cymru ar ei gorau.
Aleighcia yw eu llysgennad ieuenctid cyntaf, ac mae hi’n gweithio gyda sefydliadau ac elusennau i ledaenu’r neges a helpu pobol ifanc i gyfrannu at yr ymdrechion yn eu cymunedau nhw.
'Pobol ifanc yw’r genhedlaeth nesaf sydd angen helpu i ofalu am Gymru – mae eu mewnbwn nhw’n hollbwysig oherwydd hebddyn nhw, be fyddai’n digwydd?' gofynna.
'Dw i’n mwynhau cyfarfod pobol o bob math o gefndiroedd a gwybod fy mod i’n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yng Nghymru. Dw i wrth fy modd hefyd yn gwneud i bobol ifanc deimlo fel bod ganddyn nhw’r pŵer i rannu eu syniadau.'
Mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus yn amrywio o amddiffyn gwrychoedd a chreu gerddi newydd i annog bioamrywiaeth, yn ogystal â gweithio gydag awdurdodau lleol i gael gwared ar sbwriel. Mae ystyried ein heffaith ar y blaned yn dylanwadu ar bob rhan o’u gwaith, ac mae nhw’n annog ymwelwyr a phobol Cymru fel ei gilydd i fod yn garedig â’r wlad a’n cymunedau.
'Deall y gall y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth yw’r peth pwysig. Weithiau, mae’n hawdd meddwl bod yr argyfwng yn rhy fawr ac nad oes dim allwn ni wneud i helpu, ond mae yna gamau y gallwn eu cymryd,' meddai Aleighcia.
'Mae hyd yn oed helpu’n lleol, ailgylchu, a gwneud y peth iawn yn y gwaith neu adref yn gwneud gwahaniaeth mawr pan rydyn ni i gyd yn eu gwneud hyn gyda’n gilydd.'