Mae’r dref farchnad fywiog hon ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei gŵyl fwyd flynyddol, ond mae digon o bethau i’w gweld a’u gwneud drwy gydol y flwyddyn. Dyma enwi ond rhai ohonynt.

Rhywbeth i’w fwyta

Am ddeuddydd bob mis Medi, mae Gŵyl Fwyd y Fenni’n trawsnewid strydoedd y dref yn wledd anferthol o stondinau bwyd, arddangosiadau gan ben-cogyddion ac adloniant. Hwn yw’r digwyddiad mwyaf ar galendr bwyd y DU. A chewch chi fyth drafferth yn cael lle gwych i fwyta ar y 363 diwrnod arall o’r flwyddyn, chwaith.

Dau gogydd, Stephen Harris a Matt Tebbutt, yn gwneud arddangosiad coginio
Pobl yn bwyta ac yn crwydro rhwng stondinau bwyd

Gŵyl Fwyd y Fenni

Mae canol y dref yn ferw o siopau coffi a bwytai. Am damaid cyflym, ewch i Fig Tree Espresso, sy’n cynnig cacennau cartref i’ch temtio mewn clos bach pert. Neu ewch i The Art Shop and Chapel am brydau blasus o gynhwysion wedi’u cyrchu a’u chwilota’n lleol. Os oes achlysur arbennig i’w ddathlu, teithiwch ychydig allan o’r dref i The Hardwick neu The Walnut Tree am bryd o fwyd arbennig iawn.

Llun o salad a pizza
Llun o fyrddau a chadeiriau tu mewn i Fig Tree Espresso

Fig Tree Espresso

A rhywbeth i’w yfed

Rhowch gynnig ar wir flas lleol yn Sugar Loaf Vineyard, sydd ar lethrau isel mynydd Pen y Fâl, uwchben y dref. Galwch heibio i flasu rhai o winoedd arobryn Cymru, ewch ar daith o gwmpas y gwinllannoedd a mwynhewch y golygfeydd dros Ddyffryn Wysg. Ceir caffi a siop hefyd ar y safle, yn ogystal â bythynnod gwyliau hunanarlwyo os bydd awydd aros yn hirach arnoch.

Llun agos o winwydden mewn gwinllan
Llun yn edrych draw ar draws y winllan a chefn gwlad

Gwinllan Sugar Loaf

Ewch i siopa

Os oes un peth yn dda am drefi marchnad, pori siopau annibynnol a stondinau marchnad yw hwnnw. Cynhelir nifer o farchnadoedd wythnosol yn y Neuadd Farchnad Fictoraidd, gan werthu popeth o fwyd a diod a gynhyrchwyd yn lleol i hen greiriau a thrugareddau. Cewch hefyd ddewis gwych o siopau annibynnol fel Broadleaf Books, siop lyfrau ail law yn llond o gyfrolau diddorol, Mockingbird, sy’n llawn o roddion, cardiau a gemwaith unigryw a Cuddle and Cwtch, sy’n gwerthu dillad chwaethus i blant a babanod.

Silffoedd llyfrau mewn siop

Broadleaf Books, Y Fenni

Ewch i’r Lanfa

Gwnewch y mwyaf o’r cefn gwlad gan ymweld â Chanolfan Groeso Glanfa a Chamlas Goetre. Dyma fan cychwyn gwych i fynd am dro neu ar gefn beic ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu a thrwy’r caeau a’r coetiroedd o’i chwmpas. Neu gallwch logi canŵ neu fad camlas i deithio ar y dŵr. Mae yma gaffi clyd hefyd am damaid wedi’r crwydro.

Llun tu allan i gaffi gyda byrddau tu allan
Cychod ar y gamlas wedi'i hangori o dan goeden gyda phont yn y cefndir.

Chanolfan Groeso Glanfa a Chamlas Goetre

Archwilio hanes hynafol

Ychydig i ffwrdd o’r Fenni mewn car, mae adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni sy’n llawn awyrgylch. Fe’i hadeiladwyd yn y 13eg ganrif ar safle eglwys hŷn, ac mae’r olion yno heddiw yn dyst i ganrifoedd o wrthdaro a therfysg gwleidyddol, o wrthryfel Cymru yn y 15fed ganrif dan Owain Glyndŵr i Harri VIII yn diddymu’r mynachlogydd. Er gwaethaf yr holl ddrama, mae’r ffenestri a’r mynedfeydd bwaog sydd ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni o hyd yn dal i’n hatgoffa’n bwerus o'r Gymru ganoloesol.

Llun o adfeilion Priordy Llanddewi Nant Hodni

Priordy Llanddewi Nant Hodni

O dan y ddaear

Ychydig o daith o’r Fenni mae tref Blaenafon. Arferai fod tirwedd brysur o fwyngloddiau a ffowndrïau yno a gynhyrchai llwythi sylweddol o ddur a glo, ond erbyn hyn mae’n dyst i dreftadaeth ddiwydiannol Cymru. Er mwyn cael profiad go iawn o fywyd glöwr, ewch i Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, ein hamgueddfa lofaol genedlaethol sydd wedi ennill sawl gwobr. Teithiwch 300 troedfedd i lawr i’r pwll yng nghwmni cyn-löwyr i glywed hanesion y rheini a arferai weithio yn y twneli tywyll hyn o dan y ddaear. Chewch chi ddim llawer o brofiadau dyfnach na hyn mewn amgueddfa.

Llun o'r tu allan i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Chwarae rownd o golff

Peidiwch ag anghofio’ch clybiau. Mae’r cefn gwlad toreithiog o amgylch y Fenni yn gartref i nifer o gyrsiau golff gwych. Cwrs parcdir aeddfed 18 twll yw Clwb Golff Sir Fynwy, a’r Blorens, Pen y Fâl ac Ysgyryd Fawr yn y cefndir, ac yn Wernddu mae cwrs naw twll taro a phytio, maes ymarfer golff, a chwrs 18 twll. Mae yno hefyd gwrs arbennig Rolls of Monmouth, yn swatio mewn cymoedd heb fod yn bell o’r dref.

Ymweld â Chrucywel

Ychydig filltiroedd i lawr y ffordd, mae tref hardd Crucywel. Enillodd Wobr Stryd Fawr Prydain 2018, a’i stryd fawr fywiog yn llond o siopau annibynnol a bwtîcs. Ewch i Ystâd Glan-wysg (sef lleoliad gŵyl gerddoriaeth flynyddol Green Man) i fynd am dro ar hyd y Llwybr Caniataol, cael taith o’r Ystâd a’r Casgliad Derw hanesyddol, neu weld y Ffair Ystâd boblogaidd a Gardd Agored yr NGS a gynhelir bob mis Mai.

Cynulleidfa yn mwynhau prif lwyfan y Gŵyl.

Gŵyl Y Dyn Gwyrdd, Crug Hywel

Straeon cysylltiedig