Cipolwg ar gymal Cymru o’r Tour de France 2027

Ddydd Sul 4 Gorffennaf 2027, bydd Cymal 3 o’r Tour de France 2027 yn cychwyn o’r Trallwng, gan basio drwy Landrindod, Llanfair‑ym‑Muallt ac Aberhonddu. Bydd y peloton yn dringo drwy Fannau Brycheiniog ac yn gorfod concro’r Côte du Rhigos a’r Côte de Caerffili cyn cwblhau’r cymal ar wib drwy gymoedd y de am Gaerdydd. 

Dyma fydd cymal olaf y Grand Départ, a chlo addas i ddathliad o seiclo yma ym Mhrydain. Dyma hefyd fydd un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf erioed i’w cynnal yng Nghymru sy’n rhad ac am ddim i’r gwylwyr.

Map graffigol gydag ymyl melyn yn dangos Cymal 3 Tour de France 2027 drwy Gymru, gyda’r llwybr i’w weld mewn melyn ar fap o’r Trallwng i Gaerdydd.

Llwybr Cymal 3 Tour de France 2027 drwy Gymru, o’r Trallwng i Gaerdydd.

Efallai eich bod chi’n bwriadu dod i Gymru i weld y peloton yn gwibio heibio, i roi cynnig ar ddringfa enwog, neu i feicio’n hamddenol ar lôn ddidraffig yng nghwmni’r teulu. Dyma i chi ambell syniad i gynllunio’ch taith chi, a’r cyfan yn canolbwyntio ar fyd y beics.

Beicio ar y ffordd: dringfeydd o fri, lonydd tawel, a golygfeydd godidog

Mae digonedd o lefydd ysbrydoledig yng Nghymru i feicwyr ffordd. Ar hyd llwybr y cymal yng Nghymru, o gorneli tynn Rhigos i’r dringfeydd bach serth o amgylch Caerffili, mae’r de’n addo golygfeydd mynyddig law yn llaw â phentrefi a chymunedau cyfeillgar sy’n llefydd hyfryd am hoe.

Ffordd fynyddig droellog drwy fryniau gwyrdd a choed trwchus, gyda grŵp bychan o feicwyr yn teithio ar ei hyd, a chymoedd eang a chopaon yn y pellter
Grŵp o bedwar beiciwr yn gwisgo crysau coch yn oedi gyda’u beics i fwynhau’r olygfa o fryniau braf a chefn gwlad.

Beicio ffordd, Mynydd y Rhigos, Rhondda Cynon Taf, De Cymru

Am anturiaethau pell, ar y ffordd ac oddi arni, mae ein canllaw i 12 o deithiau beicio ffordd yng Nghymru yn gyflwyniad i rai o lwybrau enwocaf y wlad. Dyna i chi Lôn Las Cymru, Ffordd Brailsford, a’r dringfeydd dros Fwlch yr Efengyl a’r Tymbl, er enghraifft. Mae yma fapiau, gwybodaeth am bethau i’w gweld, a chanllaw i’r caffis gorau.

Os byddwch chi’n aros yn y brifddinas, fe fyddwch chi dafliad carreg o rai o’n llwybrau beicio didraffig gwych, fel Taith Taf, sy’n arwain o Fae Caerdydd drwy Barc Bute ymlaen i Landaf a Chastell Coch. Dyma daith ddigon hamddenol, a’r rhan fwyaf ohoni heb draffig o gwbl. Mae yma sawl lle braf i stopio, gyda chyfle i fynd yn eich blaenau yr holl ffordd i Aberhonddu.

I gael mwy o her, dilynwch gylchdaith Caerdydd a Chaerffili, sydd â digonedd o ddringfeydd bach serth a chyfle i edmygu Castell Caerffili wedyn.

Tri o fobl yn beicio ar hyd Taith Taf o dan y coed
Siot o’r awyr o gastell sy’n ymdebygu i gastell tylwyth teg, gyda thyredi pigfain a phont godi, yn sefyll yng nghanol coedwig.

Taff Trail and Castell Coch, Caerdydd, South Wales

Dewch am wyliau bach: Pethau i’w gwneud ar lwybr cymal Cymru o’r Tour de France 2027

Y Trallwng a’r canolbarth

Y canolbarth yw ysgyfaint werdd Cymru, ac mae yno erwau di-ben-draw o dir naturiol sy’n berffaith i anturio a chrwydro yn yr awyr agored. Ewch am dro i Gastell Powis a’r Ardd yn y Trallwng, crwydrwch strydoedd braf Llandrindod, neu trowch eich golygon am gronfeydd dŵr Cwm Elan lle mae digonedd o gyfle i gerdded, gweld bywyd gwyllt a beicio ar lwybrau braf sy’n dilyn hen reilffyrdd. I’r rheini sy’n hoff o feicio ar raean, Mynyddoedd y Cambria amdani.

Mae taith fach ar Reilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion, un o reilffyrdd cul gorau Prydain, yn ffordd hyfryd o dreulio amser yng nghwmni’r teulu.

teulu yn beicio a chronfa ddŵr yn y cefndir.
Trên stêm yng nghefn gwlad.

Elan Valley and Welshpool & Llanfair Light Railway, Mid Wales

Bannau Brycheiniog

Mae llond trol o bethau i’w gwneud ym Mannau Brycheiniog. Fe gewch chi ddringo i’r copaon i gael golygfeydd godidog, rhwyfo ar gronfeydd dŵr, neu fwynhau picnic wrth i raeadrau arllwys gerllaw. Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw cartref Pen y Fan, mynydd uchaf de Prydain; mae’r parc yn orlawn o archaeoleg gynhanesyddol, gan gynnwys carneddi a meini hir; a dyma hefyd un o ardaloedd pwysicaf Cymru am awyr dywyll a bioamrywiaeth.

Dau gerddwr ar lwybr sy’n arwain at fynyddoedd dramatig.
Tirwedd fynyddig eang gydag awyr las glir, yn dangos llwybr yn arwain ar ochr cefnen at gopa fflat, gyda cherddwyr yma ac acw ar y llwybr a bryniau gwyrdd yn ymestyn i’r pellter.

Pen-y-Fan and Forest Fawr Geo Park, Bannau Brycheiniog, Mid Wales.

Cymoedd y De

A’r rheini’n gyforiog o dreftadaeth ddiwydiannol, mae llond gwlad o bethau i’w gweld a’u gwneud yng nghymoedd y de. Yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â gwylio’r beicwyr ar y dringfeydd, beth am brofi Taith Pyllau Glo Cymru, cael antur yn Zip World Tower, neu fynd ar daith o amgylch y ddistyllfa yn Penderyn yn Aberdâr?

Mae gan Ferthyr Tudful hefyd anturiaethau campus i’w cynnig. Os gallwch chi oddef uchder, yn Rock UK Summit Centre y mae un o waliau dringo mwyaf Cymru, yn ogystal â chyfres o ogofeydd sydd wedi’u creu gan ddyn.

Pedwar person yn teithio lawr wifren sip uwchben llyn.
Climbing harnessed female high on indoor red climbing wall in blue sports trousers and hoodie.

Zip World Tower and Rock UK Summit Centre, South Wales

 

Caerffili

Dringwch i gopa Mynydd Caerffili i gael golygfeydd rhyfeddol, cyn rhyfeddu at faint Castell Caerffili – castell mwyaf Cymru, a’r ail fwyaf ym Mhrydain. Cofiwch flasu caws enwog y dref a’r bwyd stryd amrywiol, ynghyd ag edmygu’r nwyddau crefft wrth bori yn siopau marchnad Ffos Caerffili yng nghanol y dref.

golygfeydd o gopa mynydd, yn edrych dros dref, gyda bryniau gwyrdd o’i hamgylch.
castell gyda thŵr cam ar ddiwrnod braf.
canolfan siopa wedi’i chreu o gynwysyddion llongau, gyda phlanhigion.

Caerphilly Mountain, Castell Caerffili, and Ffos Caerffili, Caerffili, South Wales

Caerdydd

Yn y brifddinas, i gyd-fynd â bwrlwm y ras, fe gewch chi ddiwylliant di-ben-draw: mae Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, a glannau’r dŵr ym Mae Caerdydd i gyd nepell o’r llinell derfyn. Mae’r rhan o Daith Taf yng nghanol y ddinas yn ffordd wych o ddilyn eich trwyn i weld y golygfeydd, neu beth am daith dywys drwy’r ddinas i ddysgu am ei hanes rhyfeddol neu i flasu ychydig o’r danteithion lleol?

golygfa, o orthwr, o’r tu mewn i gastell ac adeiladau modern, gyda menyw yn edrych ar yr olygfa.
People on a boat in a bay, looking at a marina, a Ferris wheel and architecturally striking buildings.

Cardiff Castle and Bae Caerdydd, South Wales

Ar gefn eich beic: Gweithgareddau beicio ledled Cymru

Os nad yw beicio ar y ffordd fel y meistri at eich dant, mae gan Gymru bob math o gyfleoedd beicio eraill a ddylai fod yn addas i chi.

Beicio mynydd: Cyffro ym mhob cwr o’r wlad

Mae Cymru’n lle penigamp i feicio mynydd, ac mae yma ganolfannau pwrpasol i bawb o bob gallu. Yn agos at lwybr 2027, mae BikePark Wales i’w ganfod yng Nghoedwig Gethin ger Merthyr. Dyma ganolfan sy’n dibynnu ar ddisgyrchiant gyda chyfuniad o lwybrau gwyrdd a glas sy’n addas i’r teulu, ynghyd â llwybrau coch a du i hen lawiau. Mae gwasanaeth cludo, cyfle i logi beics, a hyfforddiant hefyd ar gael. Lle gwych i dreulio diwrnod cyn neu ar ôl y cymal ei hun.

Dau o bobl ar feiciau mynydd ar lwybr mewn parc beicio.
dau berson ar feiciau mynydd yn y coedwig mewn parc beiciau gyda’r haul yn disgleirio drwy’r coed.

BikePark Wales, South Wales

Yn anelu am y gogledd ar daith hirach? Mae Coed y Brenin ger Dolgellau, y ganolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf i’w chreu ym Mhrydain, yn dal ar flaen y gad gyda’i thrac sengl wedi’i arwyddo. Mae yma bopeth o gylchdeithiau hawdd i deuluoedd i lwybrau du dieflig, ynghyd ag ardal sgiliau i fagu hyder. 

Yn goron ar y cyfan, does dim angen i chi ddod â’ch beic eich hun – mae croeso i chi logi un o Beics Brenin ar y safle.

Beicio ar raean: llwybrau hynafol, ffyrdd coediog ac awyr eang

Mae beicio ar raean yn gamp sy’n ffynnu yng Nghymru am reswm go dda: o’u cyfuno, mae ffyrdd Rhufeinig, lonydd tân drwy goedwigoedd, a hen lwybrau’r porthmyn yn creu teithiau godidog. Darllenwch ein canllaw arbennig i anturiaethau ar feics graean yng Nghymru, lle cewch chi syniadau am lwybrau o Gwm Elan a Mynyddoedd Cambria i berlau arfordirol ym Mhenrhyn Gŵyr, ynghyd â llwybrau llyfnach o amgylch Llyn Brenig.

Beiciwr yn teithio ar lwybr graean ar lan cronfa ddŵr fynyddig.
Beiciwr graean yn reidio ar drac graean mewn bryniau anghysbell.

Gravel trails in Rhayader, Elan Valley, and near Nant-y-Moch reservoir, Ceredigion, Mid Wales

Beicio didraffig i’r teulu

Fyddwch chi’n dod â’r beics a’r plant gyda chi? Mae gan Gymru gannoedd o filltiroedd o lwybrau didraffig a thraffig ysgafn, a’r rheini’n cysylltu parciau gwledig, aberoedd, a threfi glan môr – gyda digonedd o lefydd hyfryd i gael hoe ar y ffordd. Cymerwch gip ar ein canllaw i lwybrau beicio teuluol a dewiswch un gerllaw lle byddwch chi’n aros. Ymhlith rhai o’r uchafbwyntiau mae:

  • Taith Taf (Caerdydd-Aberhonddu) – beth am reidio darn bach o’r llwybr hwn o Fae Caerdydd drwy Barc Bute a heibio i Gastell Caerdydd, cyn mynd ymlaen am Landaf a Chastell Coch? Dyma ffordd wych o weld y brifddinas wrth fwynhau cyflwyniadau’r timau, y ffanbarthau a’r hwyl a sbri ar y llinell derfyn.
  • Llwybr Mawddach (Dolgellau–Y Bermo) – llwybr fflat, llawn golygfeydd braf, a bron yn gyfan gwbl ddidraffig ar lannau hyfryd yr aber. Dyma rywbeth gwych i’w wneud os byddwch chi’n teithio yn y canolbarth a’r gogledd fel rhan o wyliau beicio hirach.
Tri beiciwr ar lwybr beicio yn dynesu at bont reilffordd bren dros aber llydan.

Mawddach Trail approaching Barmouth Bridge, North Wales

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig