Addo.
Mae 2020 wedi rhoi cyfle i arafu.
I oedi. I werthfawrogi’r darn o dir sy’n gartre i ni.
Mae wedi ein hatgoffa o bopeth sy’n agos at ein calon…
Ein bro a’n byd.
A nawr rydym ni’n addo gofalu am y pethau hynny:
Trwy warchod yr harddwch sydd o’n cwmpas.
Trwy adrodd ein straeon.
Trwy ofalu am y rhai sy’n byw yma ac yn ymweld.
Wrth i ni roi bodiau ein traed yn y môr, tynnu ein hesgidiau cerdded o’r cwtsh dan staer, neu ddechrau ar antur epig, gadewch i ni addo gyda’n gilydd — i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Addo.
Gwna addewid dros Gymru.

Gofalu am ein gilydd
Rwy’n addo:
Gofalu am fy iechyd – drwy olchi a diheintio fy nwylo’n rheolaidd.
Cadw pellter oddi wrth grwpiau eraill – drwy ddewis lleoliadau agored a pharchu rheolau lleol.
Gweithredu ar unwaith os bydda i’n teimlo’n sâl – drwy ddilyn cyngor, rhannu gwybodaeth a mynd adref os oes angen.

Gofalu am ein gwlad
Rwy’n addo:
Gwarchod y tir hardd hwn – drwy beidio â gadael dim ar ôl.
Gofalu am ein cefn gwlad – drwy aros ar lwybrau, gadael clwydi fel ag yr oedden nhw, a chadw cŵn ar dennyn pan fydd angen.
Mwyhau eangderau Cymru – drwy osgoi mannau’n llawn pobl a pharatoi am bob antur, boed law neu hindda.

Gofalu am ein cymunedau
Rwy’n addo:
Dod yn rhan o’r lle rwy’n ymweld ag ef – drwy fwynhau’r diwylliant a’r iaith pan fydda i yno.
Mwynhau’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig drwy ddewis busnesau lleol a phrynu cynnyrch o Gymru.
Helpu pob lle i baratoi ar gyfer fy ymweliad, drwy archebu ymlaen llaw pryd bynnag y gallaf.
Addewid gen ti yw hwn, dim cytundeb cyfreithiol. Ni fydd dy lofnod yn cael ei ddefnyddio na'i gadw.