Dwi’n teimlo’n ffodus iawn cael byw ar lan y Fenai yn Felinheli. Mae hi’n braf swatio rhwng Bangor a Chaernarfon - dau le mor wahanol, ond y ddau yn cynnig llu o brofiadau bywiog. O fewn cyrraedd hawdd hefyd mae traeth Dinas Dinlle a’i olygfeydd hardd o Lŷn, hen bentref chwarel Bethesda a phentref Llanberis ar lannau Llyn Padarn. Da ni fel teulu yn trio gwneud y mwya’ o’n cyffiniau ac wedi syrthio mewn cariad gyda bywyd a bwyd ein bro. Un o’n hoff bethau ydi cefnogi (a bwyta!) cynnyrch lleol. Dyma rai o’n hoff lefydd sy’n gweini neu’n gwerthu cynnyrch Gwynedd ar ei orau.
Llofft, Y Felinheli
Da ni’n ffodus iawn bod yr hen lofft hwyliau ar y ffrynt wedi cael ei ddatblygu’n gaffi bar a bwyty braf, modern a chroesawgar. Mae’r fwydlen yn gweini cynnyrch tymhorol lleol er enghraifft cawl brocli gyda chroutons tofu, cig oen Cymreig, a phlatiau o gaws Cymreig. Mae Lloft ar agor bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul, a ‘sa ddim lle gwell i fwynhau panad neu wydriad o win wrth wylio’r cychod yn mynd heibio.
![Prydau bwyd - cawl gwyrdd a phlatiad o salad - ar fwrdd pren. Mae gwin a dŵr ar y bwrdd hefyd.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2023-09/DSC01237%20%281%29.jpg?h=0bc8bfcd&itok=JMYZNe_m)
![Aelod o staff tu ôl i far pren gyda choffi arno. Ar gefn crys-t y person mae enw'r bwyty - Llofft.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2023-09/DSC01332%20%281%29.jpg?h=0bc8bfcd&itok=IMPizpIs)
![Bwrdd crwn a chadeiriau pren gyda chlustogau gwlân mewn cornel bwyty. Mae llyfr, blodau a phaned ar y bwrdd.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2023-09/DSC01311%20%281%29.jpg?h=0bc8bfcd&itok=8wP8xuIb)
Braf, Dinas Dinlle
Caffi ar lan y môr Dinas Dinlle yw Braf sy’n gwerthu bwyd tymhorol, cacennau cartref a choffi Poblado. Ond mae Braf yn fwy na chaffi - mae’n ofod cymunedol croesawgar sy’n trefnu llu o ddigwyddiadau a’n croesawu grwpiau i gynnal gweithdai yn eu stiwdio - o ddawns i ioga i sesiynau sensori babi. Mae menter y ddwy ffrind o Ddyffryn Nantlle, Cadi ac Anwen, hefyd yn trefnu clybiau swper yn gweini platiau bach steil Tapas yn defnyddio pysgod lleol a llysiau tymhorol.
![Person yn dal bocs o lysiau ffres mewn caffi. Mae'r person yn gwisgo crys-t glas tywyll gyda'r gair BRAF arno.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2023-09/DSC05394%20%281%29.jpg?h=1c9b88c9&itok=JaHGW8ek)
![Salad lliwgar mewn powlen ar fwrdd gyda lliain bwrdd sgwariau glas a gwyn. Mae diod gyda leim wrth ei ochr.](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__landscape__2_1x/public/media-library/2023-09/DSC03040%20%281%29.jpg?h=1c9b88c9&itok=6YTp2dVg)
Bonta Deli, Caernarfon
Da ni’n mwynhau defnyddio llwybr beics Lôn Las o’r Felinheli i Gaernarfon, rhan o Lwybr yr Arfordir, yn aml. Pan mae digonedd o amser, mae’n braf ei ddefnyddio i nôl neges, neu ymweld â theulu, yn hytrach na neidio i’r car. Yn ddi-ffael, fyddwn ni’n cael ‘pit-stop’ yn Bonta Deli sydd ar Stryd Twll yn y Wal yng Nghaernarfon. Mae’r deli yma fel ogof Aladdin, llawn danteithion hyfryd. Mae’r cynnyrch yn gymysgedd o’r gorau o’r Eidal a Chymru, partneriaeth berffaith yn fy marn i! Mae’r coffi yn anfarwol, ac er mwyn cefnogi busnes lleol… mae’n rhaid cael cacen neu pastry melys yn does?! Mae’r cannoli, y pasta de nata, y gacen gaws, y meringue, y gacen siocled a’r cwcis yn rhai o’n ffefrynnau.
Swellies, Y Felinheli
Mae lleoliad Swellies yn ddigon i’ch temtio ynddo’i hun – ar ddiwrnod braf o haf mi fedrwch chi’n hawdd ei gam-gymryd am farina yn Ne Ffrainc. Mae byrddau bach wedi’u gosod ar lan y marina yn cynnig lle perffaith i fwyta bwyd tec-awê wrth wylio’r hwyaid a’r cychod yn mynd a dŵad. Cynnyrch lleol Cymreig wedi ei baratoi’n dda ydi cyfrinach Swellies. Bara ffres lleol, wyau o Ben Llŷn, cig gan y cigydd lleol Tom Hughes, cacennau o Fangor gan Amy’s Kitchen, cwrw o Fragdy Lleu a hyd oed te dail rhydd o Gymru!
![Bag papur brown gyda logo Swellies, tri blwch bwyd a mwg coffi melyn ar fwrdd pren gyda chwch ar y dŵr yn y cefndir](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_small__16_9_1x/public/media-library/2021-01/Swellies%20with%20logo.jpg?h=1c9b88c9&itok=-qxUcYco)
Tyddyn Teg, Bethel
Fferm ffrwythau a llysiau wedi ei lleoli rhwng Bethel a Llanrug ydi Tyddyn Teg. Mae’r troad cul lawr lôn arw yn cynnig cipolwg rhwng y coed a’r dail o’r degau o dwneli polythen. Mae’r holl waith ffermio a chynaeafu yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr, a’r holl gynnyrch ar gael i’w prynu mewn siop onestrwydd. Mae’r broses o bwyso a gwneud y symiau yn cystal hwyl â’r casglu!
![Dau ddyn yn gweithio y tu mewn i dŷ gwydr mawr yn llawn llysiau](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2021-01/DSC02959.jpg?h=1c9b88c9&itok=ial8ZnXk)
![Ffrwythau a llysiau mewn bocsys y tu mewn i siop ffrwythau a llysiau](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3_1x/public/media-library/2021-01/DSC02980.jpg?h=1c9b88c9&itok=QBw4SK-i)
![Eitemau bwyd ar uned silffoedd y tu mewn i siop ffrwythau a llysiau](/sites/visit/files/styles/o_articleimagegroup__portrait__3__4_3_1x/public/media-library/2021-01/DSC02978.jpg?h=1c9b88c9&itok=n1SxhdJG)
Poblado, Nantlle
Da ni’n mynd yn gyson i Poblado ac mae’n werth i bawb sy’n caru coffi drefnu ymweliad i weld y broses o neud gwahanol ‘blends’, prynu bag o ffa neu gael coffi wedi ei baratoi. Mae’r staff yn barod i adrodd hanes y ffa organig sydd wedi ei brynu’n foesol o Rwanda, Iwganda, Swmatra, Tseinia, Guatemala a Cholombia. Trowch i’r chwith allan o Poblado a fyny am chwarel Nantlle, gyda choffi yn eich llaw – a mi fydd yr holl synhwyrau yn deffro.
![Dau gwpan coffi ar fwrdd y tu allan gydag adeilad yn y cefndir](/sites/visit/files/styles/o_articleimage_fullbleed__thin_1x/public/media-library/2020-12/DSC02855.jpg?h=1656cc23&itok=G5k4YLV)