Eogiaid yn llamu yn Gilfach, Rhaeadr Gwy

Mae mis Tachwedd yn gyfnod arbennig ar gyfer cael cip ar yr eogiaid, gan bydd y pysgod anhygoel yma’n nofio adref i'w man geni drwy afonydd bas ymhell yng nghanol cefn gwlad. Gallwch eu gweld ar y rhan fwyaf o afonydd ond rydym wrth ein boddau yn eu gwylio'n llamu i fyny rhaeadrau Afon Marteg yng Ngwarchodfa Natur Gilfach, gwarchodfa natur hyfryd ar fferm fynyddig 410 erw sy'n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed er budd bywyd gwyllt, gyda'i Ganolfan Darganfod Natur ei hun.

Atlantic salmon at Gilfach We are pleased to pass on the good news that the salmon have been seen in good numbers at...

Posted by Radnorshire Wildlife Trust on Friday, November 8, 2019

Drudwennod yn Aberystwyth

Mae gan dref glan y môr Aberystwyth tua 16,000 o drigolion, heb sôn am yr 8,000 o fyfyrwyr ychwanegol, ond hefyd, mae dros 50,000 o ddrudwennod yno, sy'n treulio eu gaeafau'n clwydo o dan y pier. Mae'n un o'n golygfeydd gaeaf gorau, gan fod yr adar yn ymgynnull yn raddol wrth iddi nosi, un haid fach ar y tro, nes eu bod yn ffurfio cwmwl du mudol sy'n llenwi’r awyr â’u siapiau trawiadol uwchben y glannau. Mae'r sioe yn cael ei chynnal bob nos, ac mae'n rhad ac am ddim.

Barcutiaid coch yn Fferm Gigrin, Rhaeadr Gwy

Mae ailgyflwyno barcutiaid coch wedi bod yn un o lwyddiannau mawr y byd cadwraeth. Er iddynt arfer bod yn ddiflanedig bron ym mhobman ym Mhrydain, mi wnaethon nhw oroesi, o drwch blewyn, ond dim ond mewn rhannau anghysbell o Ganolbarth Cymru. Erbyn hyn, maen nhw'n olygfa gyffredin ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ar gyfer yr arddangosfa orau oll, mae'r bwydo dyddiol yn Gigrin, sy'n cael ei redeg bob prynhawn ac eithrio dydd Nadolig, yn denu hyd at 600 o'r adar trawiadol hyn yn ogystal â bwncathod a chigfrain.

Barcutiaid coch yn bwydo ar y ddaear
Barcudiaid coch yn hedfan yn yr awyr llwyd o gwmpas coed gwyrdd

Arddangosfeydd trawiadol yng Nghanolfan Fwydo'r Barcud Coch, Fferm Gigrin

Trochyddion a gwyachod yn Sarn Gynfelyn

Hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Borth mae rhyfeddod o dywod a cherrig o'r enw Sarn Gynfelyn oedd, yn ôl chwedl leol, yn arfer arwain at deyrnas chwedlonol Cantre'r Gwaelod (mewn gwirionedd, gweddillion a adawyd ar ôl gan rewlif, un o dri riff tebyg sy'n ymestyn allan am filltiroedd ym Mae Ceredigion). Mae'r riffiau'n denu pysgod, sydd yn eu tro yn denu dolffiniaid, llamhidyddion, morloi – a heidiau enfawr o wyachod mawr copog a throchyddion gyddfgoch.

Lliwiau’r hydref yn Llanerchaeron

Mae’r hydref yn cael croeso mawr ar yr ystâd fach hon sydd wedi goroesi bron heb unrhyw newid ers iddi gael ei chreu gan uchelwyr lleol yn y 18fed ganrif. Mae Llanerchaeron yn un o dai cain John Nash gyda thŷ llaeth, golchdy, bragdy a thŷ halltu ei hun, gerddi llysiau â waliau o’u cwmpas, a fferm waith organig. Mae gŵyl afalau yma bob mis Hydref, sy'n amser hyfryd i fwynhau’r ffrwydrad o liwiau cynnes y coetiroedd sy'n amgylchynu'r llyn a'r parcdir.

Adar y gaeaf yn Llyn Syfaddan

Cafodd y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru ei gafnu gan rewlifiant ym Mannau Brycheiniog, ac yn ogystal â chael Canolfan chwaraeon dŵr Llyn Syfaddan, mae'n lloches bwysig ar gyfer adar dŵr gaeafol fel yr hwyaden wyllt, corhwyaden a’r hwyaden gopog – rhai o’r 20 rhywogaeth sy'n cyrraedd ar gyfer y gaeaf. Rhyddhawyd cannoedd o lygod y dŵr i'r ardal yn ddiweddar i helpu i achub yr anifail del (ond yn anffodus, sy'n fwyfwy prin) hwn.

Llyn gyda brwyn ac adeilad pren gyda tho gwellt

Llyn Syfaddan

Adar ysglyfaethus yng Nghwm Elan

Mae’r 70 milltir sgwâr naturiol hwn o gronfeydd dŵr, llynnoedd a choetir a elwir yn Gwm Elan yn ddihangfa berffaith. Gwelir deg o rywogaethau adar ysglyfaethus yma’n rheolaidd: mae barcutiaid, bwncathod, hebogiaid tramor, cudyllod bach a gweilch Marthin yn gyffredin. Mae’n debyg mai’r hyn na fyddwch chi'n ei weld yw pobl eraill.

Llun o goedwig hydrefol ac afon yng Nghwm Elan
Argae yng Nghwm Elan, Powys

Hydref hyfryd yng Nghwm Elan, Canolbarth Cymru

Adar gwyllt yn Aber afon Dyfi

Roedd Gwarchodfa Ynyshir yr RSPB yn lleoliad perffaith ar gyfer cyfres boblogaidd Springwatch y BBC, diolch i'w ystod eang o gynefinoedd, yn forfeydd heli, glaswelltir a choetir hynafol. Mae hefyd yn helpu ei bod yn hyfryd i edrych arno, wrth gwrs. Mae'r hydref a'r gaeaf yr un mor brysur, wrth i hwyaid, gwyddau ac adar y glannau gyrraedd – a cheisio osgoi sylw bodaod y gwerni.

Straeon cysylltiedig