Does dim ots os ydych chi’n debycach i Bambi nag i Torvill a Dean; mae sglefrio iâ yn ffordd dda o gadw’n heini a mwynhau ar yr un pryd, beth bynnag eich gallu. Cymerwch olwg ar y llefydd gwych yma lle gallwch chi sglefrio, sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu.
Canolfannau sglefrio i’w mwynhau trwy'r flwyddyn
Canolfan Iâ Cymru, Bae Caerdydd
Os nad ydych chi erioed wedi sglefrio o’r blaen, neu i'r gwrthwyneb rydych yn awyddus i gystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf y tro nesaf, mae Canolfan Iâ Cymru yn cynnig cyrsiau addas ar gyfer pob oed a lefel. Neu gallwch archebu lle mewn sesiwn sglefrio agored, llogi sgidiau sglefrio a mentro eich ffordd eich hun ar yr iâ.
Wedi ei leoli ym Mae Caerdydd, mae’n safle aml-ddefnydd unigryw ac iddo ddau lawr sglefrio a seddi gwylio i dros 3,000 o bobl. Mae hefyd yn gartref i dîm hoci iâ y Cardiff Devils, sy’n chwarae yng Nghynghrair Elît Hoci Iâ Prydain, sef y safon uchaf posib ar gyfer hoci iâ yn y Deyrnas Unedig.


Arena Iâ Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint
Yn agor ym mis Tachwedd 2022. Wedi cyfnod o fod ar gau am ddwy flynedd a hanner, mae arena iâ maint Olympaidd Glannau Dyfrdwy yn paratoi i ailagor y gaeaf hwn. Mae’r ganolfan yn cynnig gwersi sglefrio iâ i grwpiau oedran amrywiol, cymorth sglefrio, bar byrbrydau, a hyd yn oed disgo ar iâ. Dyma un o ddim ond dwy arena yng Nghymru a chaiff ei defnyddio fel safle hyfforddi i’r sêr sy’n cymryd rhan ar raglen deledu ITV, Dancing on Ice.
Lloriau iâ tymhorol y tu allan
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn Abertawe
8 Tachwedd - 8 Ionawr. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn dod â’r cyffro Nadoligaidd i ganol dinas Abertawe. Mae’r cytiau alpaidd a’r atyniadau ffair wedi symud i Barc yr Amgueddfa ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac mae hynny ar ben y llawr sglefrio mawr ar gyfer pob oed a’r llawr sglefrio llai i blant yn unig. Beth am fanteisio ar yr ymweliad a mynd i wneud ychydig o siopa Nadolig yr un pryd yng nghanolfan siopa’r Quadrant neu ar hyd Stryd Rhydychen.


Llawr sglefrio a llwybr iâ, Castell Caerdydd
12 Tachwedd – dechrau Ionawr. Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn ôl yn fwy ac yn well nag erioed. Mae Castell Caerdydd unwaith eto’n gartref i’r atyniad hynod boblogaidd hwn – ewch draw i’r llawr sglefrio dan do a’r llwybr cerdded iâ hudolus am ddigonedd o hwyl yr ŵyl.


