Mae taith ffordd wirioneddol epig angen rhestr chwarae: alawon i’w chwarae’n uchel gyda balchder, y ffenestri ar agor a’r dychymyg yn effro yn disgwyl beth fydd i’w weld rownd y tro nesaf... caneuon sy’n drac sain i siwrne lle mae'r daith yn dipyn o brofiad ynddi'i hun. 

Mae Ffordd Cymru’n deulu newydd o dri llwybr cenedlaethol sy’n arwain at galon y Gymru go iawn. Mae Ffordd yr Afordir yn teithio arfordir y gorllewin o gwmpas Bae Ceredigion, taith ffordd 180 milltir (290km) rhwng y môr a’r mynydd. Mae Ffordd Cambria’n croesi asgwrn cefn Cymru am 185 o filltiroedd (300km) rhwng Llandudno a Chaerdydd trwy Barciau Cenedlaethol a môr o wyrddni. Mae Ffordd y Gogledd arwain am 75 o filltiroedd (120km) heibio i gestyll grymus draw i Ynys Môn.

Map yn dangos llwybrau Ffordd Cymru

Llwybrau Ffordd Cymru

Ar gyfer Dydd Miwsig Cymru mae'r DJ Gareth Potter wedi mynd trwy’i raciau i gasglu rhestr chwarae arbennig o'r caneuon gorau, y mwyaf poblogaidd a churiadau prin o’r chwe degawd ddiwethaf, gan greu’r cydymaith cerddorol perffaith ar gyfer antur ar hyd Ffordd Cymru.

Mae’n gerddoriaeth mor amrywiol â’r tirwedd. Dyma ragor am bump o bigion y rhestr chwarae - sy'n cynnwys 30 o ganeuon i gyd.

Gyrru, Gyrru, Gyrru - Gruff Rhys

Mae gyrfa Gruff yn amrywio o fod yn rebel indi'r 80au i ddatblygu’n drysor cenedlaethol trwy Ffa Coffi Pawb, Super Furry Animals a’i albymau solo gwych. Daw Gyrru, Gyrru, Gyrru o’i sioe i blant, Candylion ac mae’n berffaith i’r teulu ei ganu ar hyd y daith.

Gyrru, Gyrru, Gyrru - Gruff Rhys

Ar y Ffordd - Edward H Dafis

Mae teyrnged y band roc Cymreig unigryw a chlasurol hwn i fywyd ar y ffordd yn cael ei nerthu gan riffs gitâr mawr a naws unigryw. Edward H oedd y band Cymraeg mwyaf poblogaidd yng Nghymru yn y 1970au mae’n debyg, ac mae’u hanthemau’n dal i ysbrydoli cenedlaethau newydd. Cewch faddeuant am feddwl mai chi yw Kerouac Cymru yn teithio ar y tarmac i’r alaw hon.

Ar y Ffordd - Edward H Dafis

Byth yn Stopio - Y Ffug

Nid yw neo roc pync nerthol Y Ffug byth yn methu â syfrdanu unrhyw un sy'n gweld eu sioeau byw chwilboeth. Trowch hwn i fyny i 11. Mae Byth yn Stopio’n cael ei yrru gan ysfa’r ifanc i ddal i symud a dal i ddarganfod lleoedd newydd i deithio iddynt.  Yn union fel chi...

Byth yn Stopio - Y Ffug

Cymylau - Band Pres Llareggub

Pwy fyddai wedi breuddwydio mai gan fand pres y byddai albymau mwyaf dyfeisgar diweddar y Gymraeg wedi dod? Wedi’i enwi ar ôl pentref dychmygol Dylan Thomas yn Dan y Wenallt, bydd Band Pres Llarreggub yn eich herio i edrych y tu hwnt i’r amlwg i’r cymylau a’r gorwelion i ddychmygu beth sydd y tu hwnt i’r mynyddoedd a’r llinell goed yna...

Sebona Fi - Yws Gwynedd

Mae cân fwyaf poblogaidd y tywysog pop Cymraeg presennol yn cynnwys gitarau’n gyrru, harmonïau i godi calon a melodïau sy’n bachu’n afaelgar. Bydd hon yn eich nerthu ar eich taith pan fydd y ffordd yn agored a'r awyr yn glir.

Sebona Fi - Yws Gwynedd

Gwrandewch nawr...

Gallwch ffrydio rhestr chwarae Ffordd Cymru ar Spotify, iTunes, Deezer ac YouTube ac i ganfod rhagor am #DyddMiwsigCymru ewch i'r wefan.

Straeon cysylltiedig