Ffair Hydref Canolbarth Cymru

05 - 06 Hydref 2026. Diwrnod allan hydrefol i’r teulu, gyda dros 40 o gynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru. Cynhelir Ffair Hydref Canolbarth Cymru ar Faes Sioe Frenhinol Cymru.

Darllen mwy: Darganfod hanes Llanfair-ym-Muallt

Ŵyl gomedi Aberystwyth

 02 - 04 Hydref 2026 - Bydd yr ŵyl gomedi Aberystwyth gyda thua 40 o sioeau o nos Wener i nos Sul.

Hanner Marathon Caerdydd

5 Hydref 2026 - Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous a phoblogaidd yn Ewrop. 

Llais, Caerdydd

07 - 11 Hydref 2026. Gŵyl ryngwladol flynyddol Caerdydd gyda chymysgedd o ddigwyddiadau am ddim a rhai sydd angen tocyn. Heb ei gyfyngu i genre neu ffurf gelf benodol, mae Llais yn dathlu artistiaid rhyngwladol yn ogystal â chreadigrwydd ein cynefin, gan drawsnewid Canolfan Mileniwm Cymru’n safle gŵyl unigryw am gyfnod. 

Darllen mwy: Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mae Caerdydd

Gŵyl Sŵn, Caerdydd

15 - 17 Hydref 2026. Gŵyl gerddoriaeth gyfoes aml-leoliad yng nghanol Caerdydd yw Gŵyl Sŵn. Ers 2007 mae'r ŵyl yn canolbwyntio ar gerddoriaeth newydd, artistiaid sy'n datblygu a bandiau lleol. 

Darllen mwy: Pethau i’w gwneud ar wyliau byr neu benwythnos hir yng Nghaerdydd

Lleisiau Eraill, Aberteifi

Dyddiad i'w gadarnhau. Bydd Lleisiau Eraill yn cyflwyno penwythnos o berfformiadau o safon fyd-eang unwaith eto yn Aberteifi gan gynnwys digwyddiadau yn Eglwys y Santes Fair, setiau byw ar draws Y Llwybr Cerdd a chyfres o sgyrsiau a syniadau yn y sesiynau Clebran. 

Trên Stêm Calan Gaeaf, Rheilffordd Talyllyn 

29 - 30 Hydref 2026. Ewch ar daith arswydus ar Drên Calan Gaeaf Talyllyn, os ydych chi'n ddigon dewr i deithio gyda'r ysbrydion.

Darllen mwy: Digwyddiadau Calan Gaeaf a hwyl hanner tymor yr hydref

Digwyddiadau eraill ym mis Hydref

A oedd yr erthygl yma yn ddefnyddiol i ti?
Diolch yn fawr iawn am dy adborth.

Straeon cysylltiedig