Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau, a chynifer o adar ac anifeiliaid i’w gweld ledled Cymru. I’ch rhoi ar ben ffordd, dyma restr o leoedd i fynd i weld rhai o’r creaduriaid diddorol a charismatig sy’n byw ar ein harfordir ac yn ein cefn gwlad.

Barcutiaid coch, y Canolbarth

Ar ôl bod ar drothwy difodiant yma, mae ymdrechion cadwraeth wedi achub y barcud coch, ac mae ei gynffon fforchog eiconig yn olygfa gyfarwydd uwchben y Canolbarth eto erbyn hyn. Am gyfarfod cwbl syfrdanol â’r adar ysglyfaethus trawiadol hyn, ewch i’r sesiynau bwydo dyddiol yn Fferm Gigrin ger Rhaeadr Gwy, a Chanolfan Goedwig Bwlch Nant yr Arian, lle mae cannoedd yn disgyn o’r awyr am bryd blasus.

Llun o farcutiaid coch yn bwydo ar y tir

Barcutiaid coch, Bwlch Nant yr Arian, Ceredigion

Gweilch, y Canolbarth

Fe welwch ragor o adar ysglyfaethus anhygoel ym Mhrosiect Gweilch Dyfi, yng ngwarchodfa natur Cors Dyfi ger Machynlleth. Mae ar agor rhwng mis Ebrill a mis Medi, gan roi’r cyfle i ymwelwyr weld gweilch yn nythu o guddfan adar uchel (yn well byth, mae hyd yn oed gwe-gamera ffrydio byw er mwyn gweld yn syth i’r nyth). Ceir canolfan groeso hefyd gyda gwybodaeth, siop fechan a lluniaeth.

Palod, Sir Benfro

Dewch i weld rhai o adar anwylaf y byd yn eu hamgylchedd naturiol. Cadwch lygad am yr adar doniol hyn o liwiau prydferth yn nythu ar ynysoedd o amgylch Cymru, fel Ynys Sgomer oddi ar arfordir Sir Benfro. A hithau’n enwog am ei phalod, mae nifer o deithiau tir cyfyngedig i’r ynys, yn ogystal â mordeithiau lle gallwch weld bywyd gwyllt o’ch cwch cyffyrddus.

Pâl yn dod i dir ar y gwair gyda'r môr yn y cefndir
Pâl yr Iwerydd gyda glaswellt yn ei big

Palod ar Ynys Sgomer

Dolffiniaid a llamhidyddion, Ceredigion

Mae Bae Ceredigion yn gartref i boblogaeth fawr o ddolffiniaid trwyn potel a llamidyddion. Ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac mae tipyn o siawns y’u gwelwch nhw’n nofio ac yn neidio ymhlith y tonnau. Gallwch gael cip agosach drwy fynd ar daith mewn cwch i weld dolffiniaid o dref harbwr Cei Newydd, er mwyn dod wyneb yn wyneb â’r mamaliaid morol anhygoel hyn. Cewch wybod rhagor am ein hamgylchedd arfordirol yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion, sydd hefyd yng Nghei Newydd.

Dolffiniaid yn llamu allan o'r môr
Tywysydd taith yn pwyntio at ddolffiniaid o gwch
two dolphins playing together in the sea

Dolffiniaid Bae Ceredigion

Adar drycin Manaw, Pen Llŷn a Sir Benfro

Mae ynysoedd SgomerSgogwm oddi ar arfordir Sir Benfro yn gartref i gytref fwyaf y byd o adar drycin Manaw. Amcangyfrifwyd bod 350,000 o barau magu yn nythu ar yr ynysoedd, gan greu golygfa hynod wrth ddychwelyd i’w tyllau yn y cyfnos. Gallwch weld yr adar du a gwyn eiconig hyn yn ystod y gwanwyn a than ddiwedd mis Gorffennaf.

Gallwch hefyd weld llawer o adar drycin Manaw ar Ynys Enlli oddi ar arfordir Pen Llŷn. Mae Bardsey Boat Trips yn cynnig teithiau dydd i’r ynys o Aberdaron, er mwyn gwylio adar a chael digonedd o wybodaeth leol am hanes a bywyd gwyllt yr ynys.

Bywyd gwyllt coetir a gwlyptir, Sir Benfro a Phort Talbot

Gallwch weld amrywiaeth ryfeddol o blanhigion ac anifeiliaid, a dysgu rhagor am yr amgylchedd lleol, yn ein gwarchodfeydd natur a chanolfannau croeso. Yn Sir Benfro, mae Canolfan Natur Cymru a weithredir gan yr Ymddiriedolaeth Natur yn cynnig y cyfle i deuluoedd ddarganfod bywyd gwyllt ar lwybrau troed, trwy ddigwyddiadau tymhorol a theithiau tywysedig. Ger Port Talbot, crwydrwch o amgylch Pyllau Glyncorrwg, cyfres o lynnoedd artiffisial sy’n nythu mewn cymoedd coediog ffrwythlon, i weld bwncathod, crehyrod glas, gweision neidr ac amrywiol fflora a ffawna.

Cwningen ar graig
Blodau melyn gwyllt
Adar ar y dŵr

Bywyd gwyllt Ynys Sgomer, Sir Benfro

Gweision y neidr, Ceredigion

Yn Nhregaron, cyforgors helaeth Cors Caron yw un o’r amgylcheddau gwlyptir mwyaf hynod a phwysig yn y DU. Mae’n cynnal tipyn o fywyd gwyllt, gan gynnwys tua 16 rhywogaeth o weision neidr lliwgar. Mae'n hyfryd eu gweld ... ac maent yn weddol flasus hefyd, o ystyried cynifer yr hebogiaid yr ehedydd sy’n eu bwyta.

Morloi llwyd, Sir Benfro

Ynys Dewi oddi ar arfordir Sir Benfro yw un o’r mannau gorau yn y DU i weld morloi llwyd. Ewch ar gwch allan i’r ynys i weld morloi’n torheulo ar y draethlin ac archwiliwch ogofâu môr a cheunentydd creigiog dramatig Ynys Dewi.

Pedwar morlo yn gorwedd ar y creigiau

Morloi llwyd

Grugieir du, Gogledd-ddwyrain Cymru

Bydd rhaid i chi godi’n gynnar i weld y grugieir du’n dawnsio gyda’r wawr yng Nghoed Llandegla. Yn ystod yr haf, ymunwch â thaith gerdded dywysedig RSPB drwy’r goedwig i guddfan bwrpasol lle gallwch weld y gwrywod y grugieir du yn gwneud eu campau, yn fflachio eu plu cynffon gwyn ac yn ymosod ar ei gilydd i geisio creu argraff ar y benywod yn eu plith.

Cornchwiglod, Ceredigion

Ar un adeg, roedd cornchwiglod yn gyffredin ar dir fferm, ond mae eu niferoedd wedi gostwng yn ddifrifol. Gwarchodfa RSPB Ynys-hir yw un o’u cadarnleoedd pwysicaf, a’r lle gorau yng Nghymru i’w gweld. Cynefin amrywiol sydd i’r warchodfa, sef cors, coedwigoedd a dolydd, ac fe’i rhennir gyda dwsinau o rywogaethau eraill. Dewch yn y gwanwyn i weld trigolion y warchodfa ar daith gerdded gofiadwy drwy goetir derw hynafol a blodau gwyllt yn drwch ar lawr.

Adar môr, Ynys Môn

Ewch ar y daith i warchodfa eiconig RSPB Clogwyni Ynys Lawd ar Ynys Môn i weld adar morol o bob math. Mae’r clogwyni creigiog tal yma’n gartref i ryw 9,000 o breswylwyr pluog, ac yn eu plith balod, gwylogod, llursod, gwylanod coesddu ac adar drycin y graig, a hefyd cigfrain, brain coesgoch a hebogiaid tramor yn plymio.

Llun o ben mulfran werdd

Mulfran werdd: aderyn sydd i'w weld ar Ynys Môn

Adar coetir, y Canolbarth

Mae dros 30 o rywogaethau magu o adar yn byw yng nghoetir helyg a gwern Withybeds ar hyd Afon Llugwy yn agos i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan gynnwys gwybedogion, cnocellod a thylluanod bach. Yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf, mae cân yr adar yn llenwi’r goedwig, a gall pawb ei mwynhau, diolch i lwybr pren sy’n addas i gadeiriau olwyn.

Straeon cysylltiedig