Digwyddiadau Calan Gaeaf

Digwyddiadau i roi ofn yng Nghastell Caeriw, Sir Benfro 

21 Hydref - 5 Tachwedd 2023.Ewch draw i Gastell a Melin Heli Caeriw yn Sir Benfro am hwyl teuluol, gyda digwyddiadau'n cynnwys straeon ger y tân, teithiau ysbryd sy'n addas i'r teulu a sbort Calan Gaeaf gyda tylwyth teg y goedwig.

Trenau Calan Gaeaf y Bala

28 + 30 Hydref 2023. Dewch ar daith arswydus ar Reilffordd Llyn Tegid. Bydd dau wasanaeth arbennig yn rhedeg am 5.30pm a 6.30pm o Lanuwchllyn i Glan Llyn. Mae croeso i chi wisgo i fyny!

Nosweithiau Calan Gaeaf, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

29 Hydref - 31 Hydref 2023. Dilynwch eich trwynau o amgylch Sain Ffagan i ganfod gwesteion arallfydol. Mae pob un yn gymeriadau o hanesion llên gwerin rhyfeddaf Cymru – fyddwch chi'n ddigon dewr i roi cnoc ar y drws? Mae tocyn i'r Nosweithiau Calan Gaeaf yn cynnwys creu llusern, cymysgu diod hud, crefftau Calan Gaeaf a creu gŵr gwiail bach. 

Ras 1k Calan Gaeaf Porth Eirias

28 Hydref 2023.  Mae Ras Hwyl 1k Calan Gaeaf Porth Eirias yn ras hwyliog a chyfeillgar ar hyd llwybr arfordir Gogledd Cymru i blant 4-15 oed. Mae'r llwybr 1k wedi'i farcio'n dda ac yn hynod o wastad. Mae rhedwyr yn cael eu hannog i wisgo fyny yn eu gwisgoedd Calan Gaeaf!

Trên Stêm Calan Gaeaf, Rheilffordd Talyllyn 

30 - 31 Hydref 2023. Ewch ar daith arswydus ar Drên Calan Gaeaf Talyllyn, os ydych chi'n ddigon dewr i deithio gyda'r ysbrydion.

Teithiau ysbrydion ym Maenordy Llancaiach Fawr

Yn ogystal ag ymweld â Maenordy Llancaiach Fawr a darganfod sut fyddai bywyd wedi bod yn ôl yn yr 17eg ganrif, mae yna helfeydd ysbrydion ar 31 Hydref 2023, sy’n addas ar gyfer pobl ifanc 12 - 16 oed. Ar gyfer plant iau, mae Gweithdy Moddion Calan Gaeaf ar 1 Tachwedd 2023. 

Castell Fonmon, Y Barri

Yn ogystal â mwynhau Castell Fonmon yn ystod y dydd, bydd hwyl gyda'r nos, gyda llwybr ofnus Calan Gaeaf rhwng 14 a 31 Hydref 2023.

Llun gyda'r nos gyda goleuadau ac arwydd 'Haunted Mansion' uwchben giât.

Castell Fonmon, Bro Morgannwg

Pigo pwmpen eich hun

Mae ffermydd ledled Cymru yn cynnig profiadau pigo pwmpen eich hun. Ymhlith y ffermydd mae Picking Patch Porthcawl a The Black Cat Pumpkin Patch, Llanelli.

Mae 20 math o bwmpen a drysfa Calan Gaeaf yn y Pumpkin Picking Patch yng Nghaerdydd. Mae gan Fferm Bwmpen Sir Benfro llwybr yn y ddôl flodau wyllt, ac mae plant yn gallu chwarae cuddio ymhlith y bêls gwair ac ymweld â'r ardal goediog am brofiad Calan Gaeaf.

Mae gan Cardiff Pumpkin Festival dros 30,000 o bwmpenni o bob siâp a digon o adloniant i’r teulu ac mae gan Vale Pick Your Own llawer o gyfleoedd i dynnu lluniau, gyda sesiynau dydd a min nos.

Yn y gogledd mae Fferm y Brodyr Bellis ger Wrecsam a Hooton's Homegrown yn Ynys Môn. Mae Fferm Manorafon Abergele yn trefnu digwyddiad dychrynllyd i'r teulu oll! Mae pris mynediad yn cynnwys pwmpen am ddim gyda phob tocyn plentyn, mynediad i’r gweithgareddau a pharc y fferm. 

 

Teulu yn cael llun wedi'i dynnu gydag arddangosfa pwmpen.
Babi mewn gwisg pwmpen yn eistedd ar wellt.
Person a phlentyn yn edrych ar ferfa llawn pwmpen.

Vale Pick Your Own, Bro Morgannwg

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

28 Hydref - 05 Tachwedd 2023. Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau mewn amgueddfeydd ledled Cymru. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys gwyddoniaeth, crefftau, darlithoedd a sesiynau cadwraeth.

Digwyddiadau Cadw

Mae sawl un o safleoedd Cadw yn cynnig digwyddiadau ar thema Calan Gaeaf. Mae'r manylion i gyd ar wefan Cadw

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mwynhewch deithiau cerdded teuluol hydrefol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac ewch i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, cartref i dros 20 o adar ysglyfaethus brodorol gan gynnwys hebogiaid, barcutiaid, bwncath ac eryr aur.

Mae amserlen lawn o ddigwyddiadau Calan Gaeaf rhwng 28 Hydref – 3 Tachwedd gan gynnwys Sioeau Hud Gwych, sesiynau gwneud hudlath helyg a gwehyddu gwe pry cop a Dawns Calan Gaeaf. 

Hwyl hanner tymor ym Mharc Gwledig Margam

Mae amryw o weithgareddau i'r teulu ym Mharc Margam, gan gynnwys nosweithiau sinema yn yr awyr agored a gweithgareddau Calan Gaeaf. 

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Ewch am dro i un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae llawer o deithiau cerdded yr hydref a diwrnodau allan gwych i'r teulu.

 

Dail yr hydref

Dail yr hydref

Rhowch gynnig ar ap Llwybr Arfordir Cymru

Trwy'r wythnos, ar draws Cymru

Mae technoleg a'r awyr agored wych yn dod ynghyd yn ap Llwybr Arfordir Cymru am ddim ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru 870 milltir. Mae'n defnyddio realiti estynedig i ddod â'r arfordir yn fyw. Defnyddiwch hi i ddatgelu chwedlau drwy ddysgu rhyngweithiol, chwarae gemau addas i deuluoedd a chrwydro llwybrau i bwyntiau arbennig o ddiddordeb ar hyd arfordir Cymru. Edrychwch ar wefan Llwybr Arfordir Cymru am deithiau cerdded sydd wedi’u cynllunio i’ch ysbrydoli i fwynhau’r llwybr.

 

Llwybr pen clogwyn ger y môr.
Borth Y Gest o'r awyr
Traethlin Bae Oxwich

Llwybr Arfordir Cymru - Porth Ceiriad, Penrhyn Llŷn, Borth y Gest ger Porthmadog a Bae Oxwich, Gŵyr

Straeon cysylltiedig