Dydd Miwsig Cymru

Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol i ddathlu pob math o fiwsig Cymraeg – o roc, pop, gwerin, i electronica, hip hop a phopeth arall dan haul. Mae'r diwrnod yn annog pobl o bob oed i ddarganfod y sîn fywiog o fiwsig Cymraeg sydd gennym. 

Gwrandewch ar restrau chwarae Dydd Miwsig Cymru a dilynwch Miwsig ar y cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth diweddaraf am ddigwyddiadau Dydd Miwsig Cymru. 

Calon y gymuned

Mae lleoliadau miwsig annibynnol yn aml yn ganolog i gymunedau Cymraeg. Maent yn gartrefi i ddegawdau o atgofion, yn meithrin talent ac yn creu cymuned. Dyma gasgliad o rai o leoliadau annibynnol arbennig Cymru.

Le Pub, Casnewydd

Gofod cerddoriaeth a chelfyddydau creadigol yng nghanol dinas Casnewydd yw Le Pub. Mae’r lleoliad yn cynnig rhaglen lawn o gerddoriaeth fyw, celfyddydau, comedi ac yn gweini bwydlen lysieuol a fegan blasus hefyd. 

Y Saith Seren, Wrecsam

Tafarn gymunedol a chanolfan Gymraeg yn Wrecsam yw'r Saith Seren. Ceir yno amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys adloniant a gwersi Cymraeg ar gyfer dysgwyr, ac mae mannau cyfarfod ar gael i'w llogi gan fusnesau ac elusennau lleol. Ymysg y digwyddiadau cerddorol i ddod eleni mae gig Dafydd Iwan, sesiynau jamio wythnosol, a gig Bryn Fôn a'r Band. 

Criw o bobl tu allan i dafarn y Saith Seren - tafarn brics coch ar gornel stryd.

Saith Seren, Wrecsam

Neuadd Ogwen, Bethesda

Neuadd gyngerdd a chanolfan gelfyddydol gymunedol yw Neuadd Ogwen, Bethesda. Ymhlith y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd mae cerddoriaeth, theatr, comedi stand-yp, llenyddiaeth fyw a theatr plant. Yn ôl y cylchgrawn cerddoriaeth Shindig!, Neuadd Ogwen oedd y pumed lleoliad cerddoriaeth annibynnol gorau ym Mhrydain yn 2021.

Clwb y Bont, Pontypridd

Menter gydweithredol yw Clwb y Bont sy'n cael ei redeg gan ei aelodau. Mae'r clwb yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau diwyllianol a chymunedol fel hip-hop, barddoniaeth, bandiau roc, ffilmiau a noson cwis, a llu o glybiau cerddorol gan gynnwys clybiau jazz, blues a gwerin. Yma mae'r côr cymunedol yn cwrdd, ac maent yn cynnal nosweithiau cydganu rheolaidd. 

Arwydd Clwb y Bont ym Mhontypridd gyda'r ddraig goch a phont Pontypridd.

Clwb y Bont, Pontypridd

Shed, Y Felinheli

Gofod creadigol yng nghanol Y Felinheli yw'r Shed. Mae'r adeilad amlbwrpas yn cynnwys swyddfeydd i weithwyr creadigol, hwb cymunedol i gynnal digwyddiad a stiwdio ffilmio a ffotograffiaeth. Yn ogystal â nosweithiau ffilm a chomedi, gweithdai coginio a ffeiriau celf a chrefft, mae nosweithiau cerddoriaeth acwstig yn chwarae rhan fawr yng nghalendr digwyddiadau'r Shed.

Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Lleoliad gigs a chlwb nos wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd ar Stryd Womanby yw Clwb Ifor Bach. Mae’r lleoliad eiconig wedi cynnig llwyfan a phlatfform cynnar i rai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth heddiw. Ers sefydlu yn 1983, mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn ganolbwynt cerddorol yng Nghaerdydd a Chymru gan groesawu bob math o gerddoriaeth o bob cornel o’r byd.

Murlun y gantores Gwenno, Clwb Ifor Bach

Tafarndai cymunedol

Mae sawl tafarn yng Nghymru yn berchen i'r gymuned. Maen nhw’n cael eu cynnal gan y bobl, er mwyn y bobl. Mae cerddoriaeth byw yn ganolog i'r lleoliadau cymunedol hyn, ac mae synau'r nosweithiau acwstig, sesiynau jamio a gigs byw yn codi to'r tafarndai - sy'n llawer mwy na dim ond bar rhwng pedair wal. 

Darllen mwy: Tafarndai cymunedol Cymru

Tŷ Tawe, Abertawe

 

Ers 1987 mae Tŷ Tawe wedi bod yn Ganolfan Gymraeg i Abertawe. Mae’n gartref i siop lyfrau, caffi, ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd, yn ogystal â lleoliad perfformio. Yn dilyn cyfres o gigs acwstig yn y bar, ail-agorodd y brif neuadd ym mis Hydref 2021 ac ers hynny mae nosweithiau diri o gerddoriaeth byw wedi llenwi’r ganolfan, gyda pherfformiadau’n cynnwys MR, Bwncath, Ani Glass a N’famady Kouyaté. Mae’r fenter iaith leol yn cyd-weithio gyda PYST i gyflwyno nifer o ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn felly cadwch lygaid ar eu cyfrif Twitter am nosweithiau i ddod.

Cwrw, Caerfyrddin

Bar, siop gwrw a lleoliad gigs yw Cwrw yng Nghaerfyrddin. Mae’r décor lliwgar yn gefndir perffaith i nosweithiau bywiog - o cwisys i carioci - ond cerddoriaeth fyw yw un o brif bleserau’r lleoliad - ac mae sacsoffon wrth y bar hyd yn oed i unrhyw un ymuno yn y jamio! Mae’r label recordiau lleol, Libertino, yn trefnu nosweithiau yma.

Gwyliau i'w gwylio

Mae nifer o wyliau cerddorol bach a mawr ar draws y wlad yn cynnig llwyfan i artistiaid Cymreig. Dyma ambell un i gadw golwg ar eu trefniadau a lein-yp eleni. 

FOCUS Wales

09-11 Mai 2024, Wrecsam 

Gŵyl aml-leoliad ryngwladol yw FOCUS Wales sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam. Mae’n rhoi sylw cadarn i’r talent newydd sydd gan Gymru i’w gynnig i’r byd, ochr yn ochr â chyflwyno perfformwyr newydd rhyngwladol. Ymysg y perfformwyr eleni mae Adwaith, Cerys Hafana a Pys Melyn.

Eisteddfod yr Urdd

27 Mai - 01 Mehefin 2024, Maldwyn

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yw gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop, sy’n denu dros 65,000 o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru yn flynyddol, ynghyd â 100,000 o ymwelwyr i’r maes. Ond mae mwy i’r Urdd na’r cystadlu, gyda llond cae o gigs, gweithdai cerddoriaeth a pherfformiadau acwstig i ddiddanu’n Meifod.

Gŵyl Cefni

05 - 08 Mehefin 2024, Llangefni

Gŵyl deuluol Môn yw Gŵyl Cefni. Mae’r dathliad o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig yn ddigwyddiad blynyddol yn Llangefni ers ugain mlynedd bellach. Mae nifer o berfformwyr lleol o’r ynys wedi perfformio dros y blynyddoedd gan gynnwys Gwilym, Fleur De Lys a Meinir Gwilym.

 

Gŵyl Fach y Fro

18 Mai 2024, Ynys y Barri

Mi glywais i fand bach da... lawr ar lan y môr! Mae Gŵyl Fach y Fro wedi'i leoli ar draeth hardd Ynys y Barri ym Mro Morgannwg. Mae'r cytiau traeth lliwgar yn gefndir hafaidd i fandiau hen a newydd y sîn, ac mae gweithgareddau lu i'r plant ar hyd y prom o weithdai crefft eco i sesiynau chwaraeon ar y tywod. Mae hon yn ŵyl unigryw sy'n nodi cychwyn yr haf bob blwyddyn. 

Tafwyl

12-14 Gorffennaf 2024, Caerdydd

Gŵyl gelfyddydol Gymraeg Caerdydd yw Tafwyl. Mae’r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd gan lenwi Castell Caerdydd gyda thorf enfawr. Mae tair llwyfan gerddorol yn yr ŵyl yn cynnig platfform i gerddorion ifanc newydd ynghyd ag enwau mwyaf y sîn gan gynnwys Yws Gwynedd, Adwaith, Cowbois Rhos Botwnnog, Breichiau Hir a Kizzy Crawford. 

Cynulleidfa gig cerddoriaeth yn Tafwyl yn sefyll tu nôl i wahanfur gyda chonffeti o'u cwmpas a Chastell Caerdydd yn y cefndir

Gŵyl Tafwyl

Sesiwn Fawr Dolgellau

18-21 Gorffennaf 2024, Dolgellau

Gŵyl werin a cherddoriaeth byd yw Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae hi’n bur debyg bydd sesiynau jamio yn codi cân mewn ambell i dafarn yn Nolgellau dros gyfnod yr ŵyl felly cofiwch eich ffidil! Ymysg perfformwyr y gorffennol mae Bwncath, HMS Morris, Mari Mathias, Yr Eira a Morgan Elwy. 

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

03 Awst - 10 Awst 2023, Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Prif ddathliad Cymru o’n diwylliant a’n hiaith yw’r Eisteddfod. Yr Eisteddfod yw’r ffenestr siop berffaith i bob math o gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth a llawer mwy. 

Cynulleidfa yn wynebu llwyfan fawr gyda band byw. Mae golau'r llwyfan yn disgleirio yn y tywyllwch a pheli mawr yn cael eu taflu o amgylch y gynulleidfa.

Eisteddfod Genedlaethol 2018, Bae Caerdydd

Sŵn

I'w gadarnhau, Caerdydd

Gŵyl gerddoriaeth aml-leoliad Caerdydd yw Sŵn, sy’n cefnogi sêr y dyfodol yn ogystal â dod ag enwau mawr i’r brifddinas. Dros y blynyddoedd mae digwyddiadau ymylol wedi cefnogi'r amserlen gerddorol gan gynnwys cwisiau, cabaret, carioci a chlwb rhedeg.

Merch gyda gitâr yn canu ar lwyfan yng ngŵyl sŵn

Gŵyl Sŵn, Clwb Ifor Bach

Straeon cysylltiedig