Fel arfer mae modd sglefrio iâ yn y lleoliadau hyn - ar gyfer 2020, gwiriwch yn uniongyrchol gyda’r lleoliadau.
Dyma rai o'r lloriau sglefrio mwyaf poblogaidd yng Nghymru, felly ewch amdani!
Taith ar y llwybr iâ, Castell Caerdydd
12 Tachwedd – cychwyn mis Ionawr. Mwynhewch daith ar y llwybr iâ yng Nghastell Caerdydd, yn ogystal ag atyniadau teuluol Nadoligaidd, taith Siôn Corn Fictoraidd a bwyd a diod. Bydd mesurau pellhau cymdeithasol ar waith. Archebwch docynnau Llwybr Iâ ar wefan Castell Caerdydd.

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Abertawe
Yng nghanol dinas Abertawe fe ddewch chi o hyd i fyd yn llawn rhyfeddodau'r Nadolig. Mae yno ddau lawr sglefrio, y naill yn addas i bawb o ran eu hoed a'u gallu, a'r llall wedi'i neilltuo i sglefrwyr ifanc. Chewch chi ddim trafferth yn mynd i hwyl yr ŵyl yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, wrth fynd i weld Siôn Corn yn ei ogof, gwirioni ar y reids yn y ffair a chael blas ar rai o'r danteithion Nadoligaidd ar y stondinau.
Gwlad y Nadolig yn Celtic Manor Resort
Ewch ar antur Nadoligaidd ardderchog yng ngwesty Celtic Manor yng Nghasnewydd. Mae Gwlad y Nadolig yn ddelfrydol i deuluoedd, gyda llawr sglefrio bendigedig lle byddwch chi'n llithro yma ac acw i gyfeiliant caneuon Nadolig. Ymunwch yn hwyl yr ŵyl drwy fynd i weld Siôn Corn yn ei ogof, a helpu Siân Corn i addurno coed Nadolig sinsir!


Llawr Sglefrio Awyr Agored Bargoed
Bachwch eich cyfle'r Nadolig hwn i gael tro ar y Llawr Sglefrio Awyr Agored drws nesaf i Eglwys Santes Gwladys ym Margod. Mae lle Parcio a Theithio gyferbyn, a tho pabell dros y llawr sglefrio fel y gall pawb gael hwyl beth bynnag yw'r tywydd! Bydd bwrlwm yng nghanol y dref gyda rhai siopau'n agor yn hwyr, a digonedd o gaffis a thafarndai i gael llymaid bach a thamaid i'w fwyta.