Dwi wir wedi cwympo mewn cariad gyda Merthyr dros y blynyddoedd. Roedd symud o dref fach Llandeilo yn sir Gaerfyrddin i Ferthyr Tudful yn agoriad llygad mawr i fi, ond buan y gwnes i ddod o hyd i’r ‘harddwch cudd’ sydd i’w ganfod yma. Gadewch i mi fynd â chi ar siwrne trwy rai o fy hoff lefydd yn y dref hanesyddol rydw i erbyn hyn yn alw yn adre.

Pethau i’w gwneud ym Merthyr Tudful

 

Gweithgareddau awyr agored

 

Os ydych chi’n hoff o’r awyr agored, mae gan Ferthyr ddigon i gael eich calon i guro’n gynt. Am weithgareddau llawn adrenalin, ewch i BikePark Wales i roi cynnig ar un o’i deugain llwybr beicio mynydd. Os oes gennych ben am uchder, mae Canolfan Rock UK Summit yn cynnig un o’r waliau dringo mwyaf yng Nghymru. Enillydd gwobr Gweithgaredd Gorau Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025, mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys system ogofa artiffisial o’r radd flaenaf. I wneud ychydig o sblash, mae canolfan antur Parkwood Outdoors Dolygaer yn cynnig caiacio, padlfyrddio sefyll i fyny ac anturiaethau ceunentydd ar gyfer pob oed.

Os yw’n well gennych deithio ar gyflymder mwy hamddenol, mae Rheilffordd Fynydd Brycheiniog yn gyfle perffaith i fwynhau’r golygfeydd. Ymlaciwch yn gyfforddus yn y cerbyd arsylwi a gadewch i bŵer stêm wneud y gwaith i gyd wrth i chi siglo i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan ddilyn llwybr gwreiddiol hen Reilffordd Brycheiniog a Merthyr.

Ni ddylai selogion golff golli Cwrs Golff Castell Morlais, sydd wedi’i leoli uwchlaw’r dref ac sy’n cynnwys adfeilion castell o’r 13eg ganrif yn rhedeg ochr yn ochr â’r trydydd rhodfa.

Mae Clwb Golff Merthyr Tudful yn gwrs mynyddig trawiadol sy’n cynnig golygfeydd godidog o bob twll. Mae’n berffaith ar gyfer golffwyr o bob lefel, gyda phanoramâu hardd i’w mwynhau o bob cyfeiriad.

Taith Trevithick / Llwybr Taf

Llwybr Taf yw un o'r llwybrau troed mwyaf cyfleus a hardd yn ardal Merthyr. Os ydych chi, fel fi, yn byw ar gyrion canol tref Merthyr, yna mae cerdded i ganol y dref o stepen drws fy nghartref yn Aberfan yn ffordd wych a chyfleus o leihau effaith eich ôl-troed carbon. Mae’r golygfeydd prydferth sy'n arwain o Aberfan hyd at Troedyrhiw ac i mewn i Ferthyr, yn debyg i lun cerdyn post, a gallwch weld y Bannau Brycheiniog a Phen-y-Fan yn ystod y daith.

Yr Hydref yw fy hoff amser o'r flwyddyn i gerdded ar hyd Llwybr Taf o Aberfan i Merthyr. Rwyf wrth fy modd yn gweld y dail yn cwympo ar y llwybr ac yn crensian oddi tanaf wrth i mi gymryd pob cam. Rwyf hefyd yn hoffi cerdded i'r dref i gael pryd o fwyd, ac yna dal trên yn ôl ar ddiwedd y dydd. Rwy’n edrych ymlaen at gael gwneud hyn eto post-lockdown.

Caeau gwyrdd gyda mynyddoedd mewn cymylau gwyn
Llwybr hir gyda glaswellt a choed o'i gwmpas

Crwydro ardal Merthyr Tudful 

Amgueddfeydd, diwylliant a’r celfyddydau ym Merthyr Tudful

 

Theatr a Caffi Soar

Canolfan a Theatr Gymraeg Soar yw’r hwb ar gyfer unrhyw beth sy’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg ym Merthyr Tudful, boed hynny yn wersi Cymraeg neu’n waith creadigol, cwmni neu baned yn y caffi. Mae hefyd yn lle gwych i brynu cynnyrch lleol yn anrheg – mae digon yma i gynnal diddordeb unrhyw un.

Hen gapel Soar sydd wedi ei adnewyddu yw’r theatr ei hun, gan gymryd mantais o’r hen organ bib oedd yn y capel, sy’n cael ei defnyddio fel cefndir syfrdanol ar gyfer nifer o wahanol sioeau Cymraeg a Saesneg sy’n cael eu llwyfannu yma. Gan gynnig amrywiaeth o ddramâu, gigiau byw, nosweithiau barddoniaeth a llawer iawn mwy, dyma yn sicr yw un o fy hoff lefydd i fynd yn y dref.

Adeilad oren ac adeilad gwyn

Canolfan Soar, Merthyr Tudful

Castell Cyfarthfa

Alla i dreulio drwy’r dydd o fewn waliau Castell Cyfarthfa. Mae’r amgueddfa tu fewn bellach dros 100 mlwydd oed ac yn gartref i gelf ac arteffactau hanesyddol sy’n gysylltiedig â Merthyr Tudful.

Ar ôl treulio amser yn yr amgueddfa, gallwch fynd am dro ar hyd un o’r nifer o wahanol lwybrau cerdded sydd wedi gwasgaru ar draws yr ardal, ac os oes plant ‘da chi (neu ddim!) beth am ymweld â ‘The Active Zone’, parc chwarae anhygoel gyda ‘splash-pad’. Hwyl i bob oed!

Gorffennwch eich diwrnod drwy gael blas ar ychydig o fwyd lleol sydd wedi ei baratoi’n ffres yn yr ystafelloedd te. Wir, mae digon o bethau i gadw pawb yn brysur yma.

Golygfa flaen o gastell wedi'i amgylchynu gyda glaswellt

Castell Cyfarthfa

Canolfan Siopa'r Santes Tudful

Rheswm arall i garu Merthyr yw gan fod rhywbeth ar gael yma i bawb! Os yn siopa am anrhegion ar gyfer ffrind neu aelod o’r teulu, neu os yn mynd i wneud eich siopa wythnosol, mae Canolfan Siopa'r Santes Tudful yn un o farchnadoedd unigryw y Cymoedd.

Un o’r trysorau yn y ganolfan yw Bakestone’s, lle alle chi gael Pice ar y maen wedi’u coginio yn ffres gan y perchennog Chris Jones, sydd hyd yn oed wedi dysgu Jamie Oliver sut i goginio ei rysáit arbennig!

Bwyta allan ym Merthyr

I danio’ch anturiaethau, mae dewis da o fwytai, caffis a thafarndai traddodiadol ym Merthyr Tudful ei hun ac yn yr ardaloedd o’i gwmpas. Ar gyfer coffi bore a chacen prynhawn, byddwch wedi’ch difetha gan y dewis. Ewch i The New Market Cafe yn y farchnad dan do am frecwast clasurol syml, neu i Cefn Tea Rooms ar Stryd Fawr Cefn Coed, sy’n gweini tafelli hael o gacen ffres a the mewn tebotiau go iawn.

Tra’n trafod bwyd, mae’n werth nodi ein bod wedi’n difetha o ran y dewis o lefydd bwyta ym Merthyr, gyda rhywbeth ar gael at ddant pawb. Mae amrywiaeth o gaffis pysgod a sglodion, yn cynnwys fy ffefryn sydd gyda’r sglods mwyaf fluffy a crispy i fwynhau ar ddiwedd wythnos brysur, Fountain Fish Bar a Busy Bee Fish Bar.

Mae Café Portugalles yn aros ar agor tan yn hwyr, gan gynnig bwydlen wedi’i hysbrydoli gan Bortiwgal, yn aml gyda cherddoriaeth fyw. Am fwyd Eidalaidd yng nghanol y dref, mae Casa Bianca yn gweini pasta a phitsa clasurol mewn awyrgylch hamddenol.

Y tu allan i’r dref, mae The Red Cow yn berffaith ar gyfer cinio neu swper cynhesol ar ôl cerdded yn y bryniau. Am dafarnau traddodiadol, dewiswch rhwng The Rose & Crown, The Tiger Inn, The Iron Dragon, The Grawen Arms a llawer mwy. Am noson wych o adloniant, edrychwch ddim pellach na The New Crown Inn – lleoliad adloniant a bwyty arobryn sy’n gwarantu noson gofiadwy.

Adeilad gyda ffenestri gwyn a fasgedi blodau yn hongian

The New Crown Inn

Felly dyna ni! Dyma fy nhaith fach o amgylch Merthyr, a dim ond blas o'r hyn sydd gan Ferthyr i'w gynnig yw hyn. Boed yn ddiwrnod allan i'r teulu neu'n benwythnos ar ben mynyddoedd gwyntog creigiog Merthyr, neu brynhawn o gacennau Cymreig a phaned yn y farchnad fach glyd - croeso i Ferthyr Tudful!

Dilynwch Eädyth ar Instagram i ddarganfod mwy am ei phrosiectau cerddorol diweddaraf. 

Ble i aros 

 

Mae The Roost Merthyr Tydfil Ltd yn safle cabanau bach, ecogyfeillgar sy’n ganolfan ddelfrydol i gerddwyr a beicwyr. Mae Grawen Caravan & Camping Park yn cynnig caeau gwersylla croesawgar ar gyfer pebyll a faniau, tra bod Coed Owen Bunkhouse yn ddewis cymdeithasol, cost isel i’r rhai sy’n mentro i’r bryniau ar gyllideb. Am lety hunanarlwyo ym Merthyr Tudful, mae Old Canal Side Cottage yn Abercanaid yn opsiwn deniadol, gyda’i furlun nodedig. I aros yn agos at ganol tref Merthyr, dewiswch y bwthyn teras clyd Bwthyn Pen-y-Fan.

Fel arall, ewch ymhellach i’r gogledd i Llwyn Onn Guest House, gyda’i erddi’n edrych dros y gronfa ddŵr o’r un enw. Mae’r B&B hwn yn agos at sawl llwybr cerdded, gan gynnwys Llwybr Taf, felly’r cyfan sydd angen ei wneud yw sbarduno eich esgidiau cerdded a chamau allan i’r awyr agored.

Golygfa allanol o furlun ar gefn y bwthyn yn darlunio glöwr, cenhinen Bedr a bryniau gwyrdd tonnog.
Golygfa allanol haf o gabannau pren wedi’u hamgylchynu gan flodau dolydd yr haf.

The Old Canal Side Cottage a The Roost, Merthyr Tudful, De Cymru

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig