Pryd o fwyd allan
Thomas by Tom Simmons, Caerdydd
Mae bwyty’r cogydd Tom Simmons yn dathlu Santes Dwynwen am y tro cyntaf eleni gyda phryd arbennig pedwar cwrs am £65 y pen. Mi fydd y fwydlen à la carte ar gael hefyd.
Ship, Aberporth
Mae bwydlen Santes Dwynwen y Ship yn Aberporth yn cynnwys ffefrynnau megis pasta cranc a chorgimwch, madarch garlleg ac eog wedi’i weini gyda chaws parmesan - ac os gofiwch chi nodi’r gair ‘cwtsh’ wrth archebu bwrdd cewch wydriad o prosecco a siocled am ddim!
Odette’s, Llundain
I’r rhai tu allan i Gymru, mae gwledd Gymreig ym mwyty Bryn Williams yn Llundain. Mae bwydlen Santes Dwynwen Odette’s yn cynnig boch cig eidion Cymreig wedi’i goginio mewn triog, pwdin parfait bara brith, a siocled Penderyn i orffen.
Angel, Arberth
Noson stêc a gwin sydd yn yr Angel yn Arberth i ddathlu Dwynwen. Mae’r fwydlen arbennig yn cynnwys dwy stecen a photel o win am £45 a phlatiad pwdin i ddau sy’n cynnwys brownie rum Barti a panna cotta Merlyn a siocled gwyn.
Pettigrew, Caerdydd
Mae caffi cain Pettigrew Tearooms yn cynnig te prynhawn arbennig i ddathlu Santes Dwynwen gan weini dewis o frechdanau a melysion o’u hadeilad hardd ym Mharc Bute, Caerdydd.
Pryd o fwyd adref
Mae bwytai a busnesau ledled Cymru yn cynnig prydau bwyd a danteithion arbennig y gellir eu mwynhau o adref. Dyma ychydig o enghreifftiau, gyda llawer o rai eraill ar gael sy’n cynnig profiadau unigryw i bobl ledled y wlad.
Dylan’s, Porthaethwy a Chonwy
Mae gan Dylan's siopau ym Mhorthaethwy a Chonwy yn gwerthu cynnyrch lleol ffres a phrydau a phitsas i bobi adref. Ar y fwydlen mae cawl cig oen, pei pysgod, pitsa madarch a chaws gafr a phwdin bara brith. Y ffordd hawdd i goginio pryd rhamantus adref.
Bocsys blasus
Mae nifer o fusnesau yn cynnig bocsys o ddanteithion wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Santes Dwynwen, y gellir eu postio i unrhyw le. Dyma rai enghreifftiau:
Mae Cecs Fi yng Nghorwen yn postio bocsys browines gydag amrywiaeth o flasau gan gynnwys siocled gwyn a mefus. Archebwch o flaen llaw gan fydd y bocsys yn cael eu postio ar 22 Ionawr.
Mae bisgedi siâp llwy caru Sweet Snowdonia o Gonwy yn anrheg perffaith i gyd-fynd â chwpan o goffi neu wydriad o bybli, ac yn gallu cael eu dosbarthu yn lleol yn ardal Conwy neu eu hanfon trwy’r post i unrhyw le.
Anrhegion unigryw
Sipio dan y sêr
Am brofiad rhamantus go wahanol ewch i hen safle Chwarel Penrhyn i hedfan ar gyflymder o 100mya o dan y sêr, cyn mwynhau pryd tri-chwrs a gwydriad o bybls ym mwyty Blondin Zip World.
Cyfrol gariadus
Mae Mari Lovgreen wedi golygu cyfrol llawn cerddi am gariad ar gyfer Cyhoeddiadau Barddas ac mae’n lansio mewn da bryd i chi alw heibio’ch siop lyfrau lleol i’w brynu fel anrheg Santes Dwynwen. Ymysg y cyfranwyr mae Marged Tudur, Elis Dafydd ac Anni Llŷn.
Blasu gwin
Bydd chwech o hoff win yr arbenigwyr gwin Vin Van ar gael i’w blasu mewn noson arbennig i ddathlu Santes Dwynwen yn eu siop ym Marchnad Casnewydd ar nos Sadwrn 28 Ionawr.