Pryd o fwyd allan

Thomas by Tom Simmons, Caerdydd

Bwyd Ffrengig sydd wedi ysbrydoli’r fwydlen ym mwyty'r cogydd adnabyddus Tom Simmons, ond cynhwysion lleol sydd wedi eu defnyddio i greu’r prydau. Mae bwydlen Santes Dwynwen arbennig y bwyty yn cynnig gwledd chwe chwrs am £75 gyda chynhwysion fel cig oen Sir Gaerfyrddin a hufen ia wisgi Penderyn yn serennu. 

Bonta Deli, Caernarfon

Mae bwydlen Santes Dwynwen Bonta Deli, Caernarfon, yn cynnwys gwydr o fybls wrth gyrraedd, antipasti i gychwyn, lasagne a bara garlleg (opsiwn llysieuol ar gael) a pannacotta lemwn neu tiramisu amaretto i orffen - i gyd am £65 y cwpl. Rhaid archebu bwrdd ar gyfer y digwyddiad.

Ty'n Llan, Llandwrog 

Mae Ty'n Llan, un o dafarndai cymunedol Cymru, yn cynnig pryd o fwyd i ddau a photel o win i rannu am £50 i ddathlu Santes Dwynwen.

Odette’s, Llundain

I’r rhai tu allan i Gymru, mae gwledd Gymreig ym mwyty Bryn Williams yn Llundain. Mae bwydlen Santes Dwynwen Odette’s yn cynnig pryd pedwar cwrs am £60 gyda ffefrynnau Cymreig fel crème caramel blas bara brith a chaws pôb Cymreig i gychwyn. 

Pryd o fwyd adref 

 

Mae bwytai a busnesau ledled Cymru yn cynnig prydau bwyd a danteithion arbennig y gellir eu mwynhau o adref. Dyma ychydig o enghreifftiau, gyda llawer o rai eraill ar gael sy’n cynnig profiadau unigryw i bobl ledled y wlad.

Dylan’s, Porthaethwy a Chonwy

 

Mae gan Dylan's siopau ym Mhorthaethwy a Chonwy yn gwerthu cynnyrch lleol ffres a phrydau a phitsas i bobi adref. Ar y fwydlen mae cawl cig oen, pei pysgod, pitsa madarch a chaws gafr a phwdin bara brith. Y ffordd hawdd i goginio pryd rhamantus adref. 

 

Bocsys blasus

 

Mae nifer o fusnesau yn cynnig bocsys o ddanteithion wedi eu creu yn arbennig ar gyfer Santes Dwynwen, y gellir eu postio i unrhyw le. Dyma rai enghreifftiau:

Mae Cacennau Cil y Coed yn postio bocsys gydag amrywiaeth o flasau gan gynnwys siocled, lemwn a mafon. Archebwch focs o bedwar, chwech neu 12 cacen o flaen llaw. 

Mae bisgedi siâp llwy caru Sweet Snowdonia o Gonwy yn anrheg perffaith i gyd-fynd â chwpan o goffi neu wydriad o bybli, ac yn gallu cael eu dosbarthu yn lleol yn ardal Conwy neu eu hanfon trwy’r post i unrhyw le.

Nosweithiau unigryw

Sipio dan y sêr

Am brofiad rhamantus go wahanol ewch i hen safle Chwarel Penrhyn i hedfan ar gyflymder o 100mya o dan y sêr, cyn mwynhau pryd tri-chwrs a gwydriad o bybls ym mwyty Blondin Zip World.

Blasu gwin

Bydd noson gariadus yn y siop win annibynnol arbennig Dylanwad, Dolgellau, ar nos Wener 26 Ionawr. Disgwyliwch gigoedd a chawsiau Cymreig a bob math o ddiodydd pinc! 

Cwrdd â chyfaill

Cofiwch s'ddim rhaid dathlu Santes Dwynwen gyda phartner. Mae'r siop ddillad ecogyfeillgar Lucy & Yak yn cynnal digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd i ddathlu Santes Dwynwen gyda'ch ffrindiau. Digwyddiad anffurfiol llawn hwyl a chyfle i gwrdd â ffrindiau newydd! 

Straeon cysylltiedig