Yn eu plith mae lonydd mynyddig, ffyrdd arfordirol anghysbell, a llwybrau lle mae’r waliau cerrig ac adfeilion y cestyll yn datgelu canrifoedd o hanes. Mae’r cyfan yn gwneud Cymru'n baradwys i’r beiciwr modur. O gopaon Bwlch y Groes i gribau Mynyddoedd Cambria, dyma wlad sy’n rhoi gwledd i feicwyr, gan gyfuno cyffro a golygfeydd i gipio’r anadl.

 

Mae James a Billy o dîm Adventure Bike Rider yn trafeilio ar rhyd Rebellion Road - Wedi'i greu ar gyfer Croeso Cymru.

Canllaw yw hwn wedi’i ysbrydoli gan daith epig Rebellion Road, ac mae’n sôn am bump o’r llwybrau gorau i feicwyr modur yn y wlad. I gyd-fynd â hynny, mae yma wybodaeth am y llefydd diwylliannol, y llefydd aros sy’n addas i feicwyr, a’r llefydd bwyd penigamp sydd i’w canfod ar y ffordd. Cestyll, corneli, cawl... Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, cofiwch am y llwybrau hyn y tro nesaf y byddwch chi’n mynd ar antur ar ddwy olwyn.

dau feic modur ar ffordd ger cronfa ddŵr.

James a Billy ar daith Rebellion Road

10 Uchaf Cymru – ffyrdd drwy entrychion y wlad

Mae reidwyr yn rhoi bri mawr ar y llwybr gwefreiddiol hwn. Dyma ddeg o’r ffyrdd palmantog uchaf yng Nghymru – pob un yn uwch na 500m – gan gynnwys llwybr enwog fel Bwlch y Groes, darn 17 milltir o ffordd sy’n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn, a Bwlch yr Efengyl, llwybr 22 milltir sy’n cysylltu’r Fenni a’r Gelli Gandryll.

Pam ei reidio? Fe fyddwch chi’n concro dringfeydd sy’n her i’r injan ac i’r meddwl, a’r cyfan gan fwynhau golygfeydd ar draws Eryri, Mynyddoedd Cambria a’r tu hwnt.

Cofiwch hefyd:

  • Bwlch y Groes – Un o’r ffyrdd tarmac uchaf sydd ar agor i draffig yng Nghymru.
  • Cronfa Ddŵr Llyn Brianne – Lle gwych i stopio am ginio ac i dynnu llun.

Os am fwyta: Plas Yn Dre, Bala – Gwesty a bwyty sy’n gweini cig oen Cymreig gyda chroeso cynnes.

Os am aros: Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy – gwesty 4*, sy’n croesawu beicwyr ac yn cynnig golygfeydd godidog. 

Awgrym da: Peidiwch â rhuthro i lawr y rhiw. Mae rhai o’r ffyrdd hyn yn gul ac yn serth, gyda defaid arnyn nhw. Pwyll piau hi.

dau feic modur ar ffordd ger cronfa ddŵr.
Pont gerrig gyda phobl arni, o dan argae.

Cwm Elan, Canolbarth Cymru

Cylchdro’r Canolbarth – 140 milltir o harddwch a llonyddwch

Mae’r cylchdro hwn drwy berfeddion y canolbarth yn llwybr epig ar hyd ffyrdd tawel, a hwnnw’n eich dwyn drwy Gwm Elan a Mynyddoedd Cambria ac yn ôl wedyn drwy Raeadr a Llandrindod.

Pam ei reidio? Mae’n gyfuniad perffaith o gorneli braf, tir agored eang, a swyn yr hen fyd.

Cofiwch hefyd:

  • Cronfa Ddŵr Claerwen – Lle heddychlon, tawel, sy’n ddelfrydol am ychydig o lonydd.
  • Rhaeadr – Tref farchnad hanesyddol a lle penigamp am hoe.

Os am fwyta: The Triangle Inn, Rhaeadr – Bwyd tafarn cysurlon gyda thanllwyth o dân.

Os am aros: Elan Valley Lodge – Lle gwych i grwpiau, gyda mannau diogel i gadw’ch beics.

Awgrym da: Mae’r gorsafoedd petrol yn brin, felly rhowch ddigon o danwydd yn y tanc mewn trefi fel Rhaeadr neu Lanymddyfri.

beic modur ar ffordd gyda llyn a chefn gwlad ar ddiwrnod heulog.

Nant y Moch, Ceredigion, Canolbarth Cymru

Cefn y Ddraig – ar grwydr o’r gogledd i’r de

A hwnnw’n ymestyn o Fannau Brycheiniog i gopaon Eryri, mae llwybr Cefn y Ddraig yn eich arwain drwy dalp go dda o Gymru. A hwnnw’n sicr o brofi eich sgiliau a’ch stamina, mae’n croesi tir garw ac yn rhoi golygfeydd heb eu hail.

Pam ei reidio? Dyma’r peth agosaf at ‘Lwybr 66 Cymru’ – taith gyffrous drwy berfeddion gwyllt y wlad.

Cofiwch hefyd:

  • Grisiau’r Diafol – Darn o ffordd igam-ogam serth neilltuol ym Mwlch Abergwesyn.
  • Machynlleth – Tref ddiwylliannol benigamp, a ‘hen brifddinas Cymru’.

Os am fwyta: Y Llew Coch, Machynlleth – Cwrw lleol a chroeso cynnes.
Os am aros: Gwesty’r Royal Victoria, Llanberis – Gwesty enwog ar odre’r Wyddfa.

Awgrym da: Paciwch ddillad sy’n addas i bob tywydd. Mae modd cael y pedwar tymor ar yr un diwrnod yng Nghymru.

llwybr gwledig gyda choed a ffens.
Golygfa uchel i fyny o ddyffryn serth, gyda ffordd droellog gul ar y gwaelod.

Llwybr Glyndŵr, Machynlleth a Chwm Gwesyn, Powys, Canolbarth Cymru

Byd Bannau Brycheiniog – chwedlau a chopaon

Dyma un o lwybrau beicio modur hanesyddol Cymru, a hwnnw’n eich dirwyn drwy ryfeddodau Bannau Brycheiniog. Yn eich aros mae ffyrdd troellog, cymoedd amaethyddol, a hanes Celtaidd rownd pob cornel.

Pam ei reidio? O ffyrdd y mynydd i hen gestyll, dyma lwybr lle mae’r golygfeydd a hen chwedlau yn dod ynghyd.

Cofiwch hefyd:

  • Bwlch yr Efengyl – Ffordd gyhoeddus uchaf Cymru, gyda golygfeydd anhygoel o’r Mynyddoedd Du.
  • Eglwys Gadeiriol Aberhonddu – Lle tawel i gael hoe a mwynhau treftadaeth ysbrydol Cymru.

Os am fwyta: Hills, Aberhonddu – Byrger gorau Cymru, meddai rhai!

Os am aros: The Felin Fach Griffin – Lle sy’n croesawu beicwyr, yn llawn steil a naws.

Awgrym da: Cofiwch y gall y tywydd newid yn sydyn ym Mannau Brycheiniog. Mae teiars da a’r gallu i weld yn glir yn hollbwysig.

dwy feic modur ar y ffordd gyda'r wlad o'i gwmpas ar ddiwrnod cymylog.
y tu mewn i eglwys gadeiriol gyda bwâu a ffenestri gwydr lliw.

Bwlch yr Efengyl ac Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, Canolbarth Cymru

Erwau Eryri – 200 milltir ar y mynydd

Os mai dim ond un reid wnewch chi yn y gogledd, hon amdani. Mae’r daith gylchdro yma’n crwydro Parc Cenedlaethol enwocaf Cymru, gan basio copaon, llynnoedd a threfi bro’r llechi.

Pam ei reidio? Yn Eryri fe gewch chi gyffro mynyddig law yn llaw â ffyrdd llyfnach, haws. Dyma’r agosaf gewch chi ym Mhrydain at fod yn yr Alpau.

Cofiwch hefyd:

  • Bwlch Llanberis – Dringfa droellog, gyflym rhwng copaon geirwon.
  • Beddgelert – Pentref hardd tu hwnt gyda chwedl enwog yn sail i’w enw. Enwyd y lle ar ôl Gelert, ci ffyddlon y Tywysog Llywelyn sydd wedi’i gladdu yno, yn ôl y stori drist.

Os am fwyta: Caffi’r Lone Tree, Llanberis – Caffi croesawgar sy’n gweini brecwast mawr a chinio da.

Os am aros: Bryntyrch Inn, Capel Curig – Lle gwych am brydau mawr a golygfeydd godidog.

Awgrym da: Osgowch y cyfnodau prysur os ydych chi am reidio heb draffig. Mae gyrru yma pan fydd hi’n gwawrio neu’n machludo yn brofiad bythgofiadwy.

Tafarn ger yr afon ym Meddgelert

Beddgelert, Gogledd Cymru

Pwyll piau hi

Mae gan Gymru rai o ffyrdd beicio modur difyrraf Prydain – ond eich diogelwch chi sydd wastad bwysicaf:

  • Cofiwch yr offer iawn: Gwisgwch set lawn o gêr reidio sydd wedi cael sgôr CE bob tro. Gall y tywydd newid yn gyflym.
  • Byddwch yn wyliadwrus: Cadwch lygad am arwyddion da byw, graean a ffyrdd gwlyb – yn enwedig ar lonydd gwledig.

Parchwch y terfynau cyflymder lleol: Mae ffyrdd Cymru’n gallu’ch temtio – ond reidiwch bob tro o fewn eich gallu ac o fewn y gyfraith.

Efallai mai taith sinematig Rebellion Road sydd wedi’ch ysbrydoli, neu’r awydd i ddilyn eich trwyn eich hun drwy’r dyffrynnoedd: mae beicio modur yng Nghymru’n fwy na mynd am reid – mae’n brofiad. O drefi hanesyddol i weundiroedd ac arfordiroedd gwyllt – mae’r llwybrau hyn yn dangos pa mor wych yw diwylliant Cymru a’r cyfleoedd i reidio beic modur yma.

Paratowch y paniers, felly, llwythwch y ffeiliau GPX, a dewch i weld pam y dylai llwybrau beicio modur Cymru fod ar frig rhestr pob reidiwr anturus.

 

dau feic modur ar ffordd ger coedwig.

Coedwig Hafren, Canolbarth Cymru

Straeon cysylltiedig