Ar antur deuluol yng Nghymru gallech brofi beicio mynydd o safon fyd-eang, heicio, padlo, gweithgareddau arfordirol, gwibio ar linell zip ac ogofeydd!

Waeth beth fo lefel eich criw – yn bobl ifanc yn eu harddegau'n llawn adrenalin neu'n blant oedran cynradd sy’n dechrau nofio a beicio - mae rhywbeth i weddu pob gallu. 

Chwaraeon dŵr i’r teulu

Canŵio a chaiacio

Môr, afonydd, llynnoedd – mae dewis eang o fannau caiacio a chanŵio yng Nghymru. Mae'r llynnoedd yn berffaith i'r rhai lleiaf badlo a darganfod y dŵr a’r bywyd gwyllt. Mae sawl un o’n hafonydd – fel yr afon Gwy a Theifi – yn ddelfrydol ar gyfer taith mewn canŵ hefyd. Amserwch yn gywir a gallwch fynd gyda'r cerrynt yr holl ffordd i lawr – prin fydd angen padlo - yna bydd digonedd o amser i wylio adar a gweld y byd yn mynd heibio.

Gall rhwyfwyr mwy profiadol ddewis gwneud anturiaethau aml-ddiwrnod, gan wersylla dros nos dan y sêr, neu herio’r tonnau mewn canŵ neu gaiac o gwmpas yr arfordir.

Darllen mwy: Canŵio a chaiacio yng Nghymru

Merch yn ei harddegau mewn siwt wlyb a helmed ar gaiac eistedd ar ei ben yn dal ei rhwyf
Merch yn ei harddegau yn gwisgo siaced achub a sbectol haul mewn caiac ar lyn ar ddiwrnod heulog

Hwyl ar y dŵr yn Sir Benfro a Glan-llyn

Syrffio

Yn ffodus, mae llawer o’n traethau’n cael tonnau hir, cyson. Mae gennych ddigonedd o amser i baratoi at ddal eich ton gyntaf a phan lwyddwch chi, bydd yn gymharol esmwyth ac yn para am oes. Unwaith y byddwch wedi magu hyder, mae digon o donnau canolig a mwy heriol i’w meistroli.

Gall plant iau ddechrau gyda chorff-fwrdd – mae cael teimlad am ddal ton heb orfod ceisio sefyll yn ffordd wych o fagu hyder. Mae gan lawer o’n traethau syrffio gorau ysgolion syrffio sy’n darparu gweithdai a’r holl offer. Mae Sir Benfro, Penrhyn Gŵyr a Phen Llŷn yn arbennig o dda. Does dim rhaid mynd i’r traeth hyd yn oed – mae gan Adventure Parc Snowdonia lagŵn a adeiladwyd yn arbennig gyda thonnau perffaith bob 90 eiliad!

Dau blentyn yn cario bwrdd syrffio ar y traeth.

Dysgu syrffio ar Benrhyn Gŵyr

Rafftio a mynd ar RIB

Ffansïo rhywbeth ychydig cyflymach? Beth am rafftio dŵr gwyn! Mae dewis o lefelau hefyd – gan gynnwys disgyniadau pwrpasol Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd ble mae modd gostwng lefel y dŵr er mwyn i blant mor fach â chwech oed gymryd rhan, a dŵr gwyn a throbyllau naturiol Afon Tryweryn yn y Ganolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol yng Ngogledd Cymru. Mae angen i chi fod yn 10 oed neu hŷn i gymryd rhan yma.

Os yw rhwyfo’n teimlo fel gormod o waith caled, gallwch ddewis cyffro cyflym taith RIB ar yr Afon Menai yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â gwibio â’r gwynt yn sgubo drwy eich gwallt, cewch olwg agos ar y dŵr gwyllt enwog a elwir yn Bwll Ceris a dod mor agos â phosib at y ddwy bont enwog sy’n cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr.

Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Rafftio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Genedlaethol Caerdydd

Arfordira

Mae arfordira’n cynnwys darganfod yr arfordir drwy sgramblo, nofio a neidio i mewn ar ei hyd. Mae’n hanfodol mynd gyda thywysydd cymwysedig i’ch cadw’n ddiogel a sicrhau nad ydych chi’n niweidio’r arfordir na tharfu ar y bywyd gwyllt. Cewch wisgo siwt wlyb, menig, esgidiau addas, helmed ac offer arnofio. Bydd plant hŷn wrth eu boddau. Mae’n ffordd wych o gael hwyl yn y dŵr a dysgu tipyn wrth wneud.

Er nad oes rhaid bod yn nofiwr cryf, rhaid bod yn hyderus yn y dŵr. Mae lleiafswm oedran yn amrywio – bydd rhai gweithredwyr yn gadael i blant wyth oed gymryd rhan, ac eraill yn gofyn i blant fod yn 10 cyn gallu mentro. Ac am eich bod mor ysgafn yn y dŵr, prin yw’r cyfyngiadau o ran pwy all gymryd rhan. Mae gweithredwyr fel Celtic Quest Coasteering yn cynnig teithiau arfordira hygyrch i ystod eang o bobl anabl, gan gynnwys pobl fyddar, dall, plant ac oedolion â nam ar eu clyw a’u llygaid, a phobl ag anghenion addysgol ychwanegol.

Darllen mwy: Arfordira yng Nghymru

Arfordiro ger Tyddewi, Sir Benfro

Anturiaethau llawn adrenalin

Cerdded ceunentydd 

Mae cerdded ceunentydd - a elwir hefyd yn sgramblo - yn golygu archwilio nentydd mynyddig creigiog trwy nofio a dringo ar eu hyd ac abseilio i lawr. Gall olygu neidio o uchder a gwlychu'n ofnadwy!

Mae'n hanfodol mynd gydag arweinwyr achrededig i sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel. Byddwch yn gwisgo siwt wlyb, siaced bouyancy, helmed ac yn aml esgidiau a menig hefyd.

Mae llawer o lefydd i roi cynnig arni, gan gynnwys Bannau Brycheiniog, Bae Ceredigion ac Eryri. 

Grŵp o bobl o dan raeadr yn gwisgo offer diogelwch.
Close up of teens in helmets and wetsuits in a river having fun

Cerdded ceunentydd yn y Bannau Brycheiniog ac Eryri

Llinellau Sip

Mae Cymru yn un o gyrchfannau sipio gorau'r byd. Yng ngogledd Cymru, mae Zip World Llechwedd a Chwarel Penrhyn yn cynnig gwefr gyflym ar rai o sipiau cyflymaf y byd dros hen chwareli llechi safle UNESCO Llechi Cymru. Yn Zip World Tower yn ne Cymru gallwch reidio'r sip eistedd gyflymaf yn y byd ar draws cronfa ddŵr disglair. Mae'r profiadau unigryw hyn yn boblogaidd iawn felly mae'n well archebu lle ymlaen llaw.

dyn yn barod i wibio ar hyd weiren sip dros chwarel fawr

Zip World Velocity 2, Chwarel Penrhyn

Rhaffau Uchel

Mae llawer o ganolfannau gweithgareddau rhaffau uchel yng Nghymru. Mewn mannau fel Zip World Fforest ger Betws y Coed a Ropeworks ger Llanberis gallwch swingio rhwng y coed ar bob math o rwydi a sipiau a phlymio tua'r ddaear ar siglenni Tarzan enfawr. Dyma un arall i'w archebu ymlaen llaw.

Antur danddaearol

Ar yr un safle â Zip World Llechwedd mae anturiaethau o dan y ddaear yn ogystal ag uwchben y ceudyllau. Neidiwch ar drampolinau tanddaearol enfawr yn Bounce Below neu rhowch dro ar gêm o golff yn yr ogof

Mae Go Below yn cynnig anturiaethau dring ac abseilio o dan y ddaear yn Eryri. A byddwch hefyd yn dysgu am hanes cyfoethog mwyngloddio yng Nghymru gyda theithiau tywys trwy dwneli hynafol mewn lleoedd fel Corris Mine Explorers.

Grŵp o bobl ar rwydi’r parc trampolîn tanddaearol Bounce Below yn Zip World Slate Caverns.
Pobl yn bownsio dan ddaear yn Bounce Below, Blaenau Ffestiniog.

Anturiaethau dan ddaear yn Bounce Below, Zip World Llechwedd

Gwyliau cerdded i’r teulu

Mae miloedd, yn llythrennol, o lwybrau cerdded yma yng Nghymru. Y duedd ar gyfer gwyliau cerdded i’r teulu yw canolbwyntio ar ein tri pharc cenedlaethol gyda chopaon epig Eryri, bryniau heriol Bannau Brycheiniog ac arfordir Sir Benfro yn denu’n bennaf. Ond mae llwybrau cerdded rhagorol ymhob cwr o Gymru – o deithiau hamddenol drwy warchodfeydd natur i gerdded o ddifri o fore gwyn tan nos.

O osgoi’r llwybrau mwyaf poblogaidd, mae’n bosib cerdded am oriau heb weld un enaid byw arall. Ac mae rhythm cerdded yn therapiwtig dros ben – mae’n meithrin sgwrs, ac yn saib perffaith o'r iPads a'r byd digidol. Efallai mai dyma pryd y gwelwch fod eich arddegwr pwdlyd yn dechrau siarad â chi unwaith eto!

Darllen mwy: Cerdded yng Nghymru

Teulu’n cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru.

Cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru ger Aberdaron

Gwyliau beicio i’r teulu

Mae gennym rai o’r mannau gorau yn y byd ar gyfer reidwyr profiadol, ond mae digonedd o lecynnau gwastad ac hawdd o gwmpas llynnoedd a choedwigoedd deiliog, sy’n ddelfrydol ar gyfer y plant iau hefyd. Os yw'ch plant yn gyffyrddus ar gefn beic, bydd rhywbeth at eu dant yn sicr.

Ar gyfer beicio mynydd i’r teulu, mae mannau fel Coed y Brenin, Parc Fforest Afan a Choed Llandegla yn cynnig milltiroedd o lwybrau, o rai gwyrdd ar gyfer dechreuwyr i rai du ar gyfer beicwyr profiadol iawn. Maen nhw’n ddelfrydol os yw'ch plant ar lefelau gallu amrywiol. I gael her go iawn, rhowch gynnig ar y llethrau yn hen chwarel lechi Antur Stiniog – maen nhw’n sicr o godi curiad eich calon. Mae gan bob un o’r rhain gaffis a mannau llogi beiciau ac offer hefyd.

A does dim rhaid mynd i ganolfan arbenigol i fwynhau beicio i’r teulu yng Nghymru. Mae gennym dros 250 milltir o lwybrau beicio. Prin fod gwell ffordd o fynd a mwynhau diwylliant a chefn gwlad na beicio ar lan afonydd heddychlon a heibio cestyll  mewn lleoliadau fel Cwm Elan a Llwybr Taf. Paciwch bicnic, gwisgwch eich helmed a pharatowch i bedlo!

Dau berson gyda beic mynydd yn edrych ar yr haul yn machlyd yn  aber afon Mawddach eastuary.

Beicwyr yn edrych dros Aber yr Afon Mawddach

Cadwch yn ddiogel

Mae anturiaethau awyr agored yn hwyl gwych ac mae’n rhoi cyfle rhagorol ar gyfer gweithgareddau anturus ond cofiwch ddarllen am y peryglon, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi paratoi o flaen llaw. 

Straeon cysylltiedig