Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn poeni am blant y genedl. Dim digon o bengliniau brwnt a bochau cochion, mae’n debyg. Felly mae wedi llunio ymgyrch wych o’r enw ‘50 o bethau i’w gwneud cyn eich bod chi’n 11¾’ i ysbrydoli plant i fentro i fannau gwyllt a, wel, mynd yn wyllt. Dringo coeden, adeiladu lloches, codi argae ar draws nant, sglentio carreg, gwneud teisen fwd – mae’r holl bleserau hen ffasiwn hyn ar y rhestr, ynghyd ag ambell gynnig modern fel geo-gelcio a dringo.

Mae holl eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru yn chwarae ei ran, ac mae rhestr o bethau i'r plant eu cyflawni, ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol a chyngor diogelwch i rieni. I’ch rhoi ar ben ffordd, rydym wedi dewis deg peth oddi ar y rhestr, ac awgrymu ymhle yng Nghymru yr hoffech fynd i roi cynnig arnynt. Mwynhewch!

Rholio i lawr bryn mawr iawn

Efallai bod byddinoedd goresgynnol wedi gwneud hyn dan frwydr fawr, ond gallwch chi fwynhau’r hwyl i gyd yn ddiogel wrth rolio i lawr y bryn mawr iawn sy’n cynnal Castell y Waun. Wedi’i gwblhau yn 1310, y Waun yw’r castell olaf yng Nghymru o deyrnasiad Edward I lle mae pobl yn byw hyd heddiw, ac mae saethwyr a phicellwyr yn patrolio o hyd.

Dal cranc

Yn Afon Menai mae rhai o gynigion gorau Cymru o ran wystrys, cregyn gleision, crancod a chimychiaid. Mae tŷ gwledig Plas Newydd, sef plasty godidog Marcwis Môn, yn gwylio dros y dyfroedd hyn ers canrifoedd, ond mae’r hyn sydd o dan y tonnau ar gael i’w ddarganfod â rhwyd neu linyn crancod.

Bachgen yn chwarae yn y môr gyda rhwyd dal crancod

Saundersfoot, Sir Benfro

Edrych y tu mewn i goeden

Ar ôl ymweliad gan gofnodwr coed swyddogol Cofrestr Coed Ynysoedd Prydain (ydy, mae’r swydd hon wir yn bodoli...) roedd Castell Powys yn falch o ddarganfod bod ganddo 12 o ‘bencampwyr’ coed – sef yr enghreifftiau mwyaf o’u rhywogaeth yng Nghymru. Dyma’r lle delfrydol felly i redeg yn rhydd yn y goedwig ac archwilio coed bendigedig.

Dod o hyd i greaduriaid rhyfeddol mewn pwll glan môr

Mae pob pwll glan môr fel bydysawd bach a chanddo ei ecosystem fach ei hun, a honno’n cael ei hadfywio ddwywaith y dydd gan y llanw – lle perffaith i fforwyr bach fynd ar antur, felly. Fel mae’n digwydd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gofalu am rhai o’r rhannau prydferthaf o arfordir Cymru – ac felly, y byd! Edrychwch ar Rhosili, y ShincMwntPorthorPorthdinllaen … maen nhw’r un mor gyfareddol a'i gilydd.

Plant yn snorclo yn y môr, a'r traeth yn y cefndir
Plant yn snorclo yn y môr gyda'r traeth yn y cefndir

Archwilio creaduriaid y môr, Abersoch

Dringo bryn anferth

Os ydych yn ymweld â Beddgelert yng nghanol Eryri, nid oes prinder bryniau anferth. Serch hynny, os ydych yn edrych am her ychydig yn haws, beth am anelu at adfeilion castell Dinas Emrys. Mae yma fantais arall, sef chwedl Gymreig go iawn: o dan y bryn hwn, ysgydwodd draig goch a draig wen sylfeini’r castell yn ystod gornest a hanner. Enillodd y ddraig goch ... ac felly ein symbol cenedlaethol, yn chwifio’n falch ar ein baner.

Gwneud teisen fwd

Ar un adeg, cynhyrchai cegin Erddig seigiau cain a bwyd coeth i’r bonedd i fyny’r grisiau, ond y gerddi sy’n cynhyrchu teisennau hynod erbyn hyn – teisennau mwd, hynny yw, am fod croeso i blant gael eu dwylo’n fudr a dangos eu doniau creadigol ar dir y tŷ gwledig atmosfferig hwn.

Gwersylla yn y gwyllt

Profiad bythgofiadwy bob amser yw gwersylla yn y gwyllt am y tro cyntaf, ond mae gwersylla yn nefoedd bywyd gwyllt Ystangbwll yn Sir Benfro yn brofiad i’w drysori am oes. Yma, caiff pob un seren yn awyr y nos ddisgleirio’n ffyrnig yn y fagddu.

Y môr a'r traeth ym Mae Barafundle

Bae Barafundle, Sir Benfro

Ffeindio geo-gelc

Mae geo-gelcio’n ffordd wych o ennyn diddordeb plant yn yr awyr agored – i bob pwrpas, gêm gyfoes o guddio yw hon – ac mae celciau i’w canfod yn bron holl safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch roi cynnig arni am ddim drwy fenthyg dyfais GPS yn Llanerchaeron, plas Sioraidd cain, yng nghwm coediog Aeron, gyda’i fferm ei hun, gerddi muriog a llyn.

Hedfan barcud

Mwynhewch eangdiroedd y parcdir arbennig yn Nhŷ Tredegar ger Casnewydd drwy hedfan barcud yn y 90 erw hyfryd a fyddai’n cael eu mwynhau’n arbennig am bum canrif gan linach glo’r Morganiaid.

Mynd ar daith natur yn y nos

Fuoch chi erioed yng nghefn gwlad yn ystod y nos â thortsh pwerus? Mae yna gymuned gyfan o greaduriaid sy’n cuddio gan amlaf yn ystod golau dydd – cadnoaid, moch daear, dyfrgwn, draenogod, ceirw – a gyda’r nos y mae’r rhain oll ar eu prysuraf. A'r ystlumod, wrth gwrs – fe welwch nifer o rywogaethau yn Ninefwr, lle mae’r coedwigwyr yn cynnal teithiau cerdded ystlumod rheolaidd yn yr haf.

Straeon cysylltiedig