Castell Cilgerran

Mae dau dŵr Castell Cilgerran yn awgrymu pwysigrwydd strategol Afon Teifi. Rheolwch yr afon, ac fe reolwch ei gallu mawr i gludo llwythi a physgota. Bu’r castell yn destun cweryl rhwng lluoedd Cymru a Lloegr am ddwy ganrif cyn iddo gael ei amddifadu yng nghanol y 14eg ganrif. Mae’r adfeilion yn drawiadol o hyd, a’r rheini mewn llecyn hyfryd ar glogwyn uwchben yr afon, dair milltir i fyny’r afon o’i efaill, Castell Aberteifi, lle’r awn yn nes ymlaen.

Ceunant Teifi

Mae nifer o lwybrau i lawr yr afon o Gilgerran drwy ysblander Ceunant Teifi. Y pellaf yr ewch i ffwrdd o’r afon, y rhwyddaf (a’r mwyaf diogel) yw'r llwybrau. Mae’r llwybr isaf – ar hyd yr afon ei hun – yn gul, yn llithrig ac yn lletchwith, felly peidiwch â mynd ar ei gyfyl os ydych yn ansicr eich cerddediad. Cofiwch chi, hwn yw’r llwybr a ddefnyddiwyd gan gwryglwyr ers canrifoedd – ac maen nhw’n dal i’w gerdded yn ystod y nos, a hithau fel y fagddu, yn cario eu cychod ar eu cefnau. Y ffordd orau o werthfawrogi hyfrydwch y Ceunant yw teithio ar yr afon ei hun – mae Heritage Canoes yn cynnig teithiau tywysedig o’u canolfan ger Canolfan Natur Cymru.

Llun o bedwar person yn canŵio

Canŵio ar Afon Teifi

Canolfan Natur Cymru

Mae Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi yn gartref i Ganolfan Natur Cymru, sydd wedi creu milltiroedd o lwybrau â chyfeirbwyntiau, gyda chuddfannau, trwy ddarnau helaeth o wlyptir. Gallwch logi ysbienddrychau a bagiau gwybodaeth i blant o’r caffi/y ganolfan ymwelwyr, i helpu i ddod o hyd i’r dyfrgwn, glas y dorlan, y bodau tinwyn, yr hebogau tramor a’r gylfinirod sy’n byw yma. Ceir gyr o ych yr afon yma hefyd - nid rhywogaeth frodorol yn union, ond maen nhw’n wych am gynnal y corsydd ar gyfer y bywyd gwyllt.

Llun o'r tu allan i'r ganolfan ymwelwyr
Corsydd a brwyn yng Nghors Teifi

Canolfan Natur Cymru a Chors Teifi

Castell Aberteifi

Ymlaen â chi i lawr yr afon a chyn hir fe ddewch i Gastell Aberteifi, sy’n gwarchod y bont isaf ar draws Afon Teifi. Rhys ap Gruffudd - sef yr Arglwydd Rhys - adeiladodd y castell cerrig cyntaf yma ac, i ddathlu ei gwblhau yn 1176, cynhaliodd gynulliad o gerddorion a beirdd. Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf, traddodiad sydd wedi para hyd heddiw. Adfeiliodd y castell, a’r tŷ Sioraidd ar ei dir, yn ofnadwy nes i £12m o brosiect adfer sicrhau ei ddyfodol yn atyniad treftadaeth, bwyty, llety a lleoliad digwyddiadau.

Tref Aberteifi

Am eich bod chi yma, mae’n werth treulio awr neu ddwy yn archwilio Aberteifi. Gwir dref Gymreig yw hi i raddau helaeth iawn, yn ganolfan i gymunedau ffermio a physgota lleol, a chriw cryf o fusnesau cartref. Un esiampl dda yw Crwst: caffi rhagorol drwy’r dydd sy’n cynnig cynnyrch lleol, yn nwylo’r pâr ifanc Catrin ac Osian. Mae ysbryd ‘gallu gwneud’ yn perthyn i Aberteifi: y dref hon hefyd sy’n gwneud jîns Hiut y mae Meghan Markle yn eu gwisgo.

Castell Aberteifi a phont dros Afon Teifi

Castell Aberteifi ac Afon Teifi

I'r gogledd i Mwnt

Dyma ddewis i chi: ar ba lan fyddwch chi’n dilyn moryd Teifi i’r môr? Mae llwybr yr ochr ogleddol yn mynd trwy Gwbert, yna’n gwyro ychydig i’r mewndir cyn ailymuno â’r arfordir y tu hwnt i Ynys Aberteifi. Oddi yma, mae’n hyfryd cerdded i fyny i draeth y Mwnt, cildraeth cysgodol perffaith sydd ymhlith y llefydd gorau ym Mhrydain i weld dolffiniaid.

Llun o draeth Mwnt

Mwnt, Ceredigion

I’r de i Landudoch

Adfeilion lluniaidd Abaty Llandudoch o’r 12fed ganrif yw prif atyniad y pentref pert hwn, sy’n dilyn glan ddeheuol Afon Teifi. Sylfaenwyd yr abaty gan fynachod Tiron, a gyflwynodd ddull o bysgota – rhwydo Seine – sy’n cael ei arfer o hyd gan ychydig o bysgotwyr ym mhyllau’r afon gerllaw. O flaen yr abaty, cynhelir marchnad cynhyrchwyr lleol bob bore Mawrth, a gafodd ei henwi’r gorau ym Mhrydain gan Food and Farming Awards BBC Radio 4 yn 2016.

Adfeilion Abaty Llandudoch

Abaty Llandudoch

Traeth Poppit

Traeth twyni Poppit yw man cychwyn neu ddiwedd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Os ydych wedi cael llond bol ar gerdded, beth am gael hufen iâ a mwynhau’r golygfeydd o Fae Ceredigion? Os oes nerth gennych o hyd, dim ond 186 o filltiroedd (300km) eto sydd oddi yma i Amroth yn y de...

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Am gysylltiadau cludiant cyhoeddus â’r mannau cychwyn/ diwedd, mae amserau bws ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Cewch wybod am ddillad ac esgidiau priodol yn ogystal â rhagor am warchod a mwynhau cefn gwlad yn y Cod Cefn Gwlad.

Straeon cysylltiedig