Te prynhawn yn y gogledd
The Lemon Tree, Wrecsam
Os mai’ch syniad chi o brynhawn bendigedig yw un llawn cacennau bach Espresso Martini, ynghyd â dewis di-ail o goctels anarferol, ewch am dro i’r Lemon Tree Restaurant with Rooms. Dyma fwyty sydd wedi ennill gwobrau niferus, a hynny mewn adeilad neo-Gothig rhestredig Gradd II o oes Fictoria, nepell o ganol tref Wrecsam. I weld y fwydlen a chadw lle, ewch i wefan y Lemon Tree.
Tŷ Gwledig Plas Dinas, Caernarfon
Wrth fwynhau te prynhawn yn Nhŷ Gwledig Plas Dinas, bydd y profiad yn un hamddenol a braf, gyda faint fynnwch chi o frechdanau a the a choffi, ynghyd â danteithion amheuthun. Fe gewch chi fwynhau’r rhain yn yr ystafell ymlacio neu yn yr ystafell fwyta. Enillodd y Gunroom hefyd y wobr am y lle bwyta gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru '25, felly rydych chi’n gwybod y byddwch chi’n cael profiad heb ei ail yma. I’r rheini sy’n dymuno creu atgofion gydol oes, mae cyrraedd ar hofrennydd yn opsiwn ychwanegol!


Porth Eirias, Bae Colwyn
Beth am de prynhawn ar lan y môr ym mwyty Porth Eirias Bryn Williams ym Mae Colwyn? Mae’r bistro hwn, sydd dafliad carreg o’r traeth, wedi ennill gwobr Michelin Bib Gourmand dair blynedd yn olynol am ‘fwyd eithriadol o dda am brisiau rhesymol’. Mwynhewch ddetholiad o frechdanau a chacennau gyda jam cartref a phob math o ddanteithion melys, ynghyd â the, coffi neu wydraid o Prosecco i’w golchi nhw i lawr.
Gwesty Neuadd y Palé, Y Bala
Gwesty gwledig hyfryd ger y Bala yw Gwesty Neuadd y Palé. Mae’n defnyddio cynnyrch tymhorol ffres o ansawdd gwych. Yn ystafell giniawa braf Henry Robertson mae’r awyrgylch yn berffaith i fwynhau gwledd o de prynhawn moethus. Mae croeso i blant hefyd.
Neuadd a Sba Bodysgallen, Conwy
Yn ôl The Times, mae te prynhawn Neuadd Bodysgallen ymhlith y gorau yn y wlad. Ewch ati i ddifetha’ch hun a’ch gwesteion gyda gwydryn pefriog o Prosecco ar y teras neu yn yr ystafelloedd ymlacio hyfryd.

Caffi Florence, Yr Wyddgrug, Sir Ddinbych
Dyma le modern, crand yn nhir Parc Gwledig Loggerheads. Mae tîm Caffi Florence yn gwirioni ar bobi – cymaint felly nes eu bod nhw’n barod i rannu rysáit neu ddau â chi. Mae eu te hufen prynhawn, sy’n cael ei greu â chynhwysion lleol, wastad yn flasus ryfeddol.
Te prynhawn yn y canolbarth
Gwesty’r Falcondale, Llanbedr Pont Steffan
Ar ôl bore prysur yn crwydro Dyffryn Teifi, beth well na the prynhawn yng Ngwesty'r Falcondale i ymlacio mewn steil yng nghefn gwlad? Mae’r gwesty gwledig rhestredig Gradd II, a godwyd yn oes Fictoria, wedi ennill dau o rosglymau’r AA ac mae’r fwydlen yn manteisio’n helaeth ar gynnyrch lleol. Ymhlith danteithion y te prynhawn mae brechdanau cyw iâr a mayonnaise taragon, tartledi perlysiau’r gwanwyn, a theisennau brau mefus a siocled. Mae bwydlen i blant hefyd, a digonedd o le yn y gerddi braf i ymestyn y coesau wedyn.
Neuadd Llangoed, Llys-wen, ger Aberhonddu
Fe gewch chi fwynhau te prynhawn o’r iawn ryw yng ngwesty gwledig Neuadd Llangoed. Ymhlith yr arlwy mae brechdanau bysedd pysgod ffres a sgons cartref, a’r rheini wedi’u gweini ar y llestri tsieina gorau. Mae siampên blodau’r ysgaw neu jin ar gael hefyd.
The Hive, Aberaeron
Fe gewch chi dipyn o olygfa dros yr harbwr yn The Hive. Beth am glamp o hufen iâ ar ddiwrnod heulog o haf, neu swatio wrth y tân os bydd niwl o’r môr? Boed chi’n gynnes braf y tu mewn, neu’n mwynhau’r awyr iach y tu allan, dyma le heb ei ail am de hufen a bwyd cartref.

Gwesty Llyn Efyrnwy, Llanwddyn
Ymlaciwch gyda the prynhawn penigamp yn awyrgylch hudolus Gwesty a Sba Llyn Efyrnwy yn Llanwddyn, Powys. Yma, fe gewch chi wir hamddena wrth fwynhau tawelwch Llyn Efyrnwy. Bydd digonedd o frechdanau ffres a sgons ar gael hefyd, a’r cyfan gyda golygfeydd godidog o’ch blaen.
Te prynhawn yn y gorllewin
Quayside Tearoom, Lawrenni, Sir Benfro
Mae’r gwobrau sydd wedi dod i ran y Quayside Tearoom yn ddi-ben-draw, ac mae’r golygfeydd yr un mor arbennig â’r danteithion o’r gegin. Ble well i fwynhau te yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro? Dewch i weld hefyd pam fod y bwyd lleol gwych sydd yma (gan gynnwys cimychiaid a chrancod) wedi bod yn rhan fawr o lwyddiant y bwyty.
Gwesty a Sba’r Cliff, Gwbert
Beth am fwyty sy’n edrych draw dros y môr? Mae Gwesty a Sba’r Cliff yn cynnig te prynhawn ym mwyty Carreg, gyda holl ysblander Bae Ceredigion yn ymestyn o’ch blaen. Mae sawl opsiwn blasus yn rhan o’r arlwy, gan gynnwys te hufen, te o Gymru, a the prynhawn llawn, traddodiadol. Mae opsiynau llysieuol a figan ar gael hefyd, ynghyd â bwyd i blant. I ddifetha’ch hun, maen nhw’n cynnig pecyn sba dwy awr arbennig.
Grove of Narberth, Sir Benfro
Gwesty moethus bychan yw’r Grove of Narberth, a hwnnw i’w ganfod ym mherfeddion Sir Benfro. Fe gewch chi fwynhau te prynhawn y tu mewn neu yng ngerddi hyfryd y gwesty. Ymhlith y dewis mae cacennau cartref, teisennau a brechdanau, ynghyd â detholiad helaeth o de. Croeso i chi gael gwydryn bach o siampên neu jin lleol hefyd!

Bwyty Black Pool Mill, Arberth, Sir Benfro
Dewch i gael gwledd o frechdanau, bwydydd sawrus a danteithion melys ym Mwyty Black Pool Mill, Arberth, Sir Benfro. Mae te a choffi ar gael, wrth gwrs, neu beth am wydraid bach o Prosecco? Mae dewisiadau heb glwten ac opsiynau figan hefyd ar gael.
Te prynhawn yn y de
Gwesty’r Angel, Y Fenni
Dim ond llond llaw o lefydd y tu allan i Lundain sy’n perthyn i Gyngor Urdd Te Prydain. Mae Gwesty’r Angel, a’i adeilad Sioraidd llawn steil, yn un o’r rheini. Yn wir, mae wedi ennill un o wobrau’r cyngor am y te prynhawn gorau ynghyd â’r wobr ragoriaeth. Bydd pobwyr y gwesty’n paratoi’u danteithion arbenigol yn ffres bob bore. Dewch i weld pam fod y lle hwn mewn cwmni mor freintiedig drwy fwynhau te mawr, ac mae’r dewis o wahanol fathau o baneidiau’n helaeth dros ben.


Gwinllan Llanerch, Bro Morgannwg
Dewch i fwynhau cynnyrch tymhorol yn ystafell ardd fendigedig Gwinllan Llanerch, neu mewn ardal sy’n croesawu cŵn ac iddi olygfeydd gwych o’r winllan. Mae tair rhan i’r te – cacennau, sgons a brechdanau – ynghyd â llechen o bethau sawrus.
Neuadd Llechwen, ger Pontypridd
Plasty o ddechrau’r ddeunawfed ganrif yw Neuadd Llechwen. Mae’r golygfeydd o gefn gwlad yn werth eu gweld ac mae’r lle’n dipyn o drysor cudd. Mae’r te prynhawn yn cynnwys cacennau hufen Cymreig cartref a rhywbeth bach melys arbennig gan y cogydd. Fe gewch chi fwynhau’r danteithion hyn ar y teras pan fydd hi’n braf, neu ym mar cysurus y lolfa. Mae bwydlen figan ar wahân ar gael hefyd.
Caerdydd
Os byddwch chi’n dod i Gaerdydd am hoe fach neu drip siopa, beth am ymlacio dwy drefnu te prynhawn hefyd? Mae sawl lle i ddewis o’u plith, gan gynnwys moethusrwydd Gwesty’r Parkgate ar Heol y Porth, dafliad carreg o’r holl siopau. Neu ewch i ddifetha’ch hun gyda the prynhawn godidog yn voco® yng ngwesty 5 seren Dewi Sant ym Mae Caerdydd. Mae yno ddewis da o gacennau a brechdanau, a’r rheini’n defnyddio cynnyrch lleol. Fe gewch chi sawl math gwahanol o de neu beth am wydraid bach o rywbeth pefriog? Mae Waterloo Tea, wedyn, yn cynnig te prynhawn cwbl glasurol. Mae opsiwn figan yno hefyd. Mae’u holl ganghennau yng Nghaerdydd a Phenarth yn cynnig te prynhawn, ac mae talebau rhodd ar gael hefyd.
