Dechreuwch eich taith yng nghwmni tywysog olaf Cymru

Os cyrhaeddwch chi Lanfair-ym-Muallt o gyfeiriad y gorllewin, fe ddewch chi ar draws rhan bwysig o hanes yn syth, reit wrth yr afon. Mae’r murlun anferth ar ochr y siop ar ben Broad Street yn darlunio dyddiau olaf tywysog olaf Cymru, Llywelyn Ein Llyw Olaf. Yn 1282, fe ymladdodd am y tro olaf yn y dref hon, wedi i Arglwyddi’r Mers o Loegr sleifio i lawr yr afon a gosod trap i ddal y Cymry.

Dyma oedd Brwydr Pont Orewin. Dilynwch Broad Street am bron i ffiltir i gyrraedd y bont ei hun, ond mae'n werth oedi ar y ffordd am damaidi fwyta. Mi fyddwch chithau’n barod am unrhyw frwydr ar ôl brecwast Cymreig yn nhafarn y Fountain Inn, sy’n dyddio o’r 14eg ganrif. Mae'n ddiddorol meddwl pa straeon fyddai wedi bod yma gan yr yfwyr lleol ers talwm. Efallai y byddai gan waliau’r Drover’s Tea Room hefyd ambell stori i’w rhannu - mae nhw’n gweini bwyd y tu mewn dan drawstiau pren, neu tu allan mewn buarth hen ffasiwn.

Os hoffech ddilyn trywydd Llywelyn ymhellach daliwch ati i gerdded allan o’r dref am ddwy filltir nes cyrraedd Cilmeri, lle lladdwyd Llywelyn. Yno, mae cofeb yn nodi’r fan lle bu farw, ac mae grisiau gerllaw yn arwain at y ffynnon lle golchwyd ei ben wedi iddo gael ei dorri cyn ei anfon at Edward I. Gallwch chi godi gwydr wedyn yn nhafarn Prince Llywelyn yng Nghilmeri (sicrhewch eich bod yn edrych ar ei horiau agor cyn mentro draw).

Maen hir
Maen hir ar dwmpath glaswellt.

Cofeb Llywelyn ap Gruffudd, Cilmeri ger Llanfair-ym-Muallt

Castell Llanfair-ym-Muallt ac olion hynafol yr eglwys

Roedd castell mawreddog yng nghantref Buellt ar un adeg, ond gan nad oes unrhyw olion amlwg i’w gweld, gall fod yn anodd dod o hyd iddo. Ond os ewch chi tu ôl i res o dai ar Castle Road fe ddewch chi o hyd i fwnt glaswelltog Castell Llanfair-ym-Muallt oedd ar un adeg yn sylfaen i un o gaerau pwysicaf Edward I.

Golygfa o’r awyr o domen laswelltog wedi ei hamgylchynu gan dref.

Mwnt glaswelltog, safle Castell Llanfair-ym-Muallt gynt

Roedd Llanfair-ym-Muallt yn lle pwysig ymhell cyn hynny. Yn y cyfnod cyn-Rufeinig, roedd yn deyrnas annibynnol. Yn y 9fed a’r 10fed ganrif, roedd yn ganolfan a elwir Rhwng Gwy a Hafren, ardal wleidyddol bwysig yng nghanolbarth Cymru, ar wahân i deyrnas Powys, a byddai amddiffynwyr Buallt a Phowys yn aml yn brwydro yn erbyn ei gilydd.

Mae clawdd ger tŷ Doleglwys (ar hyd Golf Links Road yn y dref) hefyd yn cuddio olion eglwys hynafol. Gallwch ddod ar draws hyn i gyd wrth gerdded ar hyd yr afon. 

Oes Fictorianaidd Llanfair-ym-Muallt

Mae Llanfair-ym-Muallt yn llawn o adeiladau â’r garreg wedi dod o Chwarel Llanelwedd gerllaw: mae tai hardd a siopau bach tlws ar pob stryd. Ar Smithsfield Street, mae yno hefyd hen gapel Bedyddwyr a godwyd mewn steil traddodiad Fictorianaidd/gothig crand; mae bellach yn farchnad antîcs ag enw rhyfedd a chofiadwy, I Am Curious Yellow. Canwch y gloch ac fe gamwch i mewn i siop ryfeddol o brysur wedi ei llenwi hyd at y set fawr a’r balconi â dodrefn resymol a chreiriau llachar. Os ydych chi’n hoff o antîcs fwy modern, dylech chi daro draw i Eco Chic Interiors ar Strand Street lle dewch chi o hyd i ddillad a gemwaith vintage a Doc Martens wedi eu haddurno. Ar y waliau mae hen baentiadau a phennau anifeiliaid yn syllu’n dawel ar holl ryfeddodau’r siop.

Mae adeilad Fictorianaidd hyd yn oed yn fwy trawiadol yn sefyll ar ben pellaf Castle Street: Canolfan Gelfyddydau Wyeside. Roedd Llanfair-ym-Muallt yn dref sba Fictorianaidd boblogaidd ar un adeg (mae cliw yn enw Saesneg y dref, Builth Wells), dyma oedd marchnad wartheg y dref a’i frics coch a’i ystafelloedd yn cael eu defnyddio ar gyfer cyngherddau, dawnsfeydd a chyfarfodydd cyhoeddus. Bellach mae’n theatr annibynnol yn dangos y ffilmiau diweddaraf ac mae’n lleoliad sy’n aml yn denu sioeau gan gomediwyr, cwmnïau dawns a theatr a cherddorion sydd ar daith o amgylch y wlad. Mae’r profiad yn un cofiadwy i’r gynulleidfa hefyd: y seti yn gostwng yn isel tuag at y llwyfan Fictorianaidd, sydd yn ychwanegu at yr awyrgylch yn sicr. Cymerwch olwg ar beth sydd ymlaen ac archebwch eich tocynnau ymlaen llaw.

Tŷ gyda murlun wedi’i baentio ar ei ochr.
Adeilad carreg mawr gyda ffenestri addurnedig a thŵr cloc.

Canolfan Gelfyddydau Wyeside, Llanfair-ym-Muallt

Cysylltiad Llanfair-ym-Muallt â chowboi Americanaidd 

Mae’n anodd dod i Lanfair-ym-Muallt heb gerdded ar hyd lan hyfryd yr afon Gwy, sydd yn dal yn llydan yma gan ei fod yn agos i'w darddiad ym Mhumlumon. Wrth ochr yr afon mae Parc Groe lle cewch bedair coeden digon anghymreig yr olwg yn ymestyn yn dal, dwy wrth y Strand a dwy wrth faes parcio’r dref. Coedydd coch mawr ydi’r rhain a blannwyd yn 1903 cyn i’r diddanwr Americanaidd Buffalo Bill ddod i ymweld â’r dref; byddai ei sioeau, yn llawn o straeon am y Gorllewin Gwyllt, yn denu torfeydd enfawr ar draws Cymru.

Golygfa o’r awyr o gylch cerrig a’r ardal o’i gwmpas.

Cylch cerrig, Llanfair-ym-Muallt

Mae elfennau eraill o hanes Llanfair-ym-Muallt i’w gweld yma: cylch cerrig trawiadol, cofeb ryfel fawreddog a cherflun o darw buddugol ar gyfer tîm rygbi lleol Llanfair-ym-Muallt, Y Teirw.

Cofeb ryfel dal ar floc â grisiau gyda cerfluniau o filwyr o gwmpas y gwaelod. Desc: Y Gofeb Rhyfel, Llanfair-ym-Muallt, canolbarth Cymru
Cerflun metel o darw mewn parc.

Cofeb rhyfel a cherflun o darw, Llanfair-ym-Muallt

O Barc Groe fe gewch chi hefyd y golygfeydd gorau o Bont Gwy a adeiladwyd yn 1779 – ond a addaswyd yn ofalus yn y 1920au er mwyn gwneud lle i fwy nag un cerbyd. Bu’r gwaith addasu yma yn flaengar iawn ar y pryd, yn enwedig wrth feddwl am beth sy’n digwydd ochr arall y bont bob haf.

Mae’r Sioe Frenhinol yn troi’r dref yn ganolbwynt y wlad bob mis Gorffennaf. Daw gwartheg, ceffylau a defaid i gystadlu o flaen miloedd o bobl ac mae bwydydd lleol, chwaraeon ac adloniant yno i ddifyrru’r torfeydd.

Dyna ddigon o deithio drwy amser am y tro. Rhowch seibiant i’ch traed blinedig yng nghaffi’r Strand wrth yr afon, ac edmygwch y tir rydych chi wedi ei droedio, eich pen yn llawn o hanesion o’r gorffennol a’r presennol – ac yn dal yn sownd i’ch ysgwyddau, gobeithio!

Pont dros afon, a glaswellt hir ym mlaen y llun.
Dynion yn torri darnau fertigol o bren mewn cystadleuaeth.
Dynes yn eistedd wrth fwrdd o dan barasol tu allan i gaffi gyda phobl yn pasio a gweinyddes yn cerdded.

Pont Gwy, y Sioe Frenhinol, a chaffi’r Strand, Llanfair-ym-Muallt

Straeon cysylltiedig