Red Boat Ice Cream Parlour, Biwmares

Tai pastel hardd, lliwiau hufen iâ, sy’n eich croesawu chi i dref Biwmares. Ac yng nghanol y dref, mae 'na barlwr o’r nef yn gwerthu hufen iâ gelato lleol. Dysgodd y perchennog Tony Green y grefft ym Mhrifysgol Carpagnini, cyn sefydlu hwb hufen ia yn Llangefni. Ymysg y blasau lleol i Fôn yn Red Boat mae Bara Brith a Charamel Halen Môn. Os am flas hyfryd o hafaidd ewch am y sorbet Prosecco a mefus. Be well ar ymweliad â’r fam-ynys?

Forte’s, Llandudno

Mae ymweld â Forte’s Llandudno fel mynd ar wibdaith ’nol mewn amser; mae’r parlwr retro yn drysor cenedlaethol! Daeth Onorio Forte i Landudno o Mortale yn Lazio, gan agor y caffi yn 1926. Ei ŵyr David sydd yng ngofal y cwmni erbyn hyn, ac mae’n parhau i gynnig blasau i blesio. Ymysg ffefrynnau poblogaidd mae’r clasuron cysurlon ‘Rum and Raisin’ a Fanila – a cheir dewis da o ‘Sundaes’ ar hyd yr wythnos. Ond os am brofi dawn y cwmni i barhau i arloesi, beth roi tro i’r blas mascarpone gyda ffigys wedi’u carameleiddio – enillydd seren aur gwobrau Gwir Flas.

Cadwaladers, Cricieth

Un o draethau gorau Cymru am nofio yw Cricieth yn Eifionydd – a cheir golygfa wych o’r castell o lan y môr. Ond yr olygfa orau oll, wedi trochi trwy’r prynhawn, yw’r parlwr hufen iâ sydd gerllaw! Mae hufen iâ Cadwaladers yn adnabyddus ledled Cymru – ceir canghennau yn Ninbych y Pysgod, Betws-y-coed, Porthmadog, Caerdydd, Porthcawl a’r Barri. Ond mae’r siop wreiddiol a sefydlwyd yn 1927 wir yn haeddu pererindod. Erbyn hyn, ceir dewis eang – gan gynnwys hufen iâ heb glwten, a sorbets figanaidd yn ogystal. Ond am flas o rysait gwreiddiol Hannah Cadwalader ei hun, ewch am fanila – y clasur go iawn.

Lan y môr Cricieth gyda thywod euraidd a phobl yn mwynhau ar y traeth. Mae'r môr a'r awyr yn las a gellir gweld Castell Cricieth ar graig yn y pellter.

Traeth a Chastell Cricieth

Hufenfa’r Castell, Harlech

Un o gyfrinachau gorau Gwynedd yw’r parlwr hufen iâ ger castell Harlech. Un ffordd o gyrraedd Hufenfa'r Castell yw cerdded i fyny Ffordd Pen Llech, sef un o strydoedd fwyaf serth y byd! Yno mae un o’r blasau mwyaf danteithiol yng Nghymru – ‘sea buckthorn’ neu rafnwydden y môr. Dim ond un o’r cnydau lleol sy’n tyfu ar hyd y llwybr arfordirol yw’r ffrwyth bach oren, chwerwfelys hwn. Yn wir, mae cwsmeriaid lleol Harlech yn aml yn cyfnewid cynhaeaf eu gerddi neu randiroedd am gyflenwad da o hufen iâ. Felly pan flaswch chi’r hufen iâ riwbob, eirin Mair, llus neu ysgawen, cofiwch mai’r gymuned sydd wrth galon yr awen.

Cytiau Llaeth Cymru

Nid hufen iâ yn unig sy’n torri’r ias ar ddiwrnod braf; ystyriwch ysgytlaeth o un o gytiau llaeth cynyddol Cymru. Cynhyrchir llaeth organig Teulu Jenkins gan eu gyrr o wartheg Holstein, sy’n pori uwchlaw Cors Fochno ac aber yr afon Dyfi. Fe welwch chi’u poteli gwydr llaeth ar werth mewn siopau lleol fel canolfan Cletwr, ond ystyriwch hefyd alw heibio eu cytiau llaeth ym Machynlleth ac Aberystwyth. Archebwch ysgytlaeth banana am £1.50 o’u peiriant ‘Cwtsh Llaeth’ ger Lolfa Athro, Aberystwyth. Bendigedig! Gwyliwch allan am gytiau llaeth eraill fel Gwarffynnon (Llwynycelyn a Llanbedr Pont Steffan), Llaethdy Llwyn y Banc (Llanrhaeadr, ger Dinbych) a’r Stand Laeth (Abergorlech, Sir Gaerfyrddin) – i enwi ond rhai!

Caffi Patio, Llangrannog

Oes lle sy’n fwy cysylltiedig ag atgofion plentyndod na thraeth Llangrannog yn Ne Ceredigion? Ewch yno i gael eich taro gan don o nostalgia yng nghysgod Carreg Bica. Yna sglaffiwch hufen iâ gan Julia a Mervyn o Gaffi Patio ar lan y môr. Sefydlwyd y caffi gan dad Julia yn 1972, gan weini sgod a sglods a hufen iâ Walls. Ond ar droad y Mileniwm, penderfynodd Julia a Mervyn i gynhyrchu eu hufen iâ ffres eu hunain. Ymysg y blasau mae eu ffefrynnau, ceirios gwyllt, eirin gwlanog a Key Lime Pie. Mae’r lle yn andros o boblogaidd, felly ewch yno’n ddigon cynnar – am flas anhygoel a sgwrs dda yn y Gymraeg.

Llun o'r awyr o draeth Llangrannog
Awyrlun o draeth Llangrannog, y môr a'r adeiladau cyfagos.

Llangrannog, Ceredigion 

Conti’s, Llanbedr Pont Steffan

Oes oes un blas hufen iâ cyfoes sydd wedi cydio yn ysbryd ein hoes yna blas ‘caramel hallt’ yw hwnnw. A chewch chi ddim enghraifft well o’r briodas rhwng y melys a hallt nag yn Conti’s, Llanbedr Pont Steffan. Ond nid Arthur, y penteulu - a fudodd o Bardi i Gymoedd De Cymru - sy’n gyfrifol am y llwyddiant diweddar hwn. Na chwaith Leno ei fab – efe sefydlodd y caffi yn Llambed yn 1947; hufen iâ mwyaf poblogaidd ei gyfnod ef oedd y ‘Coke Float’. Tom Conti, ŵyr Leno, a gor-ŵyr Arthur sy’n gyfrifol am lwyddiant diweddar y teulu – a nifer o flasau eraill, fel wisgi Penderyn. Mae tybiau hufen iâ Conti’s ar werth ledled Cymru – ac ar gael yn lleol yn Watson and Pratt’s a chaffi Conti’s yn Llanerchaeron. Ond am dro traddodiadol ar flas cyfoes y caramel hallt, ewch i’r caffi ac archebwch Affogato. Buonissimo!

Llanfaes Dairy, Aberhonddu

Tra’n teithio ar hyd yr A470, cofiwch oedi am hufen iâ ar gyrion Aberhonddu. Ym 1995, ehangodd Paul ac Eirlys Cole eu siop gornel yn Llanfaes i gynnwys parlwr hufen iâ. Ond cymaint oedd y galw gan ymhelwyr o bell ac agos mai dim ond hufen iâ a werthir yno ers 2003! Cynhyrchir mil o litrau o hufen iâ yno bob dydd dros fisoedd yr haf – a 42 gwahanol flas. Ymysg y blasau newydd ar gynnig y mae Sorbet Pimms a Cola Ceirios, a’r ysgytlaeth Biscoff sy’n boblogaidd gyda phlant yr ysgol leol! Ciwich yn y cnawd, neu archebwch ar yr ap. Byd o bleser a brofwch chi, wap!

Joe's

Roedd 2022 yn nodi canrif o gynhyrchu hufen iâ Joe’s ar Heol San Helen, Abertawe. Fe ffeindiwch chi Joe’s ar werth yn Harrod’s, Caerdydd a Llanelli – lle mae’r plantos yn gwirioni ar flas y bybl gym glas! Ond am bererindod flasus, trowch at siop wreiddiol y sylfaenydd – Luigi Cascarini, a enwodd ei gwmni ar ôl ei fab Guiseppe, neu Joe, i bawb yn Abertawe.

Dilynwch Lowri Cooke ar Instagram am fwy o wybodaeth ac ysbrydoliaeth am gwmnïau bwyd a diod o Gymru.

Straeon cysylltiedig