Mae Castell Gwrych yn dŷ gwledig rhestredig Gradd I o’r 19eg ganrif ac mae wedi’i leoli ger Abergele, Conwy. Mae’r castell a’r ystâd 250 erw yn eiddo preifat ac wedi bod yn gartref i genedlaethau o fonedd Cymreig.

Er bod y castell ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, mae tocynnau ar gael i’w prynu ar gyfer gwanwyn 2022. Mae hefyd docynnau blynyddol, talebau rhodd, rhoddion Castell Gwrych a nwyddau â brand swyddogol I’m A Celebrity, ar gael i’w prynu o wefan Castell Gwrych.

Os cewch eich ysbrydoli gan sêr I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!, a fydd yn ymgartrefu yng Nghastell Gwrych, beth am gynllunio eich treialon llawn adrenalin eich hun yng Nghymru a gweld a allwch chi goroni eich hun yn Frenhines neu Frenin y castell?

Y treial ‘cysgu oddi ar glogwyn’

Felly, doedd abseilio i lawr clogwyn yn bendant ddim at ddant Jordan North, cyflwynydd BBC Radio One, yng nghyfres 2020 o I’m A Celebrity… Dewch i ni atgoffa ein hun o beth ddigwyddodd ar ben y clogwyn.

Os yw uchder yn gwneud i chi deimlo fel Jordan, yna bydd hyn yn dipyn o her i chi hefyd! Byddwch yn cyrraedd y safle paratoi, yn gwisgo eich offer diogelwch, ac yna’n abseilio i lawr clogwyn i’ch ‘platfform clyd’. Gallwch fwynhau paned o siocled poeth neu bori drwy lyfr da – wrth hongian yn uchel uwchben y tonnau gwyllt islaw.

Os mentrwch chi i arfordir Ynys Môn gallwch fwynhau noson ‘glyd’ o gwsg mewn gwely sydd ynghlwm wrth ochr wyneb clogwyn gyda Gaia Adventures. Mae’r cyfle unigryw hwn ar gyfer grwpiau bychain yn unig, gan mai dim ond dau neu dri pherson a all ffitio ar y ‘portaledges’. Dyw’r gweithgaredd hwn ddim ar gyfer y gwangalon, ond does dim dwywaith y byddwch yn siarad amdano am flynyddoedd i ddod.

Wyneb clogwyn uwchben y môr gyda dau berson yn eistedd ar bortread wedi eu hatal o ymyl y clogwyn.
Wyneb clogwyn uwchben y môr gyda dau berson yn eistedd ar ‘portaledge’ sy’n hongian o ymyl y clogwyn.

Campio Clogwyn, Rhoscolyn, Ynys Môn

Y treial ‘neidio oddi ar glogwyn’

Neidio oddi ar glogwyn. I mewn i’r MÔR. Fe glywsoch chi’n iawn. Ofn uchder? Ddim yn hoffi cael eich gwlychu? Does dim byd tebyg i wynebu’r ofnau hynny a neidio i mewn i’r tonnau o uchder mawr.

Yr enw ar y gweithgaredd hamdden hwn yw arfordira a chafodd ei ddyfeisio yma yng Nghymru gan syrffwyr o Sir Benfro wrth iddyn nhw sgrialu o amgylch yr arfordir yn chwilio am ffordd i mewn i’r môr (mae gennym lawer o glogwyni a thros 800 milltir o arfordir, felly gallwch weld o ble ddaeth y syniad). Y dyddiau hyn, mae arfordira yn weithgaredd hamdden llawn adrenalin sy’n cael ei drysori yng Nghymru. Cynhelir sesiynau ar gyfer grwpiau o bobl o bob gallu ac sydd â gofynion hygyrchedd gwahanol. Gallwch hyd yn oed ei wneud mewn gwisg ffansi, os mynnwch!

Gall arfordira heb dywysydd achrededig fod yn beryglus, felly rydyn ni’n argymell eich bod yn pori trwy ein rhestr o ddarparwyr arfordira achrededig a fydd yn gallu sicrhau bod eich antur yn un ddiogel.

Grŵp yn arfordira gydag un aelod yn neidio i mewn i'r môr

Arfordira!

Y treial ‘trechu’r weiren sip gyflymaf yn y byd’

Mae hyn yn ergyd ddwbl os nad ydych chi’n hoffi uchder … ewch i Chwarel y Penrhyn ger Bethesda a chael eich hun yn barod i wibio ar Velocity 2 Zip World, y weiren sip gyflymaf yn y byd a’r hiraf yn Ewrop. Gall hedfanwyr gyrraedd cyflymder o 125mya, gan hedfan 500 troedfedd uwchben safle hanesyddol y Penrhyn. Er, a bod yn deg, mae’n debyg y byddwch chi’n gwneud mwy o sgrechian na rhyfeddu at yr olygfa wrth wibio drwy’r awyr.

dyn yn barod i wibio ar hyd weiren sip dros chwarel fawr

Velocity 2, Zip World

Y treial ‘does gen i ddim ofn ysbrydion’

Stopiwch am lasiaid o sieri i leddfu’r nerfau – yna ymunwch â seans (séance) yn y dafarn fwyaf ofnus yng Nghymru. Tafarn 900 mlwydd oed o’r enw y Skirrid Mountain Inn, a arferai fod yn llys. Yn ôl chwedl leol, cafodd bron i 200 o ddrwgweithredwyr eu crogi o drawst derw dros y grisiau yn y dafarn. Daw enw’r dafarn o’r mynydd y tu ôl iddo, Yr Ysgyryd. Dywed rhai bod y mynydd wedi dangos ei ddicter yn yr oriau wedi croeshoeliad Iesu Grist – ysgydwodd a thorrodd yn ddwy ran gan greu’r ‘Ysgyryd Fawr’ a’r ‘Ysgyryd Fach’.

Y treial ‘snorcelu drwy gors’

Does dim ffordd arall o ddisgrifio hyn – dyma’n union beth ydyw - snorcelu drwy gors. Mae Cymru yn gartref i Bencampwriaethau Snorcelu Cors y Byd. Mae’n brawf heb ei ail o ddygnwch a sgil, ac fe’i disgrifiwyd gan Lonley Planet fel un o’r 50 profiad gorau yn y byd y mae’n rhaid eu gwneud.

Er mae'n swnio fel ychydig o hwyl, mae pobl yn hyfforddi'n galed drwy gydol y flwyddyn ar gyfer y digwyddiad hwn. Wedi’r cyfan, mae yna deitl pencampwr y byd i’w fachu! 

Llun o ddyn yn gwisgo snorcl a gogls ac yn snorclo mewn cors
Llun o berson yn gwisgo snorgl a gogls, ac yn beicio trwy gors

Curo’r gors!

Y treial ‘diwrnod llawn adrenalin’

Os ydych chi am gael eich herio dro ar ôl tro, yna mae angen lleoliad arnoch sydd ag amrywiaeth o brofiadau. Yn ffodus i chi, Parc Antur Eryri yw’r union le hwnnw. Mae gan Barc Antur Eryri dair ardal antur – Surf Snowdonia, lle gallwch ddysgu sut i syrffio ar lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd (neu wella eich sgiliau os ydych chi’n brofiadol). Yna mae Adrenaline Indoors, gyda’i ogofâu, sleidiau eithafol, llinellau sip, waliau dringo a chwrs antur ninja dan do! Yn olaf, ewch i Outdoor Adventures, lle mae waliau dringo, llinellau sip, trac pwmp, a mwy allan yn yr awyr agored!

Os yw hyn i gyd yn swnio braidd yn heriol yna mae angen i chi herio’ch hun i ‘dreial ymlacio’. Mae gan Barc Antur Eryri lety newydd cyffrous ar y safle, sef Hilton Garden Inn sy’n sownd i’r Wave Garden Spa. Dyma ddau le perffaith am rywfaint o ymlacio haeddiannol.

Y treial ‘cysgu mewn castell’

Os ydych chi awydd byw fel brenin neu frenhines am gyfnod, beth am archebu ystafell mewn castell? Yma yng Nghymru mae gennym gestyll y gallwch chi aros ynddyn nhw. O gaerau canoloesol i ryfeddodau Oes y Tuduriaid, mae gennym adeiladau hanesyddol ledled y wlad, yn aros i roi seibiant cyfforddus i chi. Ac yn wahanol i’r sêr yng Nghastell Gwrych, fydd dim angen ffrind i bwmpio dŵr i weithio’r gawod arnoch chi.

Ymhlith y cestyll ledled Cymru mae Castell Aberhonddu, Castell Craig-y-nos, Castell Deudraeth, Castell Aberteifi a Chastell y Garn.

Straeon cysylltiedig