Crwydro yn yr awyr agored

Bydd pobl yn aml yn synnu pa mor wyrdd, tawel a phellennig ydy Bro Morgannwg, gan gofio pa mor agos ydy’r ardal at Gaerdydd, ein prifddinas fywiog, brysur. Yn y Fro, fe gewch chi gerdded, ymlacio a nofio’n hamddenol braf mewn lleoliadau godidog ledled y sir.

Yn eu plith mae traethau tywodlyd tawel, sy’n llefydd gwych i gerdded linc-di-lonc a chodi cestyll tywod; bryniau braf y wlad a’u hadfeilion cestyll a’u gerddi gwyrdd; neu lwybrau cerdded hyfryd drwy bentrefi tlws a’u tafarndai clyd.

Cerdded ar yr arfordir a thrwy goedwigoedd

Mae llwybrau cerdded campus i bobl o bob gallu yn y Fro. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn troelli am bron i 50 milltir (80km) ar hyd yr arfordir yma, gyda’i olygfeydd gwych, traethau bach cudd, cildraethau a thwyni tywod. Ymhellach i mewn i’r tir, mae yma lwybrau drwy goedwigoedd hynafol a dyffrynnoedd rhewlifol.

Mae cyfres o 10 o Lwybrau’r Fro ar gael i’ch rhoi ar ben ffordd. Fe allwch chi hefyd lawrlwytho ap Hanesion y Fro sy’n dod â straeon y llwybrau’n fyw tra byddwch chi’n cerdded.

Menyw a phlentyn yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Traeth a chlogwyn

Golygfeydd godidog ar Lwybr Arfordir Cymru ym Mro Morgannwg, De Cymru

Parciau a gerddi

Tŷ a Gerddi Dyffryn oedd cartref y masnachwr glo cefnog, John Cory. Y dyddiau hyn, mae’r plasty Fictoraidd anferth yn berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd Cory yn arddwr brwd, a gyda chymorth y pensaer tirlun, Thomas Mawson, aeth ati i droi 55 erw o erddi yn rhyfeddod llawn perllannau, gerddi ffurfiol a llynnoedd.

Plasty mawreddog mewn gerddi mawr, gyda ffynnon yn y blaendir.

Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg, De Cymru

Mae Gerddi Dwnrhefn yn dyddio yn ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r gerddi bac, peraroglus, diarffordd hyn wedi’u hamgylchynu gan furiau hynafol, gydag adfeilion rhamantus tŵr a phorth castell yn gefnlen i’r cyfan. Mae’r lleoliad tawel hwn dafliad carreg o draeth tywodlyd, eang Bae Dwnrhefn, neu Southerndown a rhoi iddo’i enw arall. Dyma le campus i fynd am dro ar yr arfordir a threulio diwrnod ar lan y môr. O’ch cwmpas, mae cefn gwlad agored, a phrin fod unlle gwell am bicnic neu i nofio, syrffio a chwilio am ffosiliau.

Hefyd yn yr ardal hon mae Parc Gwledig Porthceri, a’i 220 erw o goedwigoedd tawel a dolydd – lle gwych i fynd am dro a dringo coed! Mae’r parc hwn hefyd yn arwain at draeth caregog, ac yn gartref i draphont enwog. Mae yma lwybrau natur, llefydd i gael picnic a barbeciw, ac ardal chwarae anturus hefyd – fe gaiff y teulu fodd i fyw. A dyma fan cychwyn Llwybr Coedwig Cymru, llwybr newydd 80km drwy goetiroedd, sy’n cysylltu safleoedd y Goedwig Genedlaethol o Barc Porthceri ym Mro Morgannwg i draphont Pont Walby ger Glyn-nedd.

coed, glaswellt, llwybr a meinciau mewn parc gwledig.
menyw yn gafael mewn ci a dyn yn cerdded mewn parc gyda thraphont yn y cefndir.
ardal chwarae i blant mewn parc gwledig.

Parc Gwledig Porthceri, Bro Morgannwg, De Cymru

Mae Gerddi Slade Farm yn lle delfrydol i’r plant. Yn ogystal â naw erw o lwybrau drwy’r coed a gerddi deiliog, mae yma fferm waith, gyda chyfleoedd i’r plantos ddod wyneb yn wyneb â moch, gwartheg a defaid!

Yng Nghastell Ffwl-y-mwn, fe gewch chi gyfuniad o erddi a gweithgareddau amrywiol. Ewch i grwydro drwy’r gerddi Fictoraidd coll, y coetiroedd hudolus, a’r fferm ganoloesol sydd wedi’i hail-greu. Mae yma hyd yn oed brofiad dinosoriaid.

Mae Llynnoedd a Pharc Gweledig Cosmeston yn ddewis gwych i ymwelwyr, gan gynnwys y rheini sydd â phroblemau symudedd. Mae’r llwybrau fflat, gwastad yn hygyrch i gadeiriau olwyn a phramiau, ac felly bydd modd i bawb fwynhau yma. Mae dwy chwarel sydd wedi’u llenwi â dŵr bellach yn llynnoedd tawel sy’n denu adar dŵr rif y gwlith. Mae’r parc hefyd yn gartref i Bentref Canoloesol Cosmeston, lle gallwch chi gamu yn ôl mewn amser i’r bedwaredd ganrif ar ddeg yng nghwmni ‘pentrefwyr’ yn eu gwisgoedd traddodiadol.

Adeilad carreg â tho gwellt gyda blodyn gwyn yn blaendir.

Pentref Canoloesol Cosmeston, Bro Morgannwg, De Cymru

Gerddi ychydig yn wahanol gewch chi yng Ngwinllan Llanerch a Gwinllan Glyndwr, a’r rheini efallai’n fwy addas i oedolion! Ym mherfeddion cefn gwlad y Fro, mae’r ddwy winllan wedi ennill gwobrau lu ac yn cynnig teithiau a sesiynau blasu gwin.

Mae Llanerch yn lle gwych i aros dros nos, gan fod yno westy braf yn y ffermdy a enillodd wobr Gwesty’r Flwyddyn yng Nghymru gan yr AA yn 2022/23. Mae yno 37 o ystafelloedd gwely pedair seren. Yn goron ar y cyfan, mae’r bwyty sydd â dwy o rosglymau’r AA yn gweini arlwy eithriadol o dda. Perffaith i gyd-fynd â gwinoedd soffistigedig y winllan!

Potel win a gwin gwyn mewn gwydr ar fwrdd
Golygfa o'r grawnwin a'r gwesty yng Ngwinllan Llanerch.

Gwinoedd da a gwinwydd braf yng Ngwinllan Llanerch, De Cymru

Am dro i Ynys y Barri

Daeth y Barri’n enwog drwy gyfres deledu’r BBC, Gavin & Stacey, ond nid dim ond dilynwyr y sioe sy’n gwirioni ar y dre glan môr hon!

Yn Ynys y Barri, fe gewch chi ddiwrnod i’r brenin ar lan y môr, gyda thywod euraidd Bae Whitmore yn lle hyfryd i’r holl deulu godi cestyll a phadlo yn y môr. Mae cytiau traeth lliwgar, enwog Ynys y Barri ar gael i’w llogi am y dydd, neu beth am fentro i ganol goleuadau llachar Parc Pleser Ynys y Barri gerllaw? Mae’r promenâd prysur yn orlawn o gaffis bywiog, siopau pysgod a sglodion traddodiadol ac arcedau diddanu, tra bo modd benthyg cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth yn rhad ac am ddim gan Gyngor Bro Morgannwg. Mae hynny’n golygu bod y traeth yn fwy hygyrch i bawb.

Pobl yn defnyddio cadair olwyn draeth ger cytiau traeth lliwgar.
Tri pherson yn gwthio cadeiriau olwyn traeth i lawr y llethr tuag at draeth tywodlyd

Cytiau traeth a chadeiriau olwyn ar gyfer y traeth yn Ynys y Barri, De Cymru

Ond mae mwy i’r Barri na dim ond glan y môr, gan gynnwys Amgueddfa Ryfel y Barri, lle maen nhw wedi ail-greu ffos o’r Rhyfel Byd Cyntaf a lloches Anderson o’r Ail Ryfel Byd. Mae Llyn a Gerddi Knap yn ffefryn ymhlith pobl leol, ac yn lle da i ymlacio ger traeth The Knap. Yn Goodsheds, wedyn, fe gewch chi gasgliad gwych o siopau bach annibynnol, caffis a llefydd bwyta – lle penigamp am damaid i’w fwyta ac ychydig o siopa am hyn a’r llall. Ymhlith y gwerthwyr yno mae’r KnittyKnutty Yarn Studio, Bee & Bloom, a Danzii Jewellery.

Chwiliwch am bethau i’w gwneud a llefydd aros yn y Barri

Darllenwch fwy: Rhesymau dros garu’r Barri

Ynys y Barri o’r awyr yn dangos y ffair a’r traeth.

Bae Whitmore, Ynys y Barri, Bro Morgannwg, De Cymru

Pentrefi prydferth y Fro

Ar hyd a lled Bro Morgannwg, mae pentrefi bach tlws ryfeddol i’w canfod. Yn wir, weithiau mae hi’n teimlo bod amser yn y llefydd hyn wedi aros yn ei unfan. Mae adfeilion, tafarndai croesawgar, a siopau bach difyr i gyd yn eich aros yma.

Penarth

Mae tref hen ffasiwn Penarth yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae gan y dref glan môr braf hon amryw o siopau annibynnol, ei harcêd ei hun, a llefydd bwyta rhagorol. Anelwch am y dwyrain, ac fe gyrhaeddwch chi Farina Penarth a’r Morglawdd, a hwnnw’n rhoi llwybr cerdded godidog draw i Fae Caerdydd. Anelwch am yr arfordir, ac fe gyrhaeddwch chi’r Pier a’r Pafiliwn art deco ysblennydd. Mae’r rhodfa glan môr yn ymestyn o’r naill ben o’r lan i’r llall, ac yno amrywiaeth o siopau, caffis a bwytai ardderchog. Ar ôl bore o bori yn y ffenestri, ewch am dro hamddenol drwy Barc Alexandra yn y prynhawn.

Mae canol tref Penarth yn lle llewyrchus, ac yn denu pobl sy’n hoff o’u bwyd. Mae yno adeiladau Fictoraidd hardd, arcedau, a siopau annibynnol, gyda Windsor Fruit Stores, y siop gaws La Fauvette, a sawl becws yn eu plith. I fwyta mewn gwir steil ym Mhenarth, cadwch le ymlaen llaw ym mwyty James Sommerin, Home, sydd â seren Michelin. Fel y dywedodd yr awdur Lowri Cooke wrth ymweld â’r bwytai sydd â sêr Michelin yng Nghymru, ‘Does neb yn siŵr beth i’w ddisgwyl cyn canu cloch y bwyty. Ond ar ôl cael eich croesawu drwy’r llenni llwyd moethus, byddwch yn barod am noson sy’n llawn drama!’

Golygfa o'r awyr o bier a thraeth Penarth

Pier Penarth, Bro Morgannwg, De Cymru

Y Bont-faen

Mae tref farchnad y Bont-faen yn berl, gyda’i muriau hanesyddol, ei llwybr placiau glas, a phob math o siopau annibynnol, ffasiynol. Mae’r Ardd Berlysiau, sy’n dyddio yn ôl i’r ddeunawfed ganrif, yn lle gwych i eistedd, ymlacio a chael hoe, tra bo yma ddigonedd o gaffis a delis hefyd os byddwch chi am damaid bach i’w fwyta.

Llanilltud Fawr

Mae adeiladau hynafol ym mhobman o’ch cwmpas yn Llanilltud Fawr, un o bentrefi hyfrytaf Bro Morgannwg. Mae cofnod bod eglwys yma fil a hanner o flynyddoedd yn ôl. Fe allwch chi ddilyn y Llwybr Placiau Glas fan hyn hefyd, cyn mwynhau’r cefn gwlad, yr ogofâu a’r traethau cyfagos.

Gerllaw, mae’n werth mynd i weld tyrau, bylchfuriau a daeargelloedd Castell Sain Dunwyd. Dyma gartref Coleg yr Iwerydd, academi addysg ysbrydoledig ac yno fyfyrwyr o dros 150 o wledydd. Mae llawer hefyd i ymwelwyr ei wneud yma, gan gynnwys ffeiriau Nadolig, sinema awyr agored, teithiau o amgylch cestyll a chwaraeon fel caiacio, dringo ac arfordira.

Golygfa allanol o Eglwys Sant Illtyd gydag awyr las a beddau y tu allan
gardd â blodau wedi’u hamgylchynu â pherthi ac adeilad gwyn.

Eglwys Sant Illtud, Llanilltud Fawr, a Gardd Berlysiau’r Bont-faen, De Cymru

Cofiwch hefyd...

Crochenwaith yn Ewenni

Yn Ewenni, mae’r crochendy hynaf yng Nghymru sy’n dal i weithio, lle mae’r teulu Jenkins wedi bod yn creu llestri, dysglau a fasau hyfryd ers wyth cenhedlaeth. Mae ganddyn nhw enw hynod, gan eu bod nhw’n creu llestri yma ers y bymthegfed ganrif. Fe allwch chi weld y teulu wrth eu gwaith a mynd â’ch darn eiconig eich hun o hanes Cymru gartref gyda chi, a hwnnw wedi’i greu â llaw yng Nghrochendy Ewenni.

Goleudy Nash Point

Dyluniodd y peiriannydd James Walker Oleudy Nash Point i warchod yr arfordir yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maen nhw’n credu bod cannoedd o longddrylliadau yn gorwedd o dan y tonnau fan hyn. Dyma’r goleudy olaf yng Nghymru i fod yng ngofal gweithwyr tan iddo gael ei awtomeiddio yn 1998. Cafodd ei agor i’r cyhoedd yn 2007, ac mae’n fan cychwyn ardderchog ar gyfer tro dros y clogwyni, lle mae’r golygfeydd yn anhygoel.

Golygfa o oleudy’r As Fach wrth ochr y traeth, Bro Morgannwg.
Traeth creigiog a chlogwyn.
Llun agos o ffosil amonit ar graig.

Goleudy Nash Point a ffosiliau a ddarganfuwyd ar y traeth, Bro Morgannwg, De Cymru

Merthyr Mawr

Freuddwydioch chi erioed am ddilyn ôl traed Lawrence o Arabia? Cafodd darnau o’r ffilm glasurol a ryddhawyd yn 1962 eu ffilmio yn y twyni tywod hanesyddol fan hyn, uwchben afon Ogwr. Mae’r twyni yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr ac mae llwybrau wedi’u harwyddo i’ch helpu i grwydro a mwynhau’r bywyd gwyllt a’r cynefinoedd unigryw sydd yma. Ym Merthyr Mawr hefyd fe welwch chi sawl bwthyn to gwellt tlws, plasty Merthyr Mawr o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a Chastell Candleston, sef adfeilion plasty caerog o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

llun o’r awyr o goed a thwyni tywod.
Tair menyw yn cerdded mewn gwarchodfa natur.
Tair menyw yn sefyll yn sgwrsio ar draeth caregog.

Merthyr Mawr, Bro Morgannwg, De Cymru

Castell Ogwr

Mae adfeilion Castell Ogwr i’w canfod ar ystum yn nyfroedd tawel afon Ogwr. Mae’r lleoliad yn dlws ryfeddol, ond yr hyn fydd yn dueddol o aros yng nghof ymwelwyr ydy’r cerrig sarn mawr sy’n croesi’r afon gyfan. Tybed allwch chi gyrraedd yr ochr draw heb wlychu’ch traed?!

Chwiliwch am atyniadau eraill a llety ym Mro Morgannwg.

Dŵr gyda cherrig sarn yn ei groesi. Oedolyn yn tynnu hunlun wrth sefyll ar y cerrig. Llwyni yn y cefndir.
Dŵr gyda cherrig sarn yn ei groesi. Mae oedolyn yn croesi, a’i freichiau ar led. Mae cefn gwlad yn y cefndir.

Ar y cerrig sarn yng Nghastell Ogwr, De Cymru

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig