Ffair Aeaf Môn, Ynys Môn
07 - 08 Tachwedd 2026. Cynhelir Ffair Aeaf Môn ar faes Sioe Môn, gyda phenwythnos o dda byw, ceffylau ac arddangoswyr cynnyrch. Bydd stondinau crefft, peiriannau a sioe gŵn hefyd, yn ogystal â chystadlaethau plant.
Marchnad Nadolig a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
12 Tachwedd - 23 Rhagfyr 2026. Cynhelir Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gweithle, yr Aes, Stryd Hills a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr newydd a rhai sy'n dychwelyd yn flynyddol gyda'u gwaith gwreiddiol wedi'i wneud â llaw.
Dyddiad i'w gadarnhau. Mwynhewch sglefrio iâ a reidiau hwyl gan gynnwys yr Olwyn Fawr yng nghanol ein prifddinas. Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn digwydd yng Nghastell Caerdydd a lawnt Neuadd y Ddinas.
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Abertawe
21 Tachwedd - 4 Ionawr 2026. Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl gyda safle sglefrio iâ dan do, llwybr iâ awyr agored a phentref Alpaidd gyda bwyd a diod Nadoligaidd.
Llwybr Goleuadau Luminate Wales, Parc Margam
21 Tachwedd - 02 Ionawr 2027. Taith hudolus trwy gerddi a chastell Parc Gwledig Margam. Dilynwch llwybr milltir o hyd Luminate Wales, gyda gosodiadau golau syfrdanol ac elfennau rhyngweithiol gwych i'r plant.
Penwythnos y Gaeaf Gŵyl y Gelli
26 – 29 Tachwedd 2026 - Mae Penwythnos y Gaeaf yn fersiwn llai o'r brif ŵyl, gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau yng nghanol y dref. Mae’r ŵyl yn cynnwys dros 60 o ddigwyddiadau gyda dros 70 o artistiaid.
Gŵyl NAWR, Abertawe
Dyddiad i'w gadarnhau. Gŵyl un diwrnod o gerddoriaeth arbrofol yn Tŷ Tawe, Abertawe, wedi ei drefnu gan Menter Iaith Abertawe.
Darllen mwy: Llefydd i’w gweld a phethau i’w gwneud yn Abertawe
Mwy o ddigwyddiadau ym mis Tachwedd
13 - 15 Tachwedd 2026. Gŵyl Blues Dinbych y Pysgod, Sir Benfro
15 Tachwedd 2026. Hanner Marathon Conwy
30 Tachwedd - 01 Rhagfyr 2026. Ffair Aeaf Y Sioe Frenhinol, Llanelwedd - Ynghyd â’r amserlen lawn arferol o gystadlaethau, arddangosfeydd ac arddangosiadau, Mae'r Ffair Aeaf hefyd yn cynnig cyfle perffaith i’r siopwr craff brynu anrhegion unigryw a gwreiddiol.
Dyddiad i'w gadarnhau. Nadolig ym Mharc Bute, Caerdydd - Ewch am dro drwy filltir o fyd swynol o oleuni, a gynhelir gan rhai o'r ddylunwyr goleuadau goreuon y byd.