Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad gyda bron i 60,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Ers 1922, mae’r Urdd wedi darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n fudiad cwbl unigryw sy’n sicrhau cyfleoedd celfyddydol, chwaraeon a chymdeithasol i blant a phobl ifanc Cymru.

Mae drysau pedwar canolfan breswyl yr Urdd ar agor i bawb drwy gydol y flwyddyn. O deuluoedd i griwiau o ffrindiau, i’r rhai sy’n chwilio am brofiadau anturus. Wedi eu lleoli mewn lleoliadau hardd ar draws Cymru, o arfordir Ceredigion i lannau Llyn Tegid a phrofiad canol dinas ym Mae Caerdydd – mae gwyliau gyda’r Urdd wir yn cynnig rhywbeth i bawb.

Rhwng y pedwar gwersyll mae’r Urdd yn denu dros 50,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn ystod y deunaw mis diwethaf rydym wedi buddsoddi bron i £9.5M yn moderneiddio a datblygu’r Gwersylloedd er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y cyfleusterau gorau i’n gwersyllwyr. Dyma flas ar gynnig pob gwersyll gan gynnwys llety annibynnol newydd yr Urdd, Glan-llyn Isa’.

Gwersylloedd Haf yr Urdd, 2023

Gwersyll Llangrannog

Agorwyd canolfan breswyl cyntaf yr Urdd, Gwersyll Llangrannog, nôl yn 1932. Mae’r gwersyll yn edrych dros Fae Ceredigion, ger Llwybr yr Arfordir, ac yn cysgu 450. Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael i blant, phobl ifanc a theuluoedd yn ogystal â diwrnodau adeiladu tîm. Yn arbenigo mewn gweithgareddau antur, gallwch fwynhau llwyth o weithgareddau i’r teulu oll: llethr sgïo sych, cwrs antur, beiciau quads, go-karts, llinell sip, marchogaeth, nofio a llawer mwy. Bydd Calon y Gwersyll yn agor yn 2022, sef prosiect sy’n moderneiddio rhannau o’r gwersyll ac yn cynnwys neuadd fwyta a bloc llety newydd fydd yn addas i deuluoedd a grwpiau o ffrindiau.

Mae'r gwersyll wedi'i leoli ger llwybr yr arfordir yn edrych dros Fae Ceredigion ac un o uchafbwyntiau'r gwyliau i lawer yw'r daith gerdded i lawr i'r traeth i wylio'r haul yn machlud a mwynhau hufen iâ!

Tad a merch yn mwynhau ar y rhaffau uchel yn Llangrannog.
Aelod o staff yr Urdd yn gwisgo het coch, gwyn a gwydd yn cario plentyn ifanc.
Merch yn sgïo ar lethr Llangrannog. Mae hi'n gwisgo siwmper bing a helmed a menig du.

Gwersyll Llangrannog

Gwersyll Caerdydd

Wedi ei leoli yng nghanol bwrlwm Bae Caerdydd, o dan do Canolfan Mileniwm Cymru mae Gwersyll Caerdydd. Mae’r gwersyll yn rhoi blas o fywyd dinas i blant, pobl ifanc ac i deuluoedd. Mae’r llety yn cynnig 153 o wlâu a phob ystafell yn en-suite. Mae staff cyfeillgar y gwersyll yn cynnig cymorth i westeion i fynd ar deithiau preswyl a gwneud y mwyaf o’r gweithgareddau a’r atyniadau sydd ar gael ym mhrifddinas Cymru, gan gynnwys ymweld â Stadiwm Principality, taith ar gwch cyflym o amgylch y bae neu docynnau i wylio sioe yng Nghanolfan y Mileniwm.

Yn ddiweddar bu Gwersyll Caerdydd yn gartref i deuluoedd wedi ffoi o Afghanistan.

Darllen mwy: 24 awr yng Nghaerdydd.

Tu allan i wersyll yr Urdd Bae Caerdydd gydag adeilad brics coch y Pierhead yn gefndir.

Gwersyll Caerdydd, Bae Caerdydd

Gwersyll Glan-llyn

Mae Gwersyll Glan-llyn wedi’i leoli ar lan Llyn Tegid ger Y Bala, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored ac yn cysgu hyd at 245 ar y tro. Ymysg y gweithgareddau i fanteisio arnynt tra’n aros yng Nglan-llyn mae saethyddiaeth, bowlio deg, pwll nofio a chwrs rhaffau uchel. Ar y dŵr beth am fwynhau sesiwn adeiladu rafft, canŵio, hwylio, padl fyrddio neu rwyfo?

Criw o bobl ifanc yn mwynhau yng nglan llyn Isa.

Criw ar wyliau teulu Glan-llyn yn mwynhau ar lyn Tegid

Gwersyll Glan-llyn Isa’

Agorwyd gwersyll mwyaf newydd yr Urdd, Glan-llyn Isa’ yn 2021. Gwersyll hunan arlwyo, annibynnol, sydd dafliad carreg o Wersyll Glan-llyn, ond eto yn gwbl ar wahân. Y lleoliad perffaith ar gyfer teuluoedd, criw ffrindiau, grŵp ieuenctid neu i drefnu cwrs, gweithdy neu gynhadledd fach.

Mae’n llety hunangynhaliol sy’n cysgu hyd at 40 (gydag ystafelloedd gyda chyfleusterau anabl). Mae cegin fawr bwrpasol ac adnoddau coginio a chyfarfod tu allan, yn cynnwys popty pitsa, adnoddau barbeciw a chrochan tân, ynghyd â lolfa braf i ymlacio a chymdeithasu. Mae Glan-llyn Isa’ yn cynnig profiadau annibynnol a hyblyg i grwpiau. Gallwch hefyd fanteisio ar yr amrywiaeth o adnoddau awyr agored sydd yng Ngwersyll Glan-llyn, neu ddefnyddio’r ganolfan fel lleoliad i grwydro Eryri.

Ystafell gymdeithasol fawr yn Glan Llyn Isa gyda bwrdd bwyd yn eistedd nifer o bobl a soffas cyfforddus gwyrdd.
Hen gartref mawr cerrig gydag arwydd Glna-llyn Isa tu allan.

Glan-llyn Isa', ger Y Bala

Penllyn a phellach…

Dilynwch lwybr cerdded neu feicio i bentref Llanuwchllyn, neu ddringo mynyddoedd Penllyn - Cadair Bronwen, yr Aran a’r Arennig. Mae llwybrau beicio mynydd Coed y Brenin ymysg y gorau ym Mhrydain ac mae’r Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol tafliad carreg o’r gwersyll.

Bydd y rhai bach yn mwynhau antur yng ngerddi Caerau, taith trên ar Reilffordd Llyn Tegid yna llond platiad o fwyd a pharc chwarae’r Hwb.

Eisiau rhoi tro ar yr adnoddau barbeciw? Mae TJ Roberts yn gigydd o safon, a beth am alw yn Stori, Y Bala neu Gwin Dylanwad, Dolgellau am botel o win neu gwrw lleol i olchi’r pryd lawr?

Am bryd o fwyd cartrefol ewch i’r Eagles, Llanuwchllyn neu’r Cyfnod yn Y Bala. Eisiau brêc o’r popty pizza? Ewch i Fwyty Mawddach am bizza ffres o’r ffwrn. Am rywbeth ychydig yn fwy crand mae Palé Hall, Llandderfel a Thyddyn Llan, Llandrillo yn wledd a hanner i unrhyw fonheddwr mawr o’r Bala.

Ar ddiwedd diwrnod llawn antur ymgollwch mewn llyfr da o Awen Meirion o flaen tân y lolfa cyn clwydo.

O’r Pridd i’r Plât

Bydd yr Urdd yn agor gwersyll amgylcheddol cyntaf Cymru ym Mhentre Ifan, Sir Benfro eleni. Bydd Pentre Ifan yn ddihangfa ddigidol ac yn annog pobl ifanc i gysylltu â’u tirlun amgylcheddol a diwylliannol a phrofi ffordd o fyw mwy cynaliadwy. Bydd pobl ifanc yn tyfu ac yn cynhaeafu eu bwyd o’r ardd, ac yn coginio ac yn bwyta gyda’i gilydd o dan y sêr yn y gegin allanol wedi ei bweru gan ynni gwyrdd.

Mi fydd y gwaith adnewyddu gwerth £1.2M yn trawsnewid pum adeilad y safle i wersyll sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn cynnig llety en suite i 55 person yn ogystal ag ystafelloedd amlbwrpas, cegin awyr agored, cyfleusterau arlwyo ac ymolchi sy’n defnyddio pŵer solar, gardd-gegin ac adnoddau glampio. Bydd teuluoedd hefyd yn gallu mwynhau llwyth o weithgareddau awyr agored yn cynnwys mynydda, arfordira, gwyllt grefft a llawer mwy.

Dilynwch Yr Urdd ar Instagram, Facebook a Twitter am y newyddion diweddaraf.

Straeon cysylltiedig