Gofynnwyd i rai o staff Ramblers Cymru, y corff cynrychiadol ar gyfer cerddwyr yng Nghymru, i rannu eu hoff deithiau cerdded hydrefol yng Nghymru. Mae’r tîm yn hyrwyddo cerdded a datblygu rhwydweithiau llwybrau yng Nghymru, felly prin iawn yw'r llwybrau nad ydynt wedi’u cerdded yn y wlad hon.

Hen Felin Wynt, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf

3.8 milltir – Dewiswyd gan Olie Wicks, Prif Swyddog Llwybrau i Lesiant, Ramblers Cymru

Mae taith gerdded gymunedol Hen Felin Wynt yn rhan o gyfres o deithiau cerdded cylchol yn ardal Llantrisant a elwir yn Bunny Walks (mae’n rhif pedwar yn y gyfres). Mae’r llwybr yn dechrau yn Cross Inn ac yn mynd â chi i gefn gwlad bryniog ar unwaith gyda golygfeydd gwych tuag at Goedwig Creigiau a Chwm Rhondda. Cyn bo hir, byddwch yn mynd drwy Gomin Llantrisant cyn mynd i fyny i Hen Felin Wynt. Mae’n cynnig golygfeydd anhygoel o Goedwig Maelwg a Mynydd Garth Maelwg, lle dylai lliwiau’r hydref fod yn eu llawnder.

 

Menyw a chi yn cerdded uwchben Llantrisant.
Dwy fenyw yn cerdded mewn cae gydag awyr las.

Cerdded uwchben Llantrisant

Coedwig Brechfa, Abergorlech, Sir Gaerfyrddin

1-5 milltir – Dewiswyd gan James Williams o Ramblers Llambed

Mae teithiau cerdded Abergorlech yng Nghoedwig Brechfa yn cael eu rhedeg gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn yr hydref, gall cerddwyr ymgolli mewn coetir sy’n arddangos coed o bob cwr o’r byd. Mae’r goedwig yn cynnig cyfres o deithiau cerdded i bob gallu yn ogystal â llwybrau beicio mynydd. Mae afonydd hardd Gorlech a Chothi yn llifo gerllaw.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Rheidol, Pontarfynach, Ceredigion

Dewisiadau pellter amrywiol – Dewiswyd gan Olie Wicks, Prif Swyddog Llwybrau i Lesiant, Ramblers Cymru

Gan ddechrau o orsaf reilffordd Pontarfynach i gael mynediad i’r warchodfa, mae’r llwybr hwn yn dilyn rhan o gam 11 o lwybr cerdded Ffordd Cambria. Ar ôl cerdded i fyny’r ffordd i ffwrdd o’r orsaf, byddwch yn disgyn drwy goetir hardd i groesi afon Rheidol a mynd i waelod y dyffryn. Wrth ichi ddringo ochr arall y cwm, mae golygfeydd epig yn agor dros yr afon a’r coedwigoedd cyfagos. Taith gerdded linol yw hon, ond gallech barhau ar hyd llwybr Ffordd Cambria (llwybr cerdded sy’n cwmpasu Cymru gyfan o Gastell Caerdydd i Gastell Conwy) neu gerdded yn ôl i’r orsaf reilffordd.

Golygfeydd o afonydd a choetiroedd ar hyd llwybr cerdded Ffordd Cambria.
Golygfeydd ar draws coetir ar lwybr cerdded Ffordd Cambria

Golygfeydd ar draws coetir ar lwybr cerdded Ffordd Cambria, Ceredigion

Coetiroedd, Parc ac Arfordir, y Barri, Bro Morgannwg

3.5-5.5 milltir – Dewiswyd gan Rebecca Brough, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth Ramblers Cymru

Mae taith gerdded Llwybr Treftadaeth y Mileniwm Valeways yn llawn amrywiaeth. Mae ganddo gymysgedd gwych o olygfeydd arfordirol, coetir cysgodol, parciau ffurfiol ac ychydig o hanes lleol hefyd. Bydd eich cyfaill pedair coes yn falch o glywed ei bod yn gwneud taith gerdded dda i gŵn hefyd; mae digon i gadw diddordeb eu trwynau busneslyd ac mae nentydd y coetir a’r traeth yn cynnig dewis dyfrllyd i gŵn sy’n hoffi nofio! Mae yna hefyd rai caffis annibynnol hyfryd ar y llwybr ar gyfer lluniaeth.

Cylchdaith Y Cnicht o Groesor, Eryri

6.5 milltir – Dewiswyd gan Brân Devey, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ramblers Cymru

Gelwir Y Cnicht o Groesor yn gyffredin yn Matterhorn Cymru. Mae’r llwybr gweddol heriol hwn yn cael y gwaed i bwmpio a’r galon i gyflymu gyda’i olygfeydd panoramig o dirwedd Eryri. Ar ddiwrnod hydrefol, mae’r llwybr hwn yn cynnwys dail lliwgar yn y coetir, bryniau wedi’u gorchuddio â rhew a golygfeydd hyfryd o arfordir Cymru.

Arwydd a giât yn arwain i lwybr y Cnicht.
Golygyfeydd ger y Cnicht.
Dau berson yn cerdded ardal fynyddig gyda mynyddoedd ac arfordir yn gefndir.

Cerdded y Cnicht, Eryri

O Waunfawr i Ryd-ddu, Eryri

11 milltir – Dewiswyd gan Paula Renzel

Dyma ran hynod ysblennydd o Lwybr Llechi Eryri sy’n dilyn Adran 4 ac Adran 5. Mae’n dechrau gydag esgyniad serth drwy’r goedwig ychydig y tu allan i Waunfawr, gan fynd â chi dros rostir gyda golygfeydd panoramig trawiadol o’r Wyddfa, Ynys Enlli ac Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Mynydd Mawr, a Chefnen Nantlle.

Ar ôl mynd drwy’r Fron, mae’r llwybr yn mynd â chi drwy olion trawiadol Chwarel Dorothea, lle cyflogwyd hyd at 350 o löwyr ar unrhyw adeg rhwng yr 1820au ac 1970 pan gaewyd hi. Oddi yno, byddwch yn disgyn i Ddyffryn Nantlle ac yn dilyn llinell y llyn a’r afon yn agos, gyda golygfeydd o Fynydd Mawr o’r ochr arall. Mae rhan olaf y llwybr yn mynd â chi i fyny dros y bryn ac i lawr drwy goedwig i mewn i Ryd-ddu.

Straeon cysylltiedig