Crwydro Cymru gyda'r Gay Outdoor Club

Mae'r Gay Outdoor Club yn sefydliad cyfeillgar gyda thri grŵp prysur yn cwmpasu Gogledd, De a Gorllewin Cymru. Mae croeso i bobl LHDTC+ a'u ffrindiau ymuno a mwynhau ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden awyr agored a dan do. Crwydrwch Gymru gan gynnwys y Bannau Brycheiniog, Eryri a mwy, lle mae croeso i chi ymuno ar deithiau cerdded a gweithgareddau.

Gallwch gysylltu â phob cydlynydd grŵp trwy anfon e-bost, northwales@goc.org.uk (Paul Gannon), southwales@goc.org.uk (Alan Dack) ac westwales@goc.org.uk (Allyson Evans).

Criw o bobl yn gwenu ar y camera.
Cerddwyr yn cerdded dros fryn gyda choed a chymylau yn y cefndir

Gay Outdoor Club, De Cymru

Rhedeg gyda'r Llwynogod

Mae Grŵp Rhedeg LHDTC+ Caerdydd, y Cardiff Foxes, yn cyfarfod bob dydd Sul yng Nghaerdydd am 10.15am i ddechrau am 10.30am. Mae croeso bob amser i redwyr gwadd. Ar ôl rhedeg mae'r criw fel arfer yn mwynhau coffi yn The Queer Emporium.

Gallwch gysylltu â'r grŵp drwy e-bost Cardifffoxes@gmail.com

Chwarae tennis gyda'r Base Liners

Os ydych yn mwynhau tennis, gallwch ymuno â'r Base Liners sy'n cyfarfod bob dydd Sadwrn rhwng 12-2pm ym Mharc y Mynydd Bychan. 

Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost cardiffbaseliners@gmail.com

 

Gwylio rygbi hoyw a chynhwysol

Cardiff Lions RFC oedd y clwb rygbi hoyw-gynhwysol cyntaf yng Nghymru a bellach mae Swansea Vikings RFC wedi ymuno â nhw. Mae'r ddau dîm yn annog pobl i ddod i'w gwylio'n chwarae.

Ymweld â bar hoyw hynaf Caerdydd

Mae The Golden Cross yn dafarn rhestredig Gradd II hanesyddol yng nghanol Caerdydd. Adeiladwyd yr adeilad eiconig hwn yn 1903 ac mae'n boblogaidd gyda’r ifanc a’r ifanc eu hysbryd. Mae ganddyn nhw ardd boblogaidd; mae'r Cardiff Base Liners yn galw'r lle hwn yn gartref a phan nad ydyn nhw'n chwarae tennis, maen nhw i'w clywed yn canu carioci! Fodd bynnag, os mai BINGO yw eich peth dylech fynd draw i Mary's ar gyfer eu sesiwn nos Sul, ond cofiwch gyrraedd yno'n gynnar os ydych am gael sedd.

Digwyddiadau ar gyfer merched deurywiol a lesbiaidd

Gofod ffres, newydd a bywiog ar gyfer merched deurywiol a lesbiaidd. Mae Escape Events yn trefnu digwyddiadau misol sy'n dod â merched o Dde Cymru a'r Gororau ynghyd ar gyfer amrywiaeth o brofiadau cyffrous. Mae digwyddiadau’r gorffennol wedi cynnwys Saethu Colomennod Clai yn Aberhonddu, canŵio i lawr yr Afon Gwy a bwyta allan yn y bwytai diweddaraf.

The Queer Emporium

Mae The Queer Emporium yn fenter gymdeithasol nid-er-elw sy'n gweithredu fel canolbwynt cymunedol ac yn gwerthu nwyddau gan fusnesau a gwneuthurwyr LHDTC+ lleol. Dyma'r gyntaf o'i fath yn y byd ac mae rhaglen o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Mae digwyddiadau rheolaidd yn cynnwys The Welsh Ballroom Community, Draglings (noson drag act newydd), comedi stand-yp a mwy! Un o'u prif ddigwyddiadau yw'r Queer Fringe Festival, a gynhelir ar draws Caerdydd ym mis Mehefin.

Gwobr Iris Gŵyl Ffilm LHDTC+

Gwnewch ffrindiau newydd yn y tywyllwch yn ystod Gŵyl ffilm ryngwladol LHDTC+ Caerdydd bob mis Hydref. Mae gwneuthurwyr ffilm o bob rhan o'r byd yn cyflwyno eu gwaith ac yn mwynhau cwrdd â'r gynulleidfa mewn digwyddiadau arbennig a phartïon gan gynnwys y gystadleuaeth carioci flynyddol. Mae'r ŵyl yn dyfarnu llawer o wobrau gan gynnwys gwobr ffilm fer fwyaf y byd o £30,000 - a allwch chi ddewis yr enillydd?

Mis Hanes LHDTC+ – Chwefror

Gallwch wylio ffilmiau llwyddiannus o'r ŵyl Gwobr Iris ym Mhontio ym Mangor, Taliesyn yn Abertawe a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae'r gorau o ŵyl Iris yn un rhan yn unig o ddathliad mis o hyd o ddigwyddiadau a gynhelir ledled Cymru mewn canolfannau celfyddydau, amgueddfeydd a phrifysgolion i nodi Mis Hanes LHDTC+.

Straeon cysylltiedig