Drysau Agored Cadw
01 - 30 Medi 2026. Trwy gydol mis Medi bydd Cadw yn agor eu drysau i dros 200 o safleoedd hanesyddol Cymru gan gynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.
Gweler tudalen digwyddiadau Drysau Agored Cadw am ragor o wybodaeth.
Rali Ceredigion
04 - 06 Medi 2026. Bydd Sioe Rali, sesiwn llofnodi ac agoriad seremonïol yn cael eu cynnal ym Mandstand Aberystwyth ar y promenâd. JDS Machinery Rali Ceredigion 2026
Gŵyl Gerdded Gŵyr
05 - 13 Medi 2026. Mae Gŵyl Gerdded Gŵyr yn cynnig amrywiaeth wych o deithiau cerdded sy'n addas i bob oedran a gallu.
Gŵyl Fwyd Sain Ffagan, Caerdydd
12 - 13 Medi 2026. Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd. Bydd dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft, arddangosiadau coginio, gweithgareddau a cherddoriaeth i'r teulu cyfan .
Sioe Wysg
12 Medi 2026. Dathlwch y gorau o ffermio Sir Fynwy a bywyd gwledig yn Sioe Wysg. Bydd arddangosfeydd cefn gwlad ynghyd â dros 300 o fasnachwyr yn y neuadd fwyd, canolfan siopa a'r babell grefft.
Llanc y Tywod, Ynys Môn
27 Medi 2026. Cynhelir Treiathlon Superfleet Llanc y Tywod trwy goedwig anhygoel Niwbwrch. Mae'r dechrau a'r diwedd wedi'i osod mewn ardal unigryw o fewn y goedwig 700 hectar ger traeth byd-enwog Llanddwyn.
Gŵyl Fwyd y Fenni
19 - 20 Medi 2026. Gŵyl Fwyd y Fenni yw un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr bwyd y DU, gydag arddangoswyr o Gymru a thu hwnt. Mae'r rhaglen yn cynnwys dosbarthiadau meistr, gweithdai, sesiynau blasu a sgyrsiau. Mae yna academi fwyd i blant gyda gweithdai ymarferol hefyd.
IRONMAN Wales, Sir Benfro
13 Medi 2026. Mae IRONMAN Wales yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro. Nofio 2.4 milltir (3.8km), seiclo 112 milltir (180km), ac yna marathon, gyda dim ond 17 awr i gwblhau'r cyfan.
Gŵyl Elvis Porthcawl
25 - 27 Medi 2026. Mae Gŵyl Elvis yn ddigwyddiad poblogaidd yn nhref glan môr Porthcawl. Mae miloedd yn mynychu'r achlysur blynyddol hwyliog hwn - gyda sawl un wedi gwisgo fel y dyn ei hun.