Amgueddfeydd ac atyniadau hanesyddol sy’n cynnig dehongli BSL

Amgueddfa Caerdydd

Mae Amgueddfa Caerdydd yn adrodd hanes y brifddinas o’r dyddiau cynnar, drwy chwyddiant diwydiannol y gwaith glo, hyd heddiw. Mae yno arddangosfeydd difyr a phersonol yn aml iawn – offerynnau cerdd, dillad, llestri gorau, a hyd yn oed arfau! Mae teclyn tywys symudol ar gael â mynediad at BSL a sain ddisgrifiad. Mae system dolen sain symudol ar gael hefyd.

Llun agos o sgrin teclyn tywys clyweledol symudol
Tri o blant yn defnyddio teclynnau tywys clyweledol symudol mewn amgueddfa

Teclynnau tywys clyweledol â dehongli BSL yn cael eu defnyddio yn Amgueddfa Caerdydd

 

Castell Caerdydd

Mae Castell Caerdydd yn gadael i chi archwilio o gyfnod y Rhufeiniaid hyd heddiw.

Mae yno orthwr Normanaidd uchel, ystafelloedd wedi eu haddurno’n ysblennydd, olion Rhufeinig a llochesi rhyfel. Gallwch chi orffen eich trip drwy fynd am dro ar hyd y waliau bylchog neu fynd am baned i gaffi’r castell. Mae tywysydd sain y gallwch chi ei lawrlwytho am ddim i’ch ffôn sy’n cynnwys dehongli BSL.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Caiff treftadaeth ddiwydiannol a morwrol Cymru ei harchwilio yma gydag arddangosfeydd i ymgolli ynddynt a phob math o beirianwaith cadarn wedi ei osod mewn arddangosfa fodern yn ardal forwrol fywiog Abertawe. Mae BSL ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn yr oriel a’r arddangosfa â dehonglydd BSL yn rhan o’r cyflwyniadau fideo.

Injan stêm ddiwydiannol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe

Theatrau a lleoliadau sy’n cynnig BSL

Hafren, Y Drenewydd

Mae Hafren yn lleoliad modern â 500 o seddi sy’n cynnal digwyddiadau theatr, cerddoriaeth fyw, adloniant i’r plant, sioeau cerdd a chomedi. Mae mynediad hygyrch gwych i bobl anabl ac mae amryw o berfformiadau yn cynnwys dehongliad BSL. Gallwch holi yn y swyddfa docynnau ynghylch y seddi gorau. Mae yma hefyd berfformiadau â chapsiynau byw, sain ddisgrifio a system dolen sain o ansawdd uchel i gynorthwyo rhai â chymorth clyw – mae clustffonau ar gael am ffi fechan.

Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Wedi ei leoli yng nghanol tref y Coed Duon, gellir olrhain hanes Sefydliad y Glowyr yn ôl i oes y diwydiant glo. Heddiw mae’r adeilad hanesyddol â’i waliau cerrig crand yn gartref i gomedi, drama, dawns a cherddoriaeth, a hynny mewn awditoriwm â 400 o seddi. Mae yno setiau pen a system dolen sain yn ogystal â nifer gynyddol o sioeau yn cynnwys BSL. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i gyflwyno capsiynau byw.

Theatr y Grand, Abertawe

Mae Theatr y Grand yn lleoliad hyfryd ac atmosfferig sy’n cynnig drama, sioeau cerdd, comedi a cherddoriaeth fyw. Mae’r brif theatr yn arbennig o hardd gyda’i horielau goreurog a’i seddi o felfed moethus, tra bo’r adain gelfyddydau newydd yn cynnig gofod stiwdio ac orielau modern. Mae nifer o’r cynyrchiadau mwyaf yn cynnig perfformiadau â dehongli BSL a sain ddisgrifio.

Arena Abertawe

Saif Arena Abertawe yng nghanol parc arfordirol newydd y ddinas, Bae Copr. Mae lle i 3500 o bobl yn yr awditoriwm anferth, ond mae hefyd modd ei rannu’n ofodau llai er mwyn cynnal digwyddiadau llai. Mae nifer o sioeau yn cynnwys perfformiadau hygyrch â seddi mewn lleoliad penodol ar gyfer capsiynau a BSL.

Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

Gyda’i do dur sgleiniog, mae Canolfan y Mileniwm yn gartref balch i’r byd perfformio yng Nghymru ac mae’n llwyfannu perfformiadau opera, sioeau cerdd, theatr a chomedi. Mae cwmni theatr Hijinx, sy’n gweithio gydag artistiaid ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, hefyd wedi ei leoli yma. Mae rhai perfformiadau penodol yng Nghanolfan y Mileniwm yn cynnwys dehongli BSL â seddi penodol i gael yr olygfa orau. Mae capsiynau, isdeitlau ar gyfer operâu a setiau pen sy’n cynyddu’r sain hefyd ar gael. Gallwch chi chwilio drwy’r sioeau yn ôl anghenion hygyrchedd ar y wefan.

Grŵp o bobl yn y cyntedd mewn canolfan gynadledda fodern
Tri pherson ifanc yn eistedd ar hyd adeilad cladin dur trawiadol

Golygfeydd o’r tu mewn ac o du allan Canolfan y Mileniwm

Theatr y Sherman, Caerdydd

Wedi ei leoli yn ardal Cathays, Caerdydd, mae’r Sherman yn canolbwyntio ar feithrin talentau ysgrifennu ac actio yng Nghymru. Mae dau ofod perfformio yma – awditoriwm sy’n dal 468 o bobl a stiwdio lai ar gyfer 163 o bobl. Mae’r cynyrchiadau yn amrywio o Shakespeare i ffefrynnau’r plant fel Elen Penfelen, dramâu modern gafaelgar a theatr LGBTQ. Mae nifer o’r cynyrchiadau yn cynnwys capsiynau ac yn cael eu harwyddo gan ddehonglydd BSL. Gallwch chwilio drwy’r perfformiadau yn ôl anghenion hygyrchedd ar y wefan.

Digwyddiadau a chwmnïau cynhyrchu sy’n cynnig BSL

Stiwdios BBC Cymru, Caerdydd

Mae teithiau y tu ôl i'r llenni yn stiwdios darlledu BBC Cymru yn cymryd lle yn yr ystafell newyddion enfawr, yn llawn technoleg glyfar gan gynnwys camerâu realiti estynedig a robotig. Cewch hefyd olwg yn yr orielau teledu ac yn darganfod sut mae rhaglenni radio a theledu'r BBC yn cael eu creu. Mae'r teithiau tywys hyn ar gael yn BSL yn ogystal â'r Gymraeg a'r Saesneg. Gallwch sicrhau lle trwy ffonio 029 2087 8444. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan teithiau'r BBC.

Pride Cymru

Caiff Gŵyl Pride Cymru ei chynnal yn flynyddol yng Nghaerdydd. Mae’n ddathliad a hanner i’r gymuned LGBTQ ac mae croeso i bawb. Mae’n cynnig cerddoriaeth ar dri llwyfan gwahanol, stondinau marchnad, y parêd ac adloniant i blant. Mae’r digwyddiad yn un sy’n ymrwymo i’r syniad o fod yn gynhwysol ac mae llawer o ddigwyddiadau hygyrch i’w mwynhau. Mae’r rhaglen hyd yn oed ar gael ar ffurf fideo BSL. Yn y gorffennol cafwyd Gofod Cymunedol Pride Cymru Byddar oedd yn cynnig paentio wyneb, gweithdai dawns, gweithdai BSL a pherfformiadau gan Deaf Rave a’r perfformiwr byddar sy’n arwyddo caneuon, Fletch@.

Llun agos o ddyn yn gwisgo dillad llachar ac yn gwenu fel giât
Dynes yn gwenu yn gwisgo mwgwd o liwiau’r enfys a phenwisg o blu
Brenhines ddrag â wig gwallt golau, blew amrannau ffug a barf wedi ei liwio

Mwynhau yn Pride Cymru, Caerdydd

Green Gathering

Yn ŵyl pedwar diwrnod sy’n canolbwyntio ar fyw heb adael effeithiau ar y blaned, mae Green Gathering yn cynnig cerddoriaeth, creadigrwydd a llond lle o ysbryd cymunedol. Mae llwyfannau solar yn rhoi llwyfan i ffefrynnau enwog, DJs a chwedleuwyr hudolus. Mae nifer o’r sgyrsiau yn y Fforwm Siaradwyr, y perfformiadau adrodd a’r perfformiadau cerddorol yn cynnig dehongli BSL a gallwch chi ofyn am wirfoddolwr BSL i ddehongli digwyddiadau eraill. Mae’n amodol ar argaeledd, felly rhowch wybod iddyn nhw ymlaen llaw. Mae dolenni sain ar gyfer cymhorthion clyw hefyd ar gael yn y Swyddfeydd Tocynnau, yn y Fforwm Siaradwyr a’r Llwyfan Solar Soundscape.

Taking Flight

Mae tîm Taking Flight yn llwyfannu cynyrchiadau theatr cyffrous yn cynnwys perfformwyr byddar, anabl a rhai sydd ddim yn anabl i gyd ynghyd. Mae’r cynyrchiadau yn teithio ledled Cymru a thu hwnt. Ochr yn ochr â’r cynyrchiadau, maen nhw’n hyfforddi pobl sy’n uniaethu fel byddar neu anabl ar gyfer gyrfaoedd mewn theatr a chynhyrchu. Mae eu cynyrchiadau i gyd yn cynnig dehongli BSL, sain ddisgrifio a chapsiynau. Am ragor o wybodaeth, ewch draw i wefan Taking Flight.

Rhagor o wybodaeth am BSL yng Nghymru

Mae HYNT yn gynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. Gallwch chi wneud cais am gerdyn aelodaeth sy’n gadael i chi fynd â gofalwr gyda chi am ddim i sioeau. Mae gwybodaeth hefyd am leoliadau sy’n cynnig dehongli BSL a chynlluniau mynediad eraill ar wefan HYNT.

Yn gyffredinol, mae lleoliadau yn cynnig dehongli BSL ar gyfer perfformiadau penodol yn unig – bwciwch ymlaen llaw a ffoniwch i wneud yn siŵr ei fod ar gael.

Bydd rhagor o leoliadau a digwyddiadau yn cael eu hychwanegu i’r rhestr wrth inni ddod i wybod amdanyn nhw. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw rai nad ydyn ni wedi sôn amdanyn nhw, rhowch wybod i ni.

Dyn yn dehongli mewn BSL ar dir Castell Caerdydd

Dehonglydd BSL yn perfformio’r anthem genedlaethol ar dir Castell Caerdydd

Straeon cysylltiedig