Mae cyrsiau a gwyliau addysgiadol yn gyfle i herio eich hun a phrofi rhywbeth gwahanol, ac ar ben hyn, gall wneud gwyrthiau i’ch CV a’ch proffil Linkedin.

Mae ymchwil yn awgrymu fod dysgu gydol oes – boed hynny ar ffurf crefft neu ddiddordeb newydd – yn cynyddu eich llesiant meddyliol, eich hunanhyder a’ch hapusrwydd cyffredinol. Mae rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn un o ‘Bum llwybr at lesiant’ yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru, ynghyd â chysylltu, symud, rhoi, a thalu sylw. Felly mae herio ein hunain i ddysgu pethau newydd yn llesol i'n hiechyd meddwl hefyd. 

Dyma flas ar rai o’r profiadau sydd ar gael yma yng Nghymru. 

Menyw yn defnyddio offer i grefftio ar ben bwrdd

Canolfan Grefftau Corris

Cyrsiau eco-gyfeillgar

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yng Nghanolbarth Cymru’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau, sy’n amrywio o wneud eich cartref neu swyddfa’n fwy eco-effeithiol, i gyrsiau garddio sy’n rhoi cyfle i chi ddeall sut i helpu bywyd gwyllt i ffynnu yn eich gardd. Mae cyrsiau eraill yn cynnwys sut i warchod a gofalu am wenyn a sut i adeiladu cartrefi naturiol ac iach.

Mae rhai o’r cyrsiau’n cynnig cyfle i chi aros ar y safle yn llety eco'r ganolfan ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri ger Machynlleth.

Arwydd yn dweud crefftau pren.
Pobl yn eistedd y tu allan i adeilad ar fyrddau picnic gyda blodau o’u hamgylch.

Canolfan y Dechnoleg Amgen, Powys

Creu darn o hanes

Lleolir saith safle Amgueddfa Cymru yn rhai o leoliadau mwyaf unigryw Cymru, gan ddarparu’r lleoliad delfrydol i roi cynnig ar rywbeth newydd. Ysbrydolir y cyrsiau byrion gan wrthrychau a straeon o blith casgliadau’r Amgueddfa, gan gynnwys gwaith gof, cerfio llwyau a gwaith lledr, yn ogystal â gwehyddu basgedi a matiau. 

Darllen mwy: Ein saith amgueddfa genedlaethol

Gwehyddu
Menyw a phlentyn yn edrych ar fasged fawr a wehyddwyd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Crefftau Corris

Yn harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri, mae Canolfan Grefftau Corris yn darparu profiadau bendigedig mewn naw stiwdio grefft unigryw. Mae amrywiaeth o weithdai gan gynnwys dipio canhwyllau, adeiladu dodrefn, peintio crochenwaith a gwneud siocled, a’r cyfan dan ofal gwneuthurwyr arbenigol. 

Encil llenyddol

Dechreuwch bennod gyntaf eich taith lenyddol yn Nhŷ Newydd Llanystumdwy, Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. 

Mae Tŷ Newydd, adeilad hanesyddol Gradd II o dan ofal Llenyddiaeth Cymru, yn fan hudolus sy’n gyforiog o ddiwylliant. Gallwch dreulio diwrnod neu wythnos gyfan yn y lleoliad bendigedig â golygfeydd dros Fae Ceredigion.

Cynigir amrywiaeth o gyrsiau dwyieithog yn amrywio o farddoniaeth i chwedlau gwerin, ysgrifennu creadigol i adrodd straeon. Gallwch gael eich ysbrydoli gan awduron proffesiynol mewn gweithdai a sesiynau unigol. Ac os yw’n well gennych fod ar eich pen eich hun, mae’r Bwthyn Encil yn lle braf i gael llonydd.

Llun o'r tu allan i dŷ mawr gwyn mewn gardd fawr
Llun o ystafell haul gyda bwrdd hir pren a chadeiriau, a silffoedd llyfrau

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Cerdded, coginio a cherfio

Anghofiwch y sgriniau, codwch babell a dysgwch sgiliau awyr agored. Mae digon o weithgareddau crefftau’r goedwig ac awyr agored ar gael ledled Cymru o gyrsiau diwrnod, penwythnos neu gyrsiau wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer unigolion, parau a theuluoedd.

Mae Morfa Bay yn ganolfan antur awyr agored sy'n dysgu sgiliau yn y coetiroedd cyfagos - rhowch gynnig ar grefftau tân, coginio, chwilota am fwyd, cerfio â llaw ac adeiladu lloches. Mae Anelu yn Nhregarth yn cynnig profiadau awyr agored a theithiau cerdded a dringo yn harddwch Parc Cenedlaethol Eryri, neu mae Bushcraft Adventures yng Nghasnewydd yn cynnig sesiynau saethyddiaeth, taflu bwyell a gweithgareddau awyr agored eraill i deuluoedd.

Straeon cysylltiedig