Ynys Gybi, Sir Fôn

Mae miloedd o adar môr yn hofran uwchben y clogwyni yn Ynys Lawd, a’r môr yn corddi oddi tanynt – pwy fyddai wedi dyfalu eich bod ond dwy filltir o Gaergybi? Mae Gwarchodfa RSPB Ynys Lawd ar y llwybr poblogaidd hwn yn eich arwain at y trigolion lleol – gweilch y penwaig, gwylogod, hebog tramor efallai – ac fe gewch ’baned cyn dychwelyd.

Goleudy ar glogwyn gyda glaswellt

Goleudy Ynys Lawd, Ynys Gybi, Ynys Môn

Ynys Llanddwyn, Sir Fôn

Deuai pererinion i’r gornel dde-ddwyreiniol hon o Ynys Môn i weld ffynnon sanctaidd Santes Dwynwen, nawddsant cariadon, a'i heglwys sy’n dyddio o’r 16eg ganrif sy'n adfail ar yr ynys. Ai hon yw daith gerdded fwyaf rhamantus Cymru?

Ynys Llanddwyn a Niwbwrch

Ynys Llanddwyn 

Morfa Nefyn i Borth Dinllaen

Llwyddodd un bleidlais seneddol i atal Porth Dinllaen, pictiwr o bentref, rhag dod yn derfynfa fferi. Bellach yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae ei benrhyn yn cynnig un o’r llwybrau cerdded hyfrytaf ym Mhen Llŷn golygfeydd o’r môr a’r mynyddoedd, bywyd gwyllt, traeth a phyllau glan môr i’r plantos a pheint i chi yn Nhafarn Tŷ Coch. Gallwch barcio ym Morfa Nefyn.

Cwpwl yn eistedd ar wal yn mwynhau diod y tu allan i Dafarn Ty Coch
Cwpwl yn cerdded ar draeth Porthdinllaen
cefnau dau berson yn eistedd ar y wal, gyda golygfa o'r môr.

Porth Dinllaen

Tresaith i Langrannog, Ceredigion

Y car olaf fyddwch chi’n ei weld yw’r un fyddwch chi’n ei adael ym mhentref prydferth Tresaith ar y llwybr clogwyn hwn. Ar y naill ochr mae Bae Ceredigion ac o'ch blaen cwyd mynyddoedd Eryri. Wedi'i leoli'n gyfleus hanner ffordd rhyngddynt mae traeth Penbryn sydd wedi'i restru ar gyfer padlo gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Bws y Cardi Bach yn rhedeg oddi yno; gwiriwch yr amserlen yn gyntaf.

Awyrlun o draeth Llangrannog, y môr a'r adeiladau cyfagos.

Llangrannog, Ceredigion

Taith Tyddewi, Sir Benfro

Os mai dim ond un daith gerdded fer yn Sir Benfro y byddwch chi’n ei dilyn, dyma’r union un i chi. Er ei bod yn boblogaidd, mae’r gylchdaith hon yn teimlo mor wyllt ag unman yng Nghymru, ac mae’n dilyn traethlin sy’n gyforiog o fywyd gwyllt. Bu’r trigolion lleol yn ymwybodol bod y lle hwn yn fan arbennig, a hynny ers o leiaf 6,000 o flynyddoedd, os yw siambr gladdu Coetan Arthur yn unrhyw arwydd.

Arwydd ffordd dwyieithog Tyddewi a St Davids gydag eglwys yn y pellter

Tyddewi, Sir Benfro

Y Parc Ceirw i Farloes, Sir Benfro

Taith gerdded penrhyn o amgylch pen pellaf Penrhyn Marloes. Fe welwch y mwyafrif o ynysoedd Sir Benfro o’r fan yma. Mae traeth godidog Marloes yn werth y daith gerdded hanner milltir ychwanegol ac os gallwch aros tan y cyfnos, ddewch chi fyth o hyd i well machlud haul yng Nghymru.

Y traeth a chreigiau ar y tywod
Llun o'r traeth wrth iddi fachlud a'r môr yn y pellter

Traeth Marloes, Sir Benfro

 

Llansteffan, Sir Gaerfyrddin

Nid yw’r lle mor adnabyddus â Thalacharn sydd ar draws y bae, ond dyma daith gerdded glan môr ac iddi ei cherddi ei hun wrth i adfeilion Castell Llansteffan ddod i’r golwg. Y tu hwnt i’r fan hon yn Wharley Point ceir morlun i Ddyfnaint ynghyd â Ffynnon Sant Antwn. Mae'n iachau salwch cariad, medden nhw. Neu fel arall, rhowch gynnig ar beint yn Nhafarn y Castell.

Llun oddi fry o gastell Llansteffan yn edrych dros y môr

Castell Llansteffan, Sir Gaerfyrddin

Penmaen i Fae’r Tri Chlogwyn, Gŵyr

Dywed nifer bod y daith gerdded hawdd hon yn cynnig un o'r golygfeydd gorau ym Mhrydain. Byddwch yn gwibio i lawr y twyni tywod ym Mhenmaen, yn crwydro castell (wedi’i ddifetha gan dylwyth teg, yn ôl y chwedl) ac yna’n cerdded ar draws traeth godidog tuag at esgair greigiog, tebyg i gefn draig. 

Llanw allan ym Mae'r Tri Chlogwyn gyda thraeth tywodlyd.

Bae'r Tri Chlogwyn, Penrhyn Gŵyr

Bae Caerdydd

Mae llwybr yr arfordir yn dathlu dinasoedd lawn cymaint ag arfordiroedd gwyllt ac mae hanes, natur ac antur yn perthyn i’r gylchdaith o amgylch Bae Caerdydd. Mae celf yn yr Eglwys Norwyaidd, pensaernïaeth yn Y Senedd, adar dŵr yng ngwarchodfa Gwlypdiroedd y Bae, a phrofiadau anturus yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Caerdydd.

Pobl yn cerdded ar bwys y dŵr gyda gwesty St David's Spa yn y cefndir
Historic red brick building with clock tower and copper coloured roof building.

Bae Caerdydd

Llwybr Natur y Gogarth, Llandudno

Mae’r daith hon yn dolennu o amgylch cnwpyn 200m y Gogarth o bier Fictoraidd Llandudno. Mae’r golygfeydd o’r môr yn fendigedig, wrth gwrs. Y pethau annisgwyl yw’r bywyd gwyllt: gloÿnnod byw glas serennog prin a geifr Kashmir sy’n ddisgynyddion praidd a roddwyd i Siôr IV.

Llun o glogwyni ar y dde, a'r môr ar y chwith

Y Gogarth, Llandudno

Straeon cysylltiedig