Pam ydw i’n hoffi gwersylla? Yn syml - gosod pabell, coginio yn yr awyr agored, a threulio amser gyda’r teulu heb orfod poeni am waith, ysgol, clybiau … a thechnoleg! Dwi wrth fy modd mewn cae - o osod y babell i drio gweithgareddau newydd a mwynhau gwylio dychymyg gwyllt fy mhlant yn tyfu!

Fel nifer o deuluoedd, rydym yn treulio'r haf yn crwydro safleoedd gwersylla ledled Cymru. Mae cymaint o lefydd gwych a gwahanol i godi pac - mae hi wedi bod yn anodd dewis ffefrynnau! Os nad ydych chi wedi trio gwersylla o’r blaen, ewch amdani!

Pencelli Castle 

Mae Pencelli Castle yn safle bach tawel yn y Bannau Brycheiniog, sy’n berffaith ar gyfer cerdded, seiclo a mwynhau golygfeydd anhygoel. Mae’r maes gwersylla yn agos at bentref Pencelli ac o fewn cyrraedd mynyddoedd uchaf y Bannau.

Mae’r safle yma wedi ennill sawl gwobr ac yn caniatáu pebyll, carafanau a chartrefi modur gyda chae penodol ar gyfer pob un. Mae’r cyfleusterau yn wych gyda chawodydd poeth a mawr, a llefydd newid ar gyfer teuluoedd. Mae peiriant golchi, peiriant sychu a pheiriant golchi llestri ar gael i bawb.

Mae yna barc gerllaw i ddiddannu'r plant, a thafarn o fewn tafliad carreg os nad oes awydd coginio arnoch. Ewch â beic hefo chi i grwydro llwybr taith Taf wrth fynedfa'r maes gwersylla neu gallwch logi beic ar y maes. Mae yna ddigonedd o fywyd natur i weld o gwmpas Pencelli hefyd, chewch chi ddim eich siomi!

Teulu (Mam, Dad a dwy o ferched) ar ben Pen y Fan
 Golygfa o'r awyr o'r gwastadeddau gwyrdd islaw o ben Pen y Fan gydag awyr las.

Cathy a'i theulu yn dringo Pen y Fan

Greenways of Gower

Mae gan Greenways of Gower olygfeydd hyfryd dros fae Oxwich ym mhenrhyn Gŵyr. Nid oes unrhyw le penodol i roi eich pabell sy'n golygu y gallwch ddewis yn union ble i godi'ch pac.

Mae'r cyfleusterau ar y safle yn wych - bar sy'n addas i deuluoedd, maes chwarae, ystafelloedd cawod ac ymolchi ecogyfeillgar gyda gwres o dan y llawr, siopau, bwytai … mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd! Maen nhw hyd yn oed wedi ennill gwobr ‘tŷ bach y flwyddyn’! Mae'r parc gwyliau teuluol wedi'i ddylunio a'i gynllunio'n ofalus ar gyfer y rhai ohonom sydd â theuluoedd ifanc.

Mae Penrhyn Gŵyr llawn traethau tywod heb eu difetha. Mae traeth Oxwich yn ffefryn mawr a dim ond ychydig o funudau o'r gwersyll mewn car. Os ydych am dorheulo yn yr heulwen neu herio'ch hun trwy gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, mae rhywbeth at ddant pawb yma. Os ydych chi'n syrffiwr brwd, mae traeth Llangennith ar Fae Rhossili yn un o fannau syrffio gorau'r DU.

Mae'n werth ymweld â Phrom Abertawe, neu beth am ddysgu am hanes cyfoethog a chwedlau’r ardal? Os ydych chi'n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd beth am ddringo creigiau ym Mae’r Tri Chlogwyn, caiacio yn Oxwich, neu gerdded yn Nyffryn Castell-nedd? Ewch ar antur!

Traeth gyda gwymon ar y tywod.
Bae'r Tri Chlogwyn o'r ayr

Traeth Bae Oxwich a Bae'r Tri Chlogwyn

Fforest Fields 

Mae gwersyll Fforest Fields yng nghanolbarth Cymru ger Llanelwedd, wedi ei leoli yng nghanol llynnoedd, coedwigoedd a bryniau. Mae yna lefydd i gerdded ymhob cyfeiriad o’r safle 500 erw.

Mae’r cyfleusterau’n wych ar gyfer teuluoedd, gydag ystafelloedd ymolchi penodol ar gyfer teulu. Mae hefyd ystafelloedd golchi a sychu dillad. Mae yna siop fach gyda chegin sy’n cynnwys oergell a rhewgell a hyd yn oed popty ping!

Mae yna ddigon i ddiddanu’r plant yn cynnwys llyn a chanŵs - y tro nesa’ byddwn yn siŵr o bacio’r padlfwrdd!

Mae yna ddewis da o lwybrau beicio, sy’n ffordd wych o weld yr ardal ehangach. Mae yna ddigon o lefydd i ymweld â nhw o fewn tafliad carreg, gan gynnwys Llandrindod, sydd tua 7 milltir i ffwrdd, neu mentrwch i fyny'r Mynydd Du. Os ydych chi’n chwilio am antur ewch i Canolfan Gweithgareddau Llangors, lle mae modd marchogaeth, mynd ar gyrsiau rhwystrau, beicio BMX neu ymweld ag ogofau.

Little Haven, Sir Benfro

Mae safle Little Haven yn faes gwersylla eco ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, hanner milltir yn unig o draethau hardd Aber Bach ac Aberllydan, sydd â mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Mae'n hawdd cyrraedd nifer o draethau anhygoel o'r safle, a dim ond 20 munud o daith yw hi ar gwch i Ynys Sgomer

Mae gan bob un o’r mannau ar y safle digonedd o le a phreifatrwydd ac maent yn caniatáu tanau mewn pyllau tân metel, sy’n cael eu darparu i'w defnyddio.

Teulu yn gwenu a chodi bawd (Mam, Dad a dwy ferch) ar draeth.

Cathy a'i theulu yn mwynhau'r machlud ar draeth

Tŷ Mawr

Mae popeth ar gael ym mharc gwyliau Tŷ Mawr, gan gynnwys adloniant ar gyfer pob oedran.

Mae yna gyfleusterau gwych a llwyth o weithgareddau o ddringo rhaffau, neuadd chwaraeon, adeiladu den ac wrth gwrs nofio. Fe gewch chi fynediad i’r cyfleusterau ymolchi i gyd yn ogystal â’r tai bwyta a’r bar.

Er bod digon o amgylch y parc ei hun, mae'n werth gadael hefyd i fynd am dro o amgylch yr ardal leol. Mae Abergele yn dref farchnad gyda digon o hanes. Mae digonedd o draethau ger llaw a llwyth o gestyll gan gynnwys Castell Gwrych sydd wedi cael llawer o sylw fel cartref dros dro rhaglen ITV 'I'm A Celebrity ... Get Me Out Of Here!'.

Mae gwersylla ar gyfer pawb, ac mae mwy nag un ffordd o wersylla!

Little Kings, Sir Benfro

Mae Little Kings yn barc gwyliau teuluol bach ar gyfer carafanau a gwersylla. Yn ogystal â bod yn agos iawn at rai o'r atyniadau gorau Sir Benfro, mae llu o weithgareddau ar y safle ei hun. 

Mae’r cyfleusterau'n cynnwys pwll nofio dan do wedi'i gynhesu, tafarn groesawgar gyda thân clyd, ystafell gemau ac ardal chwarae i blant, a siop sy'n gwerthu nwyddau lleol, papurau newydd dyddiol a bara ffres.

Ymhlith yr atyniadau lleol mae Folly Farm, Gardd Goedwig Colby, Castell Penfro, Parc Oakwood a Heatherton World of Activities.

Heritage Coast Campsite

Mae’r safle gwersylla yma yn agos i Lwybr Arfordir Treftadaeth Morgannwg, sy’n ymestyn am 14 milltir o Aberddawan i Borthcawl.

Dim ond safleoedd pebyll sydd ar gael ar y maes yma ac mae digon o le i 30. Mae’r cyfleusterau yn wych ac mae caffi ar gael i chi fwynhau coffi yn y bore neu gwrw gyda’r nos. Hefyd o fewn 300 llath mae’r Plough and Harrow lle gallwch fwynhau cwrw lleol a bwyd cartref.

Yn agos at y maes mae Brook Paddock lle gall wersyllwyr ddefnyddio’r adnoddau barbeciw a phicnic - mae digon o le yno i blant chwarae. Mae tai bach ar gyfer dynion, merched, a phobol anabl ger llaw yn ogystal â rhewgell a choed ar gyfer creu tân.

Mae yna nifer o draethau enwog yn agos gan gynnwys Southerndown, Aberogwr, Monknash ac wrth gwrs Ynys y Barri. Mae’r safle hefyd yn agos (tua 30 munud) i’r brifddinas.

Golygfa o’r promenâd, y traeth a’r pentir yn y pellter. Ynys y Barri, De Cymru.
Looking up at the ferris wheel at Barry Island Pleasure park on a sunny day.
Edrych ar draeth a’r ffair drwy’r coed.

Ynys y Barri

Straeon cysylltiedig