Y Gelli Gandryll
Lleolir y Gelli reit ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a dim ond hanner tynnu coes roedd y dref pan ddatganodd ei bod am fynd yn annibynnol oddi wrth y ddwy wlad yn 1977. Dyw’r Gelli Gandryll ddim yn ‘frenhiniaeth annibynnol’ swyddogol, ond wrth i chi grwydro o gwmpas y siopau, mae yna deimlad gwahanol yma, heb os. Mae’r siopa fan hyn yn ymwneud ag unigolyddiaeth o safon uchel, rhydd-feddwl – sy’n ddelfrydol ar gyfer antur siopa Dolig! Bob mis Tachwedd fe gewch chi’r cyfle ychwanegol o fwynhau Penwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli hefyd, sy’n cynnwys gŵyl fwyd a ffair ‘vintage’ ochr yn ochr â’r digwyddiadau llenyddol arferol.
![menyw’n darllen llyfr gydag un arall yn y cefndir a choeden Nadolig](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-09/Winter%20Weekend%20-%20bookshop-small_0.jpg?h=e5aec6c8&itok=z9Ojsq8j)
![tu allan i siopau llyfrau gyda’r nos gyda goleuadau ac addurniadau Nadolig](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-09/Hay%20on%20Wye%20at%20night%20-%20credit%20Adam%20Tatton-Reid-small.jpg?h=e5aec6c8&itok=pLIPacgg)
![Llun gyda’r nos o ffenestr siop lyfrau, gyda llyfrau ar silffoedd yn siâp coeden Nadolig gyda goleuadau a thylwythen deg degan ar y brig.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2019-09/Hay%20on%20Wye%20at%20night%20-%20credit%20Adam%20Tatton-Reid%207-small.jpg?h=4e8d6f4c&itok=kwoOLt2U)
Caerdydd
Caerdydd yw un o brif ddinasoedd siopa Prydain. Mae pawb o bwys ym myd manwerthu wedi’u gwasgu i ganol cryno’r dref, sy’n lle i gerddwyr yn unig. Mae canolfan siopa ragorol Dewi Sant yn gyrchfan bwysig ar gyfer enwau a labeli adnabyddus, gan gynnwys siopau mawr fel John Lewis ac Apple yn gonglfeini. Yn nrysfa’r arceds Fictoraidd ac Edwardaidd, fe gewch gyfoeth annibynnol y ddinas, gyda dwsinau o bwtîcs lleol, caffis a delis. Daw’r Nadolig â marchnad stryd dymhorol fawr i ardal yr Aes, tu fas i’r farchnad draddodiadol dan do o Oes Fictoria, sy’n dal i fynd o nerth i nerth ar ôl canrif. Os yw ‘anarferol’ ar eich rhestr siopa, mae emporiwm hen bethau a hynodion Marchnad Jacob yn ddiguro.
![Llun a dynnwyd o falconi uwchlaw siopwyr ym marchnad dan-do Caerdydd.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__1_1x/public/media-library/2019-01/SVW-C85-1617-0238.jpg?h=130ef459&itok=fVRWNvOa)
![Pobl yn cerdded drwy arced siopa Oes Fictoria a addurnwyd â goleuadau Nadolig.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__1_1x/public/media-library/2019-08/SVW-C64-1617-0349-small.jpg?h=27135a46&itok=vW9XZvqR)
Abertawe
Abertawe yw prif ganolfan fanwerthu De Orllewin Cymru, gyda detholiad eang o enwau mawr a siopau annibynnol lleol. Gallwch ddod o hyd i’r rhan fwyaf o’r enwau mawr yng nghanolfan siopa’r Quadrant a Stryd Rhydychen a’r cyffiniau, tra bo’r farchnad draddodiadol enfawr yn ennill gwobr y gorau a’r mwyaf o farchnadoedd dan-do Cymru’n hawdd. Mae’r goreuon o blith siopau annibynnol yn y Parth Annibynnol, sy’n cynnwys yr arceds a’r strydoedd llai oddi ar y brif stryd. Yn ystod tymor yr Ŵyl, mae Marchnad Stryd Nadolig Abertawe’n sefydlu dwsinau o stondinau ar hyd Stryd Rhydychen, i gynnig crefftau, anrhegion a wnaed â llaw, bwyd moethus ac addurniadau Nadolig unigryw.
![Bauble 3 crop-small.jpgw](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-09/Bauble%203%20crop-small.jpg?h=22a7e701&itok=iIwmGLah)
![Pobl yn sefyll ger stondinau bwyd Nadolig](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2019-09/Yorkshire%20Wraps%204-small.jpg?h=bb5434d7&itok=gdyX30-h)
![Stondin farchnad yn gwerthu anrhegion Nadolig a wnaed â llaw.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2019-09/PhoenixGlass5-small.jpg?h=a7d2deb9&itok=L0Vo-okV)
Y Bontfaen
Bu’r Bontfaen wrth galon ffyniannus Bro Morgannwg erioed, ble bydd gwŷr busnes Caerdydd yn llywio’u Range Rovers ar ddiwedd pob diwrnod gwaith. Yn yr un modd, mae naws y bonedd ar sawl un o siopau, orielau a bariau’r Bontfaen, a welir yn bennaf ar hyd un stryd fawr sy’n ymestyn o un pen y dref i’r llall. Cryfder mawr y Bontfaen yw dillad i fenywod (mae rhyw 18 bwtic yma) ond mae hefyd yn wych ar gyfer anrhegion, gemwaith a chelf. Bydd y Nadolig yn dechrau yma ar ddydd Sul olaf Tachwedd gyda Gorymdaith y Ceirw, pan fydd Siôn Corn yn cael ei lusgo gan geirw go iawn ar hyd y stryd fawr, yng nghwmni torf o goblynnod tymhorol.
![Llun o Stryd Fawr y Bontfaen wedi’i dynnu o ochr arall yr heol gyda cheir wedi’u parcio yn y siot.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2019-01/SVW-C154-1819-0011.jpg?h=3bb75264&itok=1M7sR9sB)
![Golwg o du blaen dwy siop ar Stryd Fawr y Bontfaen.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2019-01/SVW-C154-1819-0010.jpg?h=9993f7ac&itok=nfcnFdt)
Llandeilo
Daeth tref dlos Llandeilo, ar fryncyn yn Sir Gaerfyrddin, yn boblogaidd fel diwrnod ble gall siopwyr annibynnol ymgolli, a threulio diwrnod hamddenol ymysg bwtics, siopau gemwaith, orielau a siopau hen bethau’r dref. Yn yr haf, rhaid blasu hufen iâ o Heavenly, ond am ei bod hi’n Ddolig, efallai y dewiswn siocled poeth i’n cynhesu o un o’r llu caffis a thafarndai yn lle.
Conwy
Dyma gwestiwn cwis Nadolig: sawl siop gadwyn sydd yng Nghonwy? Yr ateb: dim ond tair. Mae pob siop arall – nifer anhygoel o 92.5% – yn cael eu rhedeg yn falch gan fasnachwyr lleol. Dyna dipyn o gamp, sy’n gosod Conwy ymysg pum uchaf Prydain o ran siopau annibynnol. Dyna’r rheswm allweddol hefyd pam fod Conwy’n lle mor wych i wneud eich siopa Dolig.
Er enghraifft, yma y lleolir siop aml-wobrwyog Edwards y Cigydd, emporiwm deganau Yesteryears, Vinomondo ar gyfer gwin da… ac os ydych chi’n dymuno prynu arfwisg (pwy a ŵyr!) wel, The Knight Shop yw’r lle i fynd! Ac mae pob un o’r trysorau hyn wedi’u lapio’n dwt o fewn i furiau tref ganoloesol a gadwyd yn berffaith. I weld y cyfan mewn gwisg dymhorol hyfryd, ewch yno adeg Conwy Winterfest.
Mae nifer anhygoel o 92.5% o siopau Conwy yn cael eu rhedeg yn falch gan fasnachwyr lleol. Dyna dipyn o gamp, sy’n gosod Conwy ymysg pum uchaf Prydain o ran siopau annibynnol."
Arberth
Mae Arberth wedi disgrifio’i hun fel ‘Bond Street Cymru’. Rydyn ni’n gallu deall pam, Dyma dref farchnad fach hyfryd, ac maen nhw’n haeddiannol falch o gael detholiad gorau holl Sir Benfro o siopau annibynnol, Mae’n arbennig o gryf am fwyd, celf, esgidiau a dillad, ac fel arfer bydd yna farchnad Nadolig i roi hwb i dymor y dathlu.